Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DAELUNYDD. 43 TRADDODIADAU CYMREIG-. Cymerwyd y traddodiadau a ganlyn o dudalenau ' Taliesin.') Y PEN PRES. MAE cliwedl werinaidd led adnabyddus yn rhanau uchaf Dyffryn Ceiriog, mewn perthynas i Ben Prês rhyfeddol a wnaed gan rhyw berson nodedig a drigai gyntyn yr ardal. Yn bresennol, nis gallaf ond crybwyll yr hyn wyf yn gofio o'r hanes niaith sydd ar draddodiad yn y wlad. A phwy yn ei bwyll o ran hyny sydd yn disgwyl i ddyn roi ar gof a chadw y pethau hyny a gladdwyd gan angof ] Ond y chwedl: fe gyinerodd rhyw hen frawd yn ei ben i wneyd lwmp o bres ar lun pen—h.y. Pen Prês. Yr oedd y Pen ar ol ei orphen 1 fedru siarad. Credid yr atebai y tri gofyniad canlynol: Beth fu ì Beth sydd ì a Beth ddaw 1 Ond nid oedd yr atebion i'r uchod i gael ei hateb gancldo, os na wnai y dyn a'i lluniai ufuddhau i'r telerau canlynol : Yn gyntaf, yr oedd yn rhaid iddo weithio arno gyda'i gŷn, am yr yspaid hirfaith o saith mlynedd, yn ddibaid—ddiddarfod ddydd a nos ; ac yn ail, nid oedd iddo gysgu dim yn ystod yr holl ainser hwnw onite fe a'i ei lafur oll yn ofer. Pwy oedd gosodwr y telerau nis gwn, na phwy oedd y dyn ni'm dawr; ond bu yn gweithio yn ddiwyd ar y Pen Prês, heb gymaint a chau ei lygaid am flynydd- oedd. Yr oedd bron wedi cyfiawni ei orchwyl heb un anaf na cholliant arno, ac yr oedd y saith mlynedd (dyna'r amser debygaf fi) o fewn ychydig ddyddiau wedi dyfod i ben. Dywedir modd bynag iddo gau ei lygaid un noson am tua haner munud, ac o'm rhan fy hun, wnawn I ddim ffeindio llawer o fai arno, os arosodd heb gysgu am chwe' blynedd a haner. Modd bynag daeth y saith mlynedd i fyny, a mawr oedd y cyffro yn y wlad pan welsant y dasg wedi ei gwneyd, a'r Pen rhyfeddol wedi ei berffeithio. Rhoed y Pen ar bolyn uchel, wrth Afon Ceiriog, ac amgylchynwyd ef gan luaws mawr o bobl. Daeth y dyn a'i lluniodd yn mlaen drwy y dyrfa. Ei wallt yn cyrhaedd tros ei ysgwyddau, ei farf yn hirllaes hyd ei forddwydydd, a'i ewinedd anferth yn gyhyd a'i fysedd. Edrychodd i fynu yn bryderus, a bloeddiodd gyda llais uchel, Beth fu !—ond nid oedd ateb. Beth sydd!—mud oedd y pen fyth. Yna crochlefai Beth fydd ! yna holltodd y pen yn bedwar darn, syrthiodd i'r ddaear, a diflanodd. Tebyg i hynyna ydyw'r chwedl a glywais, ond nas credais.—John Ceiriog Hughes. YSTORI Y LLONG FOEL. Digwyddodd, wedi cymmysgu'r ieithoedd yn Babel, ymwas- garu o hiliogaeth Gomer, ac ymdeithio drwy Orllewin-dir Ewrop, oni ddaethant hyd yn ardaloedd y Gelli, ne Ffrainc. Ac wedi trigo o honynt ennyd yno hwy ganfuasant gribau myn- yddoedd y wlad hon ; a rhai o'r gwrolaf o honynt, wedi barnu mai tir ffrwythlawn a allasai fod, o feiddiasant forio drcsodd mewn ysgraffau a chychod ; ac er na wyddynt lawer am forio y pryd hyny, eto gan nad oes ond cyfyngfor o ychydig o filldiroedd rhyngom a Ffrainc mewn rhai mannau, hwy a rwyfasant drosödd ac a diriasant yn Ynys Brydain ynghylch dau cant a deugain o flynyddoedd gwedi'r Diliw. Yna eu cyfneseifiaid yn Ffrainc a barhasant yn anfon trosodd drefedigion o bryd i bryd hyd oni chyfaneddwyd y wlad gan mwyaf ; ac er eu herlid a'u gorthrymu o herwydd eu pechod gau y Rhufeiniad a'r Saeson ac eraill, offerynau Duw, a'u gyru i greigydd Cymru, etto hwy gadwasant eu hiaith a'u cenedl yn bur hyd y dydd hwn, a dir gennyf y gwnant felly tra bo byd. Ac uwchlaw'r cyfan, ni anghofiwyd hwy ger bron yr Arglwydd, oblegid y mae mwy o Gristionogion yng Nghymru yn ol cymmaint a chymmaint, nac yn un wlad tan haul- fal y mae Cymru megis gardd fechan o blanhigion yn cael ei meithrin a'i hireiddio gan ras a gwlith bendith eu Duw, a chan- ddynt ei santaidd air ef yn eu hiaith eu hunain. O gylch yr amser y tiriasai meibion Gomer-gyntaf yn Ynys Prydain, yr oedd gwr a'i enw Peleg, ab Heber, ab Sela, ab Cainan, ab Arphaxad, ab Sem, ab Noe, yn benaeth neu'n frenhin yn Affrig, ac i hwn yr oedd pedair a'r hugain o ferched.^ Ac wedi i'r gwr hwn feddianu Affrica, efe a'i rhannodd yn bedair brenhiniaeth a'r hugain, ac a ddodwys frenhin ar bob rhann, gan roddi ei ferched iddynt. Wedi talm o amser ef a wnaeth wledd, i'r hon y gwahodd- odd Phaleg y brenhinoedd a'r brenhinesau, ys ef ei ferched a'i feibion yn y gyfraith. Ac felly, gwedi treulio Uawer o'r wledd mewn llawenydd a gorfoledd mawr, y merched gan chwedleua â'u gilydd yn y modd yma, a clian achwyn nad oeddynt yn caru eu gwyr o'u calonnau, canys o'u hanfodd y priodasant er mwyn bodd- îoni eu tad ; a myned a wnaethant i le dirgel a chydfradu ac ym- gysylltn a wnaethant yno ar i bob un ladd ei phriod y noson hono —eithr Weden, sef yr ieuangaf, a garei ei gwr yn fawr ; ond gorfu arni ymrwymo i'r cyfammod rhag ofn cael ei lladd ganddynt. Ac wedi myned bawb o honynt i'w gwelyau gyda eu gwyr, mewn parch ac anrhydedd mawr, a huno o'r tywysogion ieuainc, y gwragedd a dorasant eu gwythenau gwaed hwynt oll, onid gwr Weden. A phan oedd yr amser o'r dydd i ddyfod i'r wledd, ac awr ciniaw yn nesau, yr hen frenhin a ryfeddodd weled ei ferched yn rhodio 'r neuadd heb eu gwyr. Danfon a wnaeth i'w ceisio, ac 1 orchymyn arnynt gyfodi; ac yno y cafwyd hwynt oll yn feirw, onid gwr Weden, yr ieuangaf. A phaa wybu eu tad yn y gyfraith Iiynny, rhwygo ei ddillad, a thynu ei wallt, ac ymgynddeiriogi a wnaeth, gan beri dwyn y lladdedigion i'r neuadd, a'u gosod i eis- tedd mewn cadeiriau ger bron pawb, a myned a'r llofruddion idd eu holi gerbron barnwyr, a'ucarcharu, nes dyfod tylwyth y bren- hinoedd ieueinc ynghyd. Yno archodd ar gyfneseifiaid y brenhinoedd farnu ei ferched ef yn ol eu hewyllys ; a barnwyd hwy i'w llosgi yn ol y gyfraith. Ac wedi ysbysu i Phaleg twrw ei ferched i'w llosgi, y gorchymynodd daflu eu lludw gydt'r gwynt. Pan welodd pawb fawr ddigllonedd y tad, canniattasant i Deittys eu mham, yr hon oedd barod i doddi gan wylo, eu rhoddi cyn dyfod y dydd y barnesid i'w llosgi, ìnewn llong foel, heb hwyl heb angor, na neb ynddi ond y tair llofruddes a'r hugain yn unig, a rheini yn noethion a choronau o aur am eu pennau, yn arwydd mai brenhinesau a fuasent; a gollyngasant y llong foeli fyned lle y disgynnei ei thyngaid. A'r niodd hynny y buont yn morio hyd ymhen deuddeng Dftis a thri diwrnod. A c yna y canfuant dir ; yna y llefarodd yr hynaf, yr hon a elwicl Albion gan ddywedyd, "Oherwydcl/mai'r hynaf ydwyf, gelwir y dywarchen accw, os Duw a'n trosglwydda iddi, ar fy enw i." A c i'r lan y daethant i'r Pen- rhyn yn y Gogledd ; a gelwid y tir Ynys Albion, sef yw hynny, y Wen Ynys; ac felly y gelwid hi hydpan diriodd Brutus yma. Yna trigodd dwy a'r hugain o'r merched (oblegid buasai marw y llall ar y mor, ar enedigaeth merch) ynghyd yn hir o amser, canys ni ym- gymmysgai yr hen Frutaniaid, neu'r Cymry, er llawer, ag un math o'r estron genedl ; yr hyn sydd er cywilydd i lawer o fingam- miaid coegfalch yr oes hon, y rhai ysywaeth, y sydd hoffach gan- ddyut Flewmon o'r Ethiopa, na'u cenedl a'u hiaith eu hunain. Feîly y terfyna.—0 lyfr Owa.in Myfyr.________________________ DIPYR A DIGRIP. ABANOD RHAD.—Digwyddodd camsyniad difyrus iawn dro yn ol yn eglwys blwyfol Ll------. Yr oedd yn mwriad yr offeiriad gyhoeddi i'w gynnulleidfa y byddai iddo ar y Sabboth hwnw (yr olaf yn y mis) weinyddu yr ordinhad o fedydd. Ond cyn esgyn o'r gŵr parchedig i'r pwlpud, daeth ato un o'i wardeniaid, yr hwn ydoedd drwm iawn ei glyw, gan hysbysu y gweinidog y byddai yn fuddiol crybwyll yn gyhoeddus fo_ Uyfrau yr Ysgol Sul wedi dyfod i law, ac y dosperthid hwy y prydnawn hwnw i'r plant a ddymunent eu prynu. Felly y cytun- wyd. Ar ol y gwasanaeth, datganodd yr offeiriad ei fwriad i fedyddio, ac ychwanegai, " Bydded i bawb ohonoch a phlant genych i'w bedyddio, ddyfod â hwy yma yn y prydnawn." Ar hyn wele y warden byddar, gan dybio mai rhywbeth yn nghylch y llyfrau a ddywedai y person, yn codi ar ei draed, ac mewn Uais uchel yn cyhoeddi, er mawr syndod a difyrwch pawb, " A bydded i bob un nad yw yn perchen rhai, ac yn dymuno eu cael, ddyfod ataf fi, a chant hwy am chwe' cheiniog yr un !" Penderfyniadau Gwyddelig.—Darfu i Uchel Reithwyr sir benodol yn y Werddon basio yn ddiweddar y penderfyniadau canlynol. 1. Fod y carchar presennol yn rhy fychan, ac y bydd raid adeiladu un arall. 2. Fod defnyddiau yr hen garchar i fyned at adeiladu yr un newydd. 3. Fod yn rhaid gorphen y carchar newydd cyn tynu yr hen i lawr. Gwyddoniaeth.—" Beth yw gwyddoniaeth ?" gofynai athraw wrth ddisgybl craff-ysmala. " Gwyddoniaeth," ydoedd yr ateb, " ydyw pobpeth nad ydych yn ei ddeall. Y mynyd y deallir ef, nid yw mwyach yn wyddoniaeth." Y Perygl o Ddefnyddio Geiriau Swnfawr.—PrSgethwr Cymreig, wedi myned i hwyl, a'i lithrigrwydd ymadrodd wedi cryfhau yn fawr, a drodd yn seryddol ei gymhariaethau gan ddyweyd y "gallai fod enaid dyn, am ddim a wyddai ef yn amgen, yn myned i'r nefoedd heibio i Gaergwydion." Y boreu nesaf (dydd Llun) cyfarfyddodd â hen wraig dlawd ond duwiol, yr hon oedd aelod o'i eglwys, a gofynodd iddi, " Beth sydd ar- eich meddwl heddyw, Beti ]" "Yn wir, syr, mae rhywbeth newyddi'w gael o hyd yn eich pregethau." " Mae yn dda iawn genyf glywed, Beti; beth gawsoch chwi ddiweddaf f' " Wel, y peth ddeudsoch chwi ddoe ; ni wyddwn i ddim o'r blaen, yn siwr ddigon, syr, fod enaid dyn yn mynéd i'r nefoedd trwy Gerigydruidion !" Ymaith â'r pregethwr yn synedig ac ychydig yn gaílach. Gwallau Y Wasg.—Digrifol iawn ydynt y gwallau a wneir weithiau gan argraphwyr ; ond nid yn fynych y ceir digrifach na'r canlynol. Yr oedd y golygydd wedi ysgrifenu yn frysiog, ac, fe ddichon, yn lled aneglur, am farwelaeth Dr Livingstone—" Bu farw yn ei hut, a'r byd ar ffo." Dychmygwch ei syndod foreu dran- oeth wrth ddarllen y geiriau a ganlyn yn ei newyddiadur :—" Bu farw yn ei het ar bys a ffa." Dylasai y cysodydd a wnaeth hyn gael ei alltudio o'r wlad !____________________________________ Y BYD YN TROI. ( Americanaidd.) I. Amaethwyr 1825. Y gŵr at yr aradr i droi— Y wraig at y buchod a'r Uoi: Y merched i nyddu y wlanen glyd, Yr hogiau i'r lloriau i ddyrnu'r yd, Ac oll cyn ddedwydded yn gweithio yn nghyd. II. Amaethwyr 1860. Y gŵr yn rhodiana y ffeiriau mor Uon— Y wraig—sidan newydd bob lleuad o'r bron. Y merched yn chwareu'r berdoneg mor goeg— A'r hogiau'n baldorddi eu Lladin a'u Groeg, A beüi'r Cwrt Bach yn eu poeni o hyd. III. Amaethwyr 1877. Y gẃr yn llawn dyled i bawb yn y byd, Y wraig yn llawn moethau a gwenwyn i gyd ; Yr hogiau'n grachfonedd, ynfytaf fu 'rioed, A'r merched yn rhidens o'r coryn i'r troed, A thwyllant bob dyn, os bydd modd yn y byd. Cemmes, Mont. Mynyddog.