Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RH/F VI. CYFROL II. MEHEFIN, 1877. PRIS CEINIOG. Y PARCH. B. HERBER BVANS, CABRNARPON. VANS, Caemarfon ! Dyna enw sydd bellach yn un o'r rhai hyny ag ydynt yn eiriau teuluaidd gan yr holl genedl Gymreig ; ac y mae hefyd yn un o'r ychydig enwau hyny a ddaliant eu cyfieithu, canys y mae " The Rev. Herber Evans, of Camarven," yn enw sydd yn hysbys iawn, ac mewn bri mawr yn mhlith y Saeson, y rhai a fawr edmygant ddoniau areithyddol y gẃr sydd yn ei wisgo, ac a roddasant brofion sylweddol o'u hed- rnygedd drwy ei wahodd yn daer i ymsefydlu yn eu plith i lafurio inewn rhai o'r cylchoedd pwysicaf a fedd " Independia " yn Lloegr. Ond gan nad ydynt wedi llwyddo i'w enill yn gwbl oll, mynant y mweliad mynych gan- ddo, f el nad y w yn beth anghyffredin iddo fod un Sabboth yn preg- ethu i gapelaid o wlad- wyr cyffredin yn Lleyn neu Arfon,nes eu synu a'u cynhyrfu, a'u toddi gan ei arabedd miniog a'i hyawdledd tanbaid, a'r Sabboth drachefn yn pregethu gyda dy- lanwad cyffelyb yn un o demlau ysplenydd y Brifddinas 1 gynnull- eidfa fawr ffasiynol, yn yr hon y ceir llawer sydd wedi arfer gwran- do ar y rhai a ystyrir yn oreugwyr y pwlpud yn yr oes hon. Ganwyd Herber yn y flwyddyn 1837, yn Pantyronen, ger Cas- tell Newydd Emlyn. Pan ydoedd yn ieuanc symudodd y teulu i Pont Selly, pentref tlws yn sir Benfro. Treuliodd ei febyd gyda'i daid a'i nain yn Pen yr Herber, fferm- dy cyfagos. Enw ei dad oedd Joshua Evans, crefftwr med- rus o beiriannwr, yr hwn oedd liefyd yn ddiacon yn yr eglwys Annibynol yn Pont Selly, ac yn un a berchid ac a hoffid yn fawr gan bawb a'i had- waenai. Nid oes ond ychydig wythnosau er pan yr ymadawodd ef â'r fuchedd hon, ond erys y fam eto i lawen- ychu yn llwyddiant ei niab enwog. Dywedir gan rai sydd yn gyd- nabyddus â'r teulu ì'od Herber, fel llawer gẃr enwog arall, yn ddy- ledus i'w rieni, i'w fam yn enwedig, am lawer o'r teithi hyny ag sydd mor amlwg ynddo, ac i'r rhai y mae ei lwyddiant a'i enwog- rwydd i'w priodoli. Wedi treulio ei gwrs ar yr aelwyd gartref ac yn yr ysgol, aeth i Liverpool, a dechreuudd^ ei fywyd yno fel drajwr's assistant; ac os oedd hanner mor ddoniol tu ol i'r counter yn cymhell nwyddau ei feistr ar y cwsmeriaid ag ydyw yn awr yn y pwlpud yn cymhell gras Duw ar'ei wrandawyr, tybiem yn sicr y gallai ei feistr fod wedi gwneyd ei ffortun yn ystod yr ychydig flynyddoedd y bu Evans ieuanc yn ei wasanaeth. Ar ei fynediad * Liverpool cyflwynodd ei hun i hen eglwys y Tabernacl, Great Crosshall Street, a chadwodd ei gymeriad yn ddilychwin a'i broffes yn ddisglaer er gwaethaf temtasiynau y dref fawr. r3erbyniodd eglwys y Tabernacl ef i'w chymdeithas, fel y derbyniodd lawer bachgen ieuanc cyn ac wedi hyny, heb feddwl fawr, hwyraoh, eí bod yn derbyn un a fyddai yn un o'i haddurniadau penaf. Nid yn hir y bu yno cyn i'w ddoniaii ei ddwyn i sylw feî un j gellid pregethwr ohono. Cymhellwyd ef i ddechreu ar y gwaith, a chyd* syniodd yntaii, a bu y tro cyntaf iddo bregethu yn foddion i osod argraph ar feddwl y rhai a'i gwrandawsant, nid yn unig y gwnai bregethwr, ond y gwnai bregethwr mawr hefyd. Y Welsh Spnrgeon oedd yr enw a osodid arno y pryd hwnw drwy gydsyniad cyffredinol, ac wrth yr enw hwnw yr adnab- yddid ef tra y bu yn y coleg yn Aberhonddu. i ba le yr aeth ar oí treulio ychydig amser dan addysg y diweddar Dr Evan Davies, Aber- tawe. Ond wedi iddo ddyfod allan o'r coleg, lle y bu am bedair blynedd, ymroddodd yn gwbl i'r gwaith o bregethu, a gwnaeth y fath gynnydd fel y cafodd ei enw ei hun gan y wlad yn lle yr enw ready-niade. a fen- thycwyd iddo ár y dechreu. Yn y flwyddyn 1862 ordeiniwyd ef yn wein- idog ar eglwys Liban- us, Treforris. Vn y flwyddyn lSöösymud- odd i Gaernarfon, lle y mae yn awr, ar ol un mlynedd ar ddeg o lafur, yn uwch yn mharch a serch ei eg- lwys a'r gynnulleidfa nag erioed. Arosed yn Nghaemarfon, ond os symuda oddiyno na symuded o Gymru, eithr atebed bob cais a ddanfonir ato o fan- au ereill yn ngeiriau y Sunamees wrth Eli- seus, "Ynnghanol %■ mhobl yr ydwyf fì yn trigo,"ydyw dymuniad yr eglwysi yn gyffred- inol. Pe symudai i Lundain, nid ychwan- egai hyny fyniryn at ei glod, bellach, a phe symudai i Aberdaron ni thynai hyny ddim oddiwrtho ychwaith; canys y mae Herber yn un o'r dynion hyny allant fforddio syniuä i'r fan y mynont Pe symudai i Aberdaron ni ddywedid ei fod ef "yn myned yn olyn y byd," ond yn hytrach fod Aberdaron yn dyfod yn mlaen yn y byd. Ond y mae yn anhawdd genym gredu y gelhr ei ddenu o Gaernarfon yn rhwydd iawn, am mai yno y mae bedd ei anwyl " Jenny," chwedl yntau. IMerch ydoedd hi i'r diweddar Mr. John Hughes, watchmaker, o'r dref hono, â'r hon yr ymbriododd Herberynfuan wedi ei sefydliad yn weinidog ar eglwys Salem. Bu iddo ddau o blant, ond y mae un ohonynt yn gorwedd yn mynwes ei mam yn mynwent Llan- beblig. Cafodd yn Mrs. Evans rodd gan yr Arglwydd o'r fath fwyaf ei gwerth, ac yr oedd ei marwolaeth, ddisymwth braidd, yn destyn syndod a galar hyd yn mhell, canys y>r oedd hi yn ei chylch ei hun lawn mor gymeradwy a'i gẃr yn ei gylch yntau.