Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

34 Y DARLUNYDD. leshau ei sir. F^el pendefig Seneddol, Barwnig, Arglwydd Rnglaw Meirionydd, Ls-lyngesydd Gwynedd, ac ynad yn siroedd Fflint, Caernarfon, a Meirionydd, y inae yn adnabyddus i ni oll, ac yn hawjio ein parch nodedig ; ond. fel Cyniro o waedoliaeth, o ened- igaeth, ac o deinilad, yr ydyni yn teinúo yn gynhes tuag ato fel tuagat benaeth. Gwyddoni, ac am hyny yr ydyin yn tystiol- íiethu, ei fod yn caru ein cènedl ni â chariad diysgog, ac yn y niodd hwn sicrhaodd iddo ei huu a'r eiddo y cyfeillgarwch hwnw sydd yn cydio dyn wrth ddyn, a phobloedd lawer wrth un dyn yn anad neb arall. Ar ei ddyrchafiad i Dy'r Arglwyddi dilynwryd ef yn nghynnrychiolaeth sir Fflint gan ei fab henaf, Thonias Edward Mostyn Lloyd Mostyn, gŵr ieuanc o alluoedd da a t yrfa Seneddol lwyddiannus o'i flaen. Da yr ydyni yn cofio ei eni, ei ddyfodiad i'w oed, a'i briodas gyda'r Lady Áugusta Neville, genedigaeth eu mab henaf, Llewelyn Neville Vaugban, yn 1856, a'r diwrnod du i'r teulu yn 1861, pan fu farw yr aelod anrhydeddus. Y fath gyfrol o hanes teuluol a wnai amgylchiadau tymhor byr yr un bywyd hwnw ! Er hyny, wrth adolygu y cyfan yn gywir, gellir yn ddilys ddyweyd fod Arglwydcl Mostyn yn yr oedran teg a'r cyfiawnder dyddiau o ddwy flynedd a phedwar ugain, yn dwyn gydag ef loncryfarchiadau calonog ei holl gydwladŵyr ar achlysur dyfodiad ei ŵyr i'w oed y dyddiau hyn. Gobeithiwn y bydd i'r gŵr ieuanc hwn gotjo yn wastadol ei fod yn Fostyn o Fostyn, ac, yn benaf dim, mai arwyddair ei deulu trwy'r oesoedd ydoedd Tkos Dduw. y Bobl, a Rhyddid, ac nas dichon un o'r Mostyniaid byth anfíhofio hyn na'i fwrw ymaith os myn gadw ei anrhydedd. Y maé y darlun ar yr ochr arall yn ardeb cywir o Arglwydd Mostyn fel y mae yn awr. Gwelir yn y wyneb yr holl garedig- rwydd, rhywiogrwydd, gonestrwydd, a'r meddylgarwch ani ba rai y mae wedi bod yn hynod drwy ei oes. Ni fu efe erioed yn areithiwr gwych, ond darfu i'r llygad bywiog a'r wynebpryd siriol oeddynt ger ein bron yn Fflint yn y flwyddyn 1831 siarad yn fwy hyawdl dros eu perchenog nag y gallasai unrhyw iaith byth wneyd. Yr oedd yno rhyw arwydd o wiredd yn ngwyneb y dyn a anrhydedd- odd pawb ; ac felly yn awr, canys nis ^gall oedran a phrofedig- aethau bywyd ddileu y ddeíw euraidd hono, ac^ychydig yn wir sydd ohonom na chynnygiant eu teyrnged o foliant digyniysg i'w pymeriad, nid fel poeth-offrwm i'w foddio ef, ond fel datganiad diffuant o'n barn am dano, ac o'r argyhoeddiad diysgog sydd genym mai hyn a dim arasfen sydd ddyledus iddo. Pan gychwynodd Arglwydd Mostyn ei yrfa gyhoeddus, nid oedd Prydain yr hyn yr ymffrostia ei bod yn a.wr. Yr oedd ei marsiandwyr. yn perchen caethion ; ei gwychder ■ masnachol o gread dychymyg ; ei rhyddid crefyddol yn ffug ; a'i " Brythoniaid rhydd-anedig" yn dẁr o hogiau a genethod ni-waeth-am-danynt a diddysp.. Ond credai Arglwydd Mostyn yri yr egwyddorion mawr a ddatfiranwyd gan ei gyndadau Rhyddfrydig—datganiad a arweiniodd i'r Chwyldroad Mawr ; ac ni a'i cäwn, gan hyny, yn cynnorthwyo y symudiadau yn erbyn caethwasi'aeth, dros ryddid masnachol, rhyddfreiniad y Pabyddion, diddýmiad y cyfreithiau diangenrhaid a garw a orthryment yr Ymneìllduwyr, yn nghyda hyrwyddiad achos addysg yn mhlith y bobl yn gyffredinol. Er ei fod ei hunan yn Eglwyswr ac yn Brotestant, yn dirfeddiannwr mawr, yn mwynhau pob mantais a roddài safle gymdéithasol a ehyfoeth iddo, nid anghofiodd, wedi'r cwbl, nad oedd efe amgen na dyn, yn gyfrifol i Dduw am yr oll a wnai, a'r oll na wnai, yr un modd a dynion ereill iseleu byd a phrin eu moddion ; a dewisodd yn hytrach wneyd yr hyn oedd iawn, a dioddef yn llwybr cyfiawn- der, na thra-arglwyddiaethu ar ei gyd-dcTynion er mwyn sicrhau cymeradwyaeth bydol-ddoetliiòn y rhai ni welant, hyd yn nod draw yn y pellder. pa fodd y cyfnewidiai ychydig .flynyddau berthynasau dosparth a dosparth yn Mhrydain, a pha fodd y sicr- häent i'r bobl allu heb ei gymhar yn un man arall o'r byd. Na feddylier ein bod yn çondemnio y rhai nad ydynt yn cydweled â ni, ond os oes i haiiesiaeth lais, ac 08 yw hanes y triugain mlyn- edd diweddaf i lefaru, adrodded y wir ystori am gynnydd Prydain yn wleidyddòl, cymdeithasol, masnachoj, a chrefyddol yn ystod yr vspaid hwnw o amser, a pha fodd y dygwyd byny.oddiamgyich, a borldlonwn i dderbyn dedfryd gwin'onedd .fel yn cyfiawnhau yn sîeraf a roreu y cwrs a gyniesodd Arglwydd Mostyn yn ac allan o'r Senedd drwy yr holl gyfnod y cyfeiriwyd ato. Yn- y dyddiau hyny cafodd y Cymry amddiffynwyr cedyrn, dan Dduw, yri y Mostyniaid, y rhai a ganfyddent amser gwell yn gwawrio mewn Beibl agored, cymdeithasau cenadol,ysgolion anenwadol, argraph- wasg rydd, a lluaws o bethau ereill nas rhaid eu henwi, ac estyn- asant ddwylaw croesawus i bob un a geisiai hyrwyddo y cyfryw symudiadau, gan ewyllysio " Duw'n rhwydd" iddynt Fel y svllaf ar y darlun hwn sydd Ofymlaen^yr wyf yn diffuant ddiolch i Dduw am roddi yn nghalon Arglwydd' Mostyn y jtenderfyniad i sefyll yn ffyddlon i'r ffydd ardderchoj? á goronodd ei heiiafinid â chymaint goii'oniant; a thra yn adalw i gôf y dyddiau a'r blynyddau a aethant heibio er r>an welais ef gyntaf— gan, hefyd, íryrneryd i ystyriaeth ei holl ffaeleddau, canys pwy ohonom nad yw yn cyfeiliorni?—nis gwn am lawer a aethant drwy fywyd yn fwy dilycbwin a dilwgr gan y byd nag ef. Y mae dyddiau ei bererindod yn prysur ddirwyn i ben ; ac yn ol trefn natur, bydd un arall o'i deulu cyn bo hiryn cymeryd ei le ; ond araf, araf iaAvn, y delo y cyfnewidiad ; heulog, heulog iawn, fyddo yr byn sydd yn ol o'i ddyddiau ar y ddaear : yn Sdedwydd ei feddwl ac yn ei gylch teuluaidd, yn gyfoetho»; o bob cysur a ddichon ysgafnhau blynyddoedd ei henoed, bydded iddo, pan ddêl y diwedd, .eael myned i fyd sydd ddisgleiriach a gAvell, yn addfed i'r oi^phwysfa a addawyd i'r rhai trwy ffydd a ddisarwyliant weled a niwynhau cariad a chvindeithas dragwyddol Duw yn v nef. Caerlleon, Ebrill, 1877. E. G. S. GWBLL NAG AUR COETIL R yr lleg o Fawrth diweddaf, cyrhaeddodd Mr. John Robert Davies, mab henaf Mr. Richard Davies, A.S. dros sir Fon, ei unfed flwydd ar ugain oed ; ac ar y dydd Mawrth canlynol dathlwyd yr amgylchiad gyda brwdfrydedd mawr. Ar yr achlysur hwnw annerchwyd y gŵr ieuanc a'i gyf- eillion fel y canlyn gan y Parch. Dr. W. Rees (Gwilym Hiraethog):— " Y mae yn Uawen genyf," eb efe, " fod yn bresennol yma ar adeg y digwyddiad dedwydd hwn yn hanes y teulu a chydgyfranogi yn eu llawenydd ar yr achlysur. Bu llawer diwmod fel yr un hwn, ar yr unrhyw achlysur, mewn aml i balas, nad oedd bywyd blaenorol yr hwm a anrhydeddid yn rhoddi sail dda i'r rhieni a'r' teulu i gasglu neinawr o obaith a hyder am dano yn y dyfodol. Nid felly yma heddyw. Wrth adolygu bywyd blaenorol y mab a'r etifedd ar yr amgylchiad presennol, nid oes gan y rhieni a'r teulu a'u cyf- eillion ddim i otìdio o'i herwydd wrth edrych arno, ond seiüau da i obeithio y goreu am dano yn y dyfodol. A pha ddiolch a allant hwy ad-dalu i Dduw am hyny! Y mae mawredd y rhwymedigaeth yn fwy nag y gallasent byth ei thejmlo. "Ac, fy machgen i (gan droi at Mr. J. R. Davies), y ìnae hwn yn ddydd i'w gotìo i chwi am byth, ac y mae i'w obeithio y bydd i chwi fyw yn hir i'w gofio ac i adfyfyrio arno, ac y bydd y tymhor a aeth heibio o'ch bywyd yn ernes o'r hyn a fydd eto. Ewch.yn mlaen yri y ffordd y gosodwyd chwi arm ar yr aelwyd gartrer. Yr ydych y'n fab miloedd o weddiau. Yr oedd un a weddiodd lawer ar eich rhan yn eich babandod, ac yn nyddiau boreuaf eich ieuenctid, nad yw yn bresennol yma heddyw; jie buasai ef yn fyw cymerasai ddwfn ddyddordeb yn yr amgylch- iad hwn, gan adnewyddu ei weddiau a'i ddiolch drosoch. Hyderwn fod ei weddiau ef a gweddiau eich rhieni ar eich rhan 'wedi eu gwrando, ac y cânt eu gwrand* a'u hateb eto. Cy- merwch y Beibl a gyflwynwyd i chwi yn arglwydd eich bywyd. Darllenwch ef. Darllenwch ef yn Hebraeg. Gallwch wneyd hyny, mi debygaf. Darllenwch ef yn Groeg. Darllenwch ef yn Saesneg—heb esgeuluso yr hen Gymraeg (cymeradwyaeth). Y mae rhywbeth yn y Beibl Cymraeg yn rhagori ar y Beibl Hebraeg a'r Groeg (cymeradwyaeth). Cylymẃch ei orchyinynion am eich gwddf, ysgrifenwch ef ar lech eich calon. 'Felly ycei di ras a deall da gerbron Duw a dynion. Yna y cei rodio dy ftbrdd yn ddiofal, a'th draed ni thramgwydda.' Felly bydd eich bywyd yn fywyd cysurus, bendithiol, a defnyddiol, ac y bydd y diwedd yn dangnefedd. Amen." Yn ystod traddodiad y sylwadau difrifol uchod, a'r dull teimladwy a tharawiadol y cyfeiriai Dr. Rees at weddiau y taid (y Parch. Henry Rees) heb ei enwi, yr oêdd arwyddion o ddifrifwch i'w canfod ar bob wyneb yn yr ystafell eang. PETHAÜ NAD TW PAWBYN Eü GWYBOD. IOD amgylchedd y ddaêar yn 24,889 milldir. Fod 240,000 miìldir i'r Ueuad. . Fod tryfesur yr haul yn 880,000'miHdir. Fod 92,000,000 milldir i'r hauf. Fod dros 1,000 filiwn o bobl yn preswylio ar y ddaear. Fod uchder y cymylau o chwarter milidir i saith milldir. Fod y mynyddoedd mwyaf o bedair i bum' milldir o uchder. Fod dwfr yn berwi pan fyddo ei boethder yn 212 gradd. Fod dwfr yn rhewi pan oera í 32 gradd. Fod gwres yr haf yn Lloegr o 60 i 90 gradd ; a gwres y gauaf o 40 i-10 gradd. Fod dẃfr 830 gwaith tryuiach nag awyr. Fod aur 19 gwaith trymach na dwfr.; arian, 10 gwaith ; ac haiarh 7 gwaith,.- Fod pelydrau yr haul o dri lliw gwahanol :—Coch, yn tros- glwyddo gwres ; melyn, yn trosglwyddo goleuni; a glas yn tros- glwyddo gweithrediadau fferyllaidd; y tri yn unedig a ffurfiant gymysgedd di-liw. Fod goleuni yn teithio tua 192,000 milldir mewn eiliad. Fod eoleuni yn alluog i fyned o amgylch y ddaear yn y 18fed ran o eiliad. Fod goleuni yn cymeryd 1| eiliad i ddyfod i'r ddaear ò'r lleuad ; 8 mynyd o'r haul; 52 mynyd o Iau ; a 2 awr o Uranus. Fod goleuni yn cyineryd o 3 i 12 mlynedd i ddyfod i'r ddaeai' o seren sefydlog o'r maintioli cyntaf; 20 mlynedd o un o'r ail; 30 mlynedd 0 un o'r trydydd ; 45 mlynedd o un o'r peclwerydd ; 66 mlynedd o un o'r pummed ; 96 miynedd o un o'r chweched ; 180 mlynedd o un o'r seithfed ; a 4,000 o flynyddoedd 0 un o'r deu- ddegfed maintioli. Focl sŵn yn myned drwy yr awyr gyda chyflymdra Ô 1,130 troedfedd mewn eiliad; 4,900, hyd ddwfr; 11,090, hyd haiam bM^rw ; 17,000, hyd ddur ; 18,000, hyd wydr ; ac 0 4,636 i 17,000 troedfedd mewn eiliad hyd goed. Fod awyr oer yn drosgìwyddydd rhagorach i sŵn nag awyr boeth. Fẃd sisialiad yn teithio gan íryflymed a sŵn ergyd o gyflegr. Fod preswylwyr y Gogledd (74 gradd 30 mynyd), yn ol tystiol- aeth y Cadben Parry. yn gallu ymddiddan â'u gilydd pan fyddont filldir oddiwrth y naill y lla.ll. Ciuto.