GYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF IV. CYFROL II. EBRiLL, 1877. PRIS CEINIOG. RICHARD DAVIES, YSW., A.S. DROS SIR FON. "ICHARD DAVIES, Ysw., A.S. dros Fon, a anwyd G yn Llangefni yn 1818. Yr oedd ei daid, o du ei dad, yn dyddynwr ar ei dir ei hun yn Llangristiolus. Ei fab Richard, tad ein gwron, wedi h«deg dros y nytb, a sefydlodd yn fasnacbwr yn Llangefni. Yn ddyn cryf o gorpb, enaid, a synwyr; crefy ddol, gonest, a didderbyn-wyneb, llwyddodd yn ei fasnach a daeth yn ddyn o ddylanwad eang yn ei ardal; yn gymaint felly fel y geîwid ef y " Brenin Dafydd." Heblaw dwy o ferched, bu iddo dri o feibion—John, Robert, a Richard, oll o'r un bryd ac ysbryd â'u tad, yn grefyddol, gwladol, a masnachol. Daeth Llangefni yn rhy fychan o faesi'w hym- egníon masnachol; ymestynasant hyd Traethcoch a Phorth- aethwy. Yrn y lle olaf yr ymsefydlodd Mr. John Davies, y mab hynaf. Efe ydoedd fab addfwyn a llonydd, a gerid ac a berchid gan bawb a'i hadwaenai. Yn meddu llygaid eryr i weled masnach yn bell ac agos, meddwl gwrol ac anturiaethus, yn nghyd a doethineb i reoleiddio y cyfan, Uwyddodd ac ym- eangodd masnach " Richard Davies a'i Feibion " yn enfawr trwyddo. Ónd er mor dda a defnyddiol ydoedd Mr. John Davies, efe a fu farw yn mlodeu ei ddydd- iau, a daeth ei frawd ieuengaf, Mr. Richard Davies, i gymeryd ei le. Er mor gryf yw pyrth angau i darfu pethau daearol, er marw Mr. John Davie3 a'i dad, eto parhau i lwyddo a thyfu a ddarfu y fasnach o dan lywodraeth y ddau frawd, Robert a Richard, a'u cwm- peini, nes y mae y firm weithian yn un o'r rhai eangaf yn y byd o ran nifer tunelliaeth eu llongau ac elw blynyddol yr anturiaethau. Profir hyn trwy luosowgrwydd y ffermydd, tai, a thiroedd, a brynwyd gan y ddau frawd yn y "Werddon, yn Mon, ac yn Arfon. Yn 1855 priododd Mr. Richard Davies unig ferch y diweddar Barch. Henry Rees ; gwenodd Rhagluniaeth ar y weithred, fel erbyn heddyw y mae " ei dylwyth yn wyth neu naw," a phob un o honynt yn fwy gwerthfawr ganddo na'i holl longau, ei diroedd, a'i arian. Y dydd o'r blaen, Mawrth 13, yr oeddys yn dathlu dyfodiad ei fab hynaf, Mr. John Robert Davies, i'w oed; ac y mae yr hyn a wnaed i'r perwyl yn dystiolaeth ansigladwy o gymeriad parchus ac anrhydeddus teulu Treborth gan fawr a bach yn Mon ac Arfon. Ychydig o flynyddau yn ol prynodd Mr. Davies dir a thai Treborth, ac adeiladodd arno annedd ysblenydd a helaeth ; ar lanerch yn meddu y golygfeydd pryd- ferthaf y gellid eu dymuno—Mon fel gardd o'i flaen, mynyddau cribog Arfon o'i ol, a'r Menai a'i phrydferthion o Beaumaris i Gaernarfon o'i ddau ben. Prawf arall o barch, hyd yn oed gan fawr- ion y wlad, i Mr. Davies a'i frawd, yw eu bod wedi eu penodi yn ynadon heddwch dros Fon ac Arfon. Y mae y ddau yn Ymneillduwyr mewn gair a gweithred, a'u penodwyr i fod yn ynadon yn Eglwys- wyr; rhaid oedd fod anrhydedd a pharch y ddau frawd yn anghyffredin. Bu cynnrychiolaeth Mon yn y Senedd am oesau yn llaw rhyw dri neu bedwar o deuluoedd mawrion y wlad. Pwy bynag a fynai rhyw ddau neu dri o'rteuluoedd hyna yrid i'r Senedd. Yn 1868 amlygodd y diweddar Syr Richard Bulkeley ei fwriad o roddi i fyny fyned i'r Senedd dros swydd Fon. Trowyd golwg y rhan fwyaf o bobl Mon ar Mr. Davies, ac etholwyd ef yn ddiwrthwynebiad i fod yn aelod seneddol dros wlad ei enedig- aeth. Prin y mae yn gywir dywedyd fod ei etholiad yn ddiwrth- wynebiad; gwir nad aethyr un gwrthwyn- eby dd ymlaen i'r prawf pleidleisiol, ond yr oedd yn y wlad lawer o bobl yn ofidus i weled siopwr yn cael ei ddyrehafu i le nad ystyrient neb yn deilwng iddo ond barwn neu arglwydd. Bu raid i'r blaid hon oddef tywallt y dwfr oer hwn i'w clustiau ; aeth Mr. Davies i'r Senedd, a chyflawnodd ei oruchwyliaeth yn ffyddlon a da. Daeth etholiad cyffredinol drachefn yn 1874, a chymerodd y blaid Geidwadol galon; galwasant eu byddinoeddyn nghyd a threfnasant eu rhengau i ymladd yn erbyn Mr. Davies ac o blaid Capt. Bulkeley, yr hwn erbyn hyn oedd wedi gwrthod gwladlywyddiaeth ei dad a dyfod allan yn Geidwadwr. Yr oedd yn anhawdd i'r Toriaid beidio bod yn galonog a hyderus.