Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DARLUNYDD. Rhif 4. GORPHENAF, 1876. Pris Ceiniog. Y PARCH. W. REES, D.D. YMA ddarlun o wr sydd yn " Bwysau dyn heb eisieu darn," Vn mha glorian bynag y tafolir ef. Ar rai Vstyriaethau y mae y cymeriad anhawddaf ei ddeongli o'r un a adwaenom ; nid oher- wydd fod unrhyw blygion ynddo—ni bu dyn ^oed yn fwy unplyg, cywir, ac uniawn. Jrn(^ teimlwn fcd ein llinyn yn rhy fyr i'w lesur o un cyfeiriad. Y mae y fath ddyfnder arabedd, y faih orucheledd dychymyg, y fath tìya darfelydd, y fath led athrylith, yn perthyn iddo, nas gallwn eu nodi ä ffigyrau, sydd y dyweyd wrthym, pan yn neshau ato, Saf draw ! Eto, y mae y fath ddiniweidrwydd, hynawsedd, ac addfwynder yn perthyn iddo sydd yn ein cymhell yn mlaen. Nid ocs yn fyw heddyw yn ein gwlad wr a anrhydsddwyd ac a. anrhydeddir yn fwy, eto nid oes ar y ddaear gron wr llai ymhongar. Ganwyd ef Tachwedd 8fed, 1802, yn Chwibren Isaf, plwyf Llansanan, swydd Ddinbych. Pan tua thair blwydd oed diffoddwyd canwyll ei lygad de gan y frech wen. Aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ydoedd ei rieni, er na fu ef ei hun erioed yn aelod ond gyda'r enwad y perthyn yn awr iddo. Ordeiniwyd ef i'r wein-