Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SANTEIDDIAD. Mae i'r gair santeiddio ddau feddwl. Mae yn golygu yn aml iawn yn y Beibl neillduad a chysegriad peth nou berson i ddybenion crefyddol. Mae y dydd Sabbath yn santaidd. Fe ddywedir i'r Arglwydd ei santeiddio, "Am hyny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac a'i santeiddiodd ef." Cymhellir ninau i'w santeiddio—" Cofia y dydd Sabbath i'w santeiddio ef.'' Mae y Sabbath wedi ei santeiddio nid am fod dim ynddo fel dydd yn wahanol i'r diwrnodau ereill, ond amfod yr Arglwydd wedi ei neillduo o blith yr holl ddyddiau ereill, fel dydd yn yr hwn " na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddyeithr ddyn a fyddo o fewn dy byrtb." Gan fod yr Arglwydd wedi neillduo y dydd hwn, nid yn unig mewn ystyr nacaol, yn yr hwn yr ydym i beidio gwneud dim gwaith, hyny yw, ein gorchwylion dyddiol, ond hefyd mewn ystyr gadarnhaol, yn yr hwn yr ydym i ymgynull at ein gilydd i addoli Duw; mae hyn yn gwneucl y dydd hwn yn wahanol i'r dyddiau ereill. Yr oedd pob cyntafanedig yn Israel yn santaidd yn yr ystyr o neill- duad neu gysegriad. Tarawodd yr Arglwydd bob cyntafanedig yn ngwlad yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; ac wedi eu dyfod allan, gorchym- ynodd yr Arglwydd i Israel i gysegru eu cyntafanedig iddo Ef, yn ddyn ac yn anifail, oblegyd ei hawl gyfiawn mewn modd neillduol iddynt ar gyfrif eu gwaredigaeth yn ngwyneb y farn a oddiweddodd yr Aifftiaid. Ac meddai, " Cysegra i mi bob cyntafanedig, sef beth bynag a agoro y groth yn mysg meibion Israel, o ddyn ac anifaii, eiddof fi y w." G-elwid yr Iddewon yn genedl santaidd. Nid am eu bod yn meddu perffeithrwydd calon a buchedd. Mae genym lawer o enghreifftiau o wrthryfel yn eu calonau, a gwrthgiliad yn eu bucheddau oddiwrth y gwir Dduw at eilunod ; ond gelwid hwynt yn genedl santaidd am ddarfod i'r Arglwydd eu neillduo o blith holl genedloedd y byd i fod yn fwy uniongyrchol o dan ei amddiffyniad Ef, i dderbyn bendithion neill- duol ganddo, ac i fod yn gyfrwng trosglwyddiad ei wirionedd i'r oesau dilynol. Dywedir fod y deml wedi ei santeiddio, " Ac yn awr mi a ddetholais ac a santeiddiais y ty hwn i fod fy enw yno hyd byth; fy llygaid hefyd a'm calon a fyddant yno yn wastadol." Adeiladwyd y deml a chysegr- wyd hi fel lle i'w bobl i addoli, ac fel lle y presenoldeb dwyfol mewn moddneillduol; acyr oeddycysegriadhwni'rdybenionhyn yneigwneud 37