Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRNIAD. EIN CYNULLIADAU CREFYDDOL. Y mae crefydd yn beth naturiol i ddyn ; nid yw yn wrthun gandcîo y drychfeddwl. Y mae yn fod addolgar—yn teimlo awydd i dalu gwarogaeth, ac i addoli; a hefyd yn meddu y gallu neu y cymhwys- der i wneuthur hyny. Dengys banesiaeth y byd yn eglur mai crefydd sydd yn cymeryd yr afael ddyfnaf ar ddynoliaeth. Cred dyn yn anfarwoldeb yr enaid, adgyfodiad y corff, a sefyllfa ddyfodol, a dylanwadir ef yn bwerus gan y syniad ; os ceir rhai fel arall, eithriaid i'r rheol ydynt. Y mae ymgais mewn dyn am ddedwyddwch, ac ym- wybodolrwydd hefyd o drueni ac euogrwydd; teimla eisieu Duw— addola rywbeth, ac ymddiried ynddo am ei fywyd. Profìr hyn gan amlder duwiau y cenedloedd, a'r dulliau o'u haddoli drwy holl oesau'r ddaiar. Y mae dyn wedi meddu crefydd bersonol, yn awyddu am grefydd gymdeithasol. Nid yw holl elfenau cyfansawdd ei feddwl yn cael eu dadblygu ond mewn cymdeithas, ac nis dadblygir hwy mor gyflawn a chan grefydd. Dyg crefydd yr oll o'r dyn allan; a phan gyferfydd dau neu ragor o ddynion cyffelyb mewn egwyddor, barn, ac amcan, ym- wasgant a'u gilydd—ymuna elfenau cydrywiol; ac os er dwyn yn mlaen grefydd, dyna gynulliad crefyddol, fel cymanfaoedd yr Iddewon, uchel- wyliau y Paganiaid, a chyfarfodydd amryfath y Cristionogion. Wedi ceisio dangos cyfaddasder crefydd i ddyn fel bod addolgar a chymdeith- asgar, oddiwrth gyfansoddiad ei feddwl ei hun, trown i mewn i du- dalenau yr Ysgrythyrau Santaidd, i wybod meddwl Duw ar y mater— llyfr Duw yw'r llyfr hwn—a llyfr crefydd yw llyfr Duw. Cawn yn y Beibl bob cyfarwyddyd sydd yn eisieu at addoli, a dwyn yn mlaen ein cynulliadau crefyddol; dengys i ni natur a dull yr addoliad, cymhwys- derau yr addolwr, a chwacter yr hwn a addolir—nid yn unig at grefydd bersonol, ond hefyd y gymdeithasol. Pan y siaradwn am gynulliadau crefyddol, a'r ffordd oreu i'w dwyn yn mlaen, carwn rodio yn oly rheol hon, oblegyd y dull ysgrythyrol yw y dull goreu at adeiladaeth ysbrydol pobí grefyddol; a hefyd at ddychweliad y byd digrefydd a di-Grist, i ymofyn crefydd y Beibl a Christ Duw, a byw yn grefyddol. Efe sydd i fod yn safon, a'i air ef sydd i sefyll; a chan belled ag yw, neu y bydd ein dull ni o ddwyn yn mlaen ein cynulliadau crefyddol, yn gyson a chydfynedol a'r gair hwn, can belled a hyny y bydd yn oreu; a phob peth sydd dros ben hyn, neu yn groes, o'r drwg y mae. Yn awr, os yw ein cynulliadau crefyddol yn cael eu dwyn yn mlaen yn ol gorchymyn- ion y Beibl; neu yn unol ag arferiadau crefyddol duwiolion y Beibl; neu yn gasgliadau teg yn cyfodi oddiar egwyddorion a gosodiadau y 25