Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRNIAD. CYFEILIOBNADAU YE OES, A DYLEDSWYDD YR EGLWYSI YN EU GWYNÈB. Y mae yn perthyn i bob oes ei nodweddau meddyliol neillduol, ac nid oes un oes wedi bod er cwymp y dyn cyntaf heb ei chyfeiliornadau gyda golwg ar y pethau mwyaf eu pwys i ddynion goleddu golygiadau cywir arnynt. Mae cyfeiliornadau dynion yn mhob oes, er eu bod yn am- rywio yn fawr yn eu ffurfiau, yn tarddu oll o'r un ffynonell—gelyniaeth y galon ddynol at Dduw, a'i hanewyllysgarwch i addef ei phechadur- usrwydd a'i thrueni ei hun. Nid oes nemawr o gyfeiliornad yn yr oes hon na wnaeth ei ymddangosiad mewn rhyw ffurf neu gilydd mewn oesau blaenorol. Newid eu dillad ac nid newid eu hanfodion y mae cyfeiliornadau. Ond y mae y gwisgoedd newyddion yn y rhai yr ymddangosant yn eu gwneud yn ofnadwy o beryglus, am y gall y di- feddwl goleddu cyfeiliornad mewn ffurf newydd, y ciliai mewn dychryn oddiwrtho pe cynygid ef iddo yn ei hen ffurf. Fod yn pefthyn i'r oes hon ei chyfeiliornadau, a'u bod gan mwyaf wedi ymwisgo mewn ffurf- iau swynol a pheryglus iawn, sydd wirionedd diamheuol. Mae miloedd o eneidiau anwadal yn cael eu llithio ganddynt i ddinystr, ac am hyny, nis gall y rhai a osodwyd yn wylwyr ar furiau Seion fod a'u dwylaw yn lân oddiwrth waed yr eneidiau hyny, heb iddynt seinio yr alarwm er gwneud y perygl yn hysbys. Wrth son am gyfeiliornadau yr oes, mae> yn ddealledig mai cyfeiliornadau gyda golwg ar bethau crefyddol a moesol, ac nid gyda golwg ar bethau tymhorol a materol yr ydym i ymdrin â hwynt. Dichon y gellir cynwys holl brif gyfeiliornadau yr oes non trwy holl wledydd cred, dan y penau canlynol:— I. Gwrihodiad o bob elfen oruwchnaturiol mewn crefydd. Mae coledd- wyr y cyfeiliornad hwn wrth reswm yn gwrthod y Beibl fel dadguddiad dwyfol, ac yn ei osod yn hollol ar yr un tir â llyfrau dynol ereill, gan edrych ar bob gwyrth, proffwydoliaeth, a phob peth o ymddangosiad goruwchddynol a gynwysa, fel gwrachiaidd chwedlau. Canmolant ei hynafiaethau, ei farddoniáeth, a'i wersi moesol, ond dirmygant ei hon- iad i fod yn ddadguddiad o feddwl Duw gyda golwg ar iachawdwr- iaeth dyn. Ar wadiad yr elfen oruwchnaturiol yn ÿ Beibl y mae y gwahaniaeth rhwng Cristionogaeth a chrefydd natur yn cael ei ddileu, ac felly, nid yw trueni dyn trwy bechod, a'r angenrheidrwydd o'r pryn- edigaeth trwy angeu yr Arglwydd Iesu yn cael eu cydnabod o gwbl. Mae y syniad hwn, gan hyny, yn cloddio dan sylfaen Cristionogaeth, ac yn dymchwelyd gobeithion dymunolaf dysgyblion Crist yn mhob oea 13