Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TIR-DDEDDFAU GERMANY. 339 Er mwyn cyrhaedd gan hyny sylfaen safadwy i'r gwaith o gyfnewid- iad cydwerth (commutation), a'i wneud yn ddirym trwy anhawsderau anmhosibl eu gorchfygu, yr ydym yn ei olygu yn ofynol i osod lawr reolau penodol er cyrhaedd y prisiad yma, a thynu y rheolau hyny oddiwrth yr egwyddorion cyffredinol a osodir lawr gan ddeddfau y llyw- odraeth. Yr egwyddorion hyny ydynt: — 1. Nad ydyw na'r gwaith gwasaidd na'r tollau ar unrhyw dyddynod etifeddiaethol, dan unrhyw amgylchiadau, i gael eu codi. 2. Ond, o'r tu arall, y bydd raid eu gostwng os nad all y deiliad fyw ar eu ywir werth. 3. Fod y tyddyn i gael ei gadw mewn cyflwr a'i galluoga i dalu ei drethi i'r llywodraeth. Ehan II. Y dosbarth o dyddynod a drinir yn yr ail ran ydy w y rhai a ddelir wrth ewyllys y meistr, neu am nifer o flynyddau, neu dros fywyd. Gyda golwg ar y rhai hyn, ca y meistr ei ddigolledu yn ol y cyfartaledd o haner y tyddyn, ac ar amodau bron cyffelyb i'r rhandiroedd etifedd- iaethol. Pan wahaniaetha y telerau, gwnant hyny yn ffafr arglwydd y manor. Yn ol yr edìct yma, prif ddarbodion yr hwn ydym wedi enwi, mae amodau tir-ddaliad newyddion yn cael eu dwyn mewn, a daeth cyf- newidiadau cyfatebol yn angenrheidiol yn y cangenau ereill o am- aethyddiaeth. Yr oedd y cyfnewidiadau mewn golwg gan yr "JEdictev gwella y dull o drin tir," yr hwn a gyhoeddwyd ar yr un diwrnod. Prif amcan yr "Edict" hwn, yn gystal a'i ragflaenydd, ac yn wir yr oll o'r ddeddfwriaeth a pha un y mae amcan Stein a Hardenberg wedi eu cysylltu, ydoedd rhyddhau, nid perchen tir yn unig, ond y tir hefyd a berchenogid ganddo, a symud pob rhwystr ar ffordd y tir i ddianc o ddwylaw llai galluog €w wrteithio i ddwy/aw mwy abl i wneud hyny. Yr amcaD mawr mewn golwg ydoedd gosod perchenogaeth yn lle deiliadaeth, a sicrhau perffaith ryddid i'r perchenog i gyfnewid neu werthu ei dir ; a pherthyn pwysigrwydd neillduol i'r mesur a amcanai BÌcrhau y rhyddid yma, gan y cynwys egwyddorion cwbl wrthwynebol i'r gyfundraeth Ffrengig o orfodi rhaniad tir ar farwolaeth ei berchen, ac i'r gyfundraeth Seisnig o ddeiliadaeth, cyntafenedigaeth, a chaeth rwymo tir wrth etifeddion. DEDDFWRIAETH 1850. Toreithiog anarferol ydoedd deddfwriaeth 1850, ond nis gallwn ni ond enwi dwy ddeddf fawr yr ail o Pawrth. 1. Y ddeddf er pwrcasu rhyddid oddiwrth wasanaeth gwasaidd a thollau, ac er rheoleiddio y perthynasau rhwng Arglwyddi y Manors a'u Gwladwyr. 2. Y ddeddf er sefydlu Bancau Rhent. Gwnaeth y flaenaf o'r deddfau hyn ddifodi gor-arglwyddiaeth ar- glwyddi y manors heb ddigullediad ; M o amscr ei chyhoeddiad y daeth pob deiliad etifeddiaethol trwy holl deyrnas Prwssia yn berchenog, gan nad pa gymaint o faintioli allasai ei dyddyn fod, ond yn ddarostyngedig,