Skip to main content

Y BEIRNIAD. PALEY A'I YSGEIFENIADAU. DWYFYDDIAETH NATURIOD. Wrth groesi rhos, meddylier ein bod yn taro ein troed wrth gareg, ac * tywun ofyn i ni pa fodd y daeth y gareg yno, ni a atebem yn y fan ei bod yno erioed, am a wyddem ni. Ond pe caem hyd i oriawr yn yr Un fan, a pho ail roddid y cwestiwn i ni, njs meddyliem am roddi yrun atebiad. A phaham ? Wel, yr ydym yn canfod fod yr oriawr wedi ei gwneud i ateb dyben penodol, sef trwy ryw gelfyddwaith, fod ei rhanau tredi eu gosod yn nghyd i ddangos oriau y dydd; a phe buasai y rhanau hyny wedi eu gosod lawer yn wahanol, y buasent yn ddiffygiol o ateb y dyben hwnw. Mewn gair, yr ydym yn canfod olion bwriad, ac o ganlyniad yr ydym yn rhwym o orfod edrych am fwriadwr, neu gyn- Huniwr. Ac ni byddai i'n casgliad gael ei wanhau pe dywedid wrthym na welsom erioed un oriawr yn cael ei gwneud, ac nas gwyddom am un gweithiwr a allai wneud un, nac ychwaith trwy i ni weled yr oriawr yn niethu ateb ei hamcan hollol trwy gadw amser cywir, nac ychwaith trwy ein hanallu i weled pa fodd y mae rhai rhanau o'r oriawr yn ateb y dyben, nac ychwaith trwy glywed gan rywun ei bod yn un o gyfun- iadau posibl pethau natur, nac ychwaith pe dywedid wrthym ei bod yn ganlyniad egwyddor o drefn sydd mewn pethau. Fe'n synid pe clyw- em nad ydyw yr oriawr yn brawf o fwriad a chynlluniad, neu ynte pe hysbysid ni ei bod yn un o ganlyniadau deddfau natur fetelaidd. Ac ûis boddlonid ni ychwaith pe byddai i un ein hateb nas gwyr ddim yn ei chylch, gan y gwyddom ein hunain ei bod yn ateb ei hamcan, ac y Daae hyny yn llawn ddigon i ni. Ond tybier ein bod yn canfod yn yr oriawr briodoledd arall, sef ei Dod yn abl i gynyrchu oriorau ereill, a'r rhai hyny oriorau ereill dra- ehefn yn ddiddiwedd, diau yr ychwanegid at ein syndod, ac y rhyfedd- em yn fwy at allu y gwneuthurwr. Ond yn mhob achos yr ydym yn aros yn yr un casgliad, sef ei bod yn gynyrch bwriad a chynllun rhyw- Un ; ac ni a welem ar unwaith yr afresymoldeb pe dywedai rhywun ^rthym nad yw yn un arddangosiad o fedr na chelfyddyd, ond ei bod ^edi tarddu o honi ei hun. Eto dyma atheistiaeth; "íe, dyma atheist- laeth; canys y mae pob arwydd o fwriadaeth a chynllun ag a gyfar- fyddir yn yr oriawr, i'w canfod yn ngweithredoedd natur, gyda'r gwa- haniaeth o du natur fod ei chynlluniau yn fwy rhyfedd na'r eiddo celf- 13