Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRMAD. DAFYDD DAFIS, ABEETAWY, A'I AMSEEAÜ. Maje dynion da pob oes yn gynwysedig o ddau ddosbarth gwahanol, sef y rhai a argraffant eu delw eu hunain ar eu hoes, a'r rhai y mae eu hoes yn argraffu ei delw arnynt hwy. Gall fod yn y ddau ddosbarth ddyn- ion defnyddiol iawn; ond yn y blaenaf yn unig y mae y dynion gwir enwog ac anfarwol eu coffadwriaeth. Dichon i ddynion o alluoedd digon cyffredin, trwy ddiwydrwydd a llafur, fod o wasanaeth mawr i'w hoes fel celfyddydwyr, gwladwyr, neu grefyddwyr, wrth 'weithio allan gynlluniau a dynwyd gan ereill; ond y mae y dosbarth defnyddiol hwn gan mwyaf oll yn syrthio i ebargofìant pan ddisgyno eu cyrff i'r bedd. Y meddyliau bywiog, gwrol, a phenderfynol hyny a feiddiant dori trwy ffurfiau eu hoes, ac a dynant allan gynlluniau newyddion o feddwl a gweithredu, gan fod yn ddigon gwrol i weithio allan y cyfryw gyn- lluniau nes effeithio chwyldroadau moesol pwysig, yw yr unig ddynion gwir enwog. Ehai o'r fath yma fu yn ddiwygwyr yn mhob oes. Nid yw pawb o'r rhagorolion hyn yn gydradd yn eu defnyddioldeb a'u henwogrwydd, am fod y pethau hyny yn ymddibynu ar raddau eu gallu- oedd, y cylchoedd y troant ynddynt, yr amgylchiadau yn mha rai y gesyd rhagluniaeth hwy i lafurio, yn nghyd a phwysigrwydd neu an- mhwysigrwydd cymharol y chwyldroadau a effeithiant. Yr ydym yn beiddio hawlio i Dafydd Dafis, o Abertawy, le amlwg yn mysg y dosbarth anrhydeddus hwn o ddynion. Meddai alluöedd digon cryfion a thanbaid i'w wneud yn seren mor fawr yn ffurfafen eglwys Dduw, fel y buasai ei lewyrch yn ymdaenu dros holl wledydd cred, pe cawsai fanteision digonol yn moreu ei oes i loewi a thynu allan ei dalent, a phe buasai rhagluniaeth yn gweled yn dda ei gyfleu mewn cylch digon eang ac amlwg i hyny. Yn gymaint mai Cymru oedd maes ei lafur yn benaf, ac mai y Gymraeg oedd iaith ei weinidogaeth, cyfyngwyd ei wasanaeth a'i enwogrwydd braidd yn hollol o fewn cylch bychan plant Gwalia ; ond tra fyddo " Cymru, Cymro, a Chymraeg," nid anghofir enw Dafydd Dafis. Ganwyd Dafydd Dafis yn mhentref Llangeler, sir Gaerfyrddin, Mehefin 12, 1763. Cadwai ei rieni dafarndy y pentref, a chyfrifìd hwy yn deulu parchus yn mysg eu cymydogion, ond ymddengys fod yr oll o'u crefydd yn gynwysedig mewn myned yn achlysurol i eglwys y 42