Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

204 HEN BRYDYDDION CWMAMAN A LLANGIWG. allorau blys ac oferedd—nid llechu i geisio byw yn y tai gwaelaf, eT mwyn arbed yr arian rhag talu ardreth fawr, ac eto yn gwario yr ariaû hyny yn afradlbn ar bethau difudd—nid byw mewn bwthynod mygly^' a diawyr, mewn ardaloedd afiach, ac o gymeriad isel; na, coded í gweithwyr fel un gwr, gwnaent benderfyniad i ymwrthod a ph°£ afradlondeb—i arfer cynildeb a diwydrwydd, ac i wneud pob ymdrecl1 ag sydd yn ddichonadwy iddynt i fynu byw mewn tai iachus a chyfleus» fel y byddo eu dedwyddwch teuluaidd yn fwy—eu hiechyd yn well—aC i fwynhau mwy o ddyddiau ar y ddaiar. HEN BEYDYDDION CWMAMAN A LLANGIWG. Cydnabyddib, yn dra chyffredin fod perthynas agos rhwng golygfeyd" gwlad a barddoniaeth ei thrigolion; felly dichon y byddai yn dda gaI1 ddarllenwyr pellenig na welsant Gwmaman erioed, i gael byr ddesgrii" iad o hono, ac o arferion a moesau yr hen frodorion. Gan fod mwy nag un lle yn dwyn yr enw hwn, dymunwn hysbysu mai Cwmaman y° rhan dde-ddwyreiniol swydd Gaerfyrddin, ydyw Cwm yr hen brydydd- ion y bwriadwn roddi peth o'u hanes yn y llinellau canlynol. Mae yr afon yn tarddu allan a dechreu ymgasglu mewn lle a elwir J Eoeldeg-ar-Aman, o gylch pedair milltir yn uwch i fyny na'r fan y sai* gwaith haiarn Brynaman yn bresenol. Pe safai dyn yn mlaen y Cwm, a'i wyneb tua'r gorllewin gyda rhediad y dwfr, byddai ar y lla^ ddeheu iddo y Mynydd Du yn uchel ei ben a mawnog ei dir, ac ar el law aswy, yn rahlwyf Llangiwg, byddai Waencaegurwen gorsog a gar^* Mae gwahanol afonydd bychain o'r naill ochr i'r llall yn chwyrnwyU* redeg i Aman, yr hon, ar ol iddi lyncu y cyfryw iddi ei hun, a ymroha yn drystfawr a buddugol ar lifeiriant, i waered trwy Cross Inn ar Betws, gan daro y ceryg ar draws eu gilydd, nes y swniant fel mag' nelau croch. Nid ydyw y dyffryn fel gwastadedd ond cul, o haner milltir i filltir yn y cyffredin. Hen arferiad yr afon ydyw newid el gwely o'r naill ochr i'r llall i'r gwastadedd, yn enwedig rhwng CrosS Inn a'r Betws. Ar ol i breswylwyr y ddau blwyf sydd y naill ochr a'r llall iddi gydgostio i wneud pont goed dda i fyned drosti, yn fuan gwn*1 hithau ffoi i fan arall, a gadael y bont ar dir sych. Yr ydym y11 cofio eu gweled wedi gwneud dwy bont ragorol fel yna, a'r ddwy y^ mhen amser ar dir sych, a'r afon fan draw heb un fath o bont arm * fyned o'r naill bentref i'r llall. Gall fod yr afon wrth chwarett ihyw ystranciau difyr fel yma wedi dylanwadu llawer ar foesau • phrydyddiaeth yr hen drigolion. Nid ydyw y mawreddog i'w wel0" yma. Nis gellir dywedyd fod yn y Cwm hwn y dolydd meillionog» rhaiadrau trystfawr, cestyll hynafol, creigiau daneddog, nac unrby^ olygfeydd aruthrol i ddenu sylw y bardd. Nid ydyw Aman yn ar&* dreiglo, gan roddi troion boneddigaidd a mawreddog yn ngwaelod e* Chwm. Nid oedd yma rosynau na lili, briallu, bocs, na laurel. ^1 ydyw yn gallu ymffrostio yn ei Dynefor Park, Grongar Hill, Gelliattr' na'i Gastell y Dryslwyn, fel Dyffryn y Towy—na'i Ddolhaidd, Llys' newydd, na Chastellnewydd-Emlyn, fel y Teifi; er hyny, nid oes gatt