Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRNÍAD. EGLWYS LOEGE—EI SEEYDLIAD A'I CHYFANSODDIAD. Fy mreniniaeth I nid yw o'r byd hwn.—Pen ye Eglwys. Anglicana Ecclesia Libera sit.—Magna Charta. Pajs: oedd Pen yr Eglwys yn cyflwyno ei ddysgyblion i ofal ei Dad, dywedai, " O'r byd nid ydynt," " Mi a'u gelwais hwynt allan o'r byd." Ehoddodd y dystiolaeth uchod o ysbrydolrwydd natur a llywodraeth ei eglwys pan y dygwyd ef yn garcharor o flaen rhaglaw yr ymherodraeth Pufeinig. Gyferbyn a'r dywediadau difrifol hyn saif y sefydliad gwladol o grefydd a elwir Eglwys Loegr; ac nis gellir beio arnom fel deiliaid gorsedd Lloegr, a phleidwyr Cristionogaeth, am alw sylw ein darllenwyr yn arbenig at yr Eglwys Wladol, fel y gallom farnu ei chy- mhwysder a'i hawl i gael ei galw yn Eglwys Crist. Mae ei sefyllfa ar ddeddf-lyfrau ein teyrnas, eangder ei chyfoeth, urddas cymdeithasol ei swyddogion, lluosogrwydd ei phleidwyr, a'i gwrthdarawiad yn erbyn pleidiau crefyddol o olygiadau gwahanol, yn rheswm digonol dros ymaflyd yn y pwnc. Os bydd pleidwyr yr eglwys mor rhydd oddiwrth ragfarn wrth ddarllen ein sylwadau, ag ydym ni wrth eu hysgrifenu, credwn na byddwn wedi ysgrifenu yn ofer. Y cynllun a gymerwn ydyw olrhain o'r dechreuad hanes amgylch- iadau crefyddol y deyrnas hyd y pryd y sefydlwyd Eglwys Loegr yn ei dull presenol. Bydd hyny yn fantais i ni ganfod mewn goleu clir pa beth yw cyfansoddiad Eglwys Sefydledig y deyrnas hon. Arweinia ein cynllun ni i ddangos pa fodd y meddianodd Pabyddiaeth y genedl hon, a thrwy ba foddion ac oddiar ba achosion y difodwyd ei hawdurdod &rni, ac y eyfododd Eglwys Loegr yn ei lle. Os oedd peth goleuni Cristionogaeth yn aros heb ddiffoddi yn Nghymru, Alban, ac Iwerddon, oddiar ddyfodiad cynar yr efengyl yma, ^id oedd ond tywyllwch teimladwy yn Lloegr hyd y flwyddyn 596. Paganiaid ydoedd y Seison pan oresgynasant Loegr, a gyrasant grefydd 7 Cymry ymaith pan yrasant y bobl. Os oedd y Seison wedi clywed am y grefydd Gristionogol, nid oeddynt wedi ei chredu na'i derbyn. Yn y üwyddyu uchod, ar gais y Pab Gregory Fawr, daeth mynach o'r enw Awstin o B,heims, a 40 mynach yn ei ganlyn, drosodd i Brydain, a phregethasant yr efengyl yn y ffurf Babyddol o honi i'r Seison. Y orenin Ethelbert ydoedd y cyntaf a ddychwelwyd i'r ffydd—yna y Eiawrion—yna y bobl; effaith groes i ddylanwad crefydd yn gyffredin.