Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIMIAD. EHEOLAETH DUW YN AMG-YLCHIADAU DYN. " Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaiar." Wrth y gair rhagluniaeth y golygwn y gofal sydd gan Dduw am ddynion—fel tad i ddyogelu, ac fel llywydd i reoli. Deillia o'r Lladin pro a video, rhag-weled; ond arferir ef mewn ystyr eangach o lawer, gan gymeryd i mewn rhagddarparu. Mae amryw yn y byd a wadant nad oes gan Dduw ddim i wneud a dyn er ei dclyogelu a'i gynal fel creadur yn y byd, nac ychwaith er ei farnu a'i gosbi fel deiliad llywodraeth foesol os yn droseddwr. Nid oes ond megys cam o'r ffurf yma o an- ffyddiaeth i ddidduwiaeth. Pan ddelo dyn i allu dyweyd nad yw Duw yn gofalu dim am y byd a'i drigolion, nid oes ganddo ond myned gam yn mhellach i ddyweyd nad oes un Duw. Ac ymddengys i ni ar y cyfan yn fwy cyson i ddyweyd nad oes un Duw, nag addef ei foclolaeth a gwadu ei lywodraeth naturiol a moesol. Er cael gwell mantais i drafod y pwnc, dechreuwn gyda dyweyd fod Duw. Dichon nad oes un cynllun neu ffurf o ymresymu ag sydd eto yn adnabyddus yn ddigonol wrtho ei hun i brofì hyn. Ond meddyliwn y gellir cysylltu gwahanol brofion, fel ag i wueud un ymresymiad an- wrthwynebol. Cymerwn ein profion oddiwrth natur, neu y greadigaeth ddefnyddiol, a'r enaid dynol. Wrth ediych ar y greadigaeth gwelwn arwyddion o gynllun, yr hyn a brawf fod cynlluniwr deallawl. Crewyd y pysg gycla bwriad iddynfc nofio yn y dwfr. Lluniwyd yr adar i ehedeg yn yr awyr. Mae llygaid adar ysglyfaethus wedi eu gwneuthur fel ag i ganfod gwrthddrychau o bellder mawr, a gallant heíÿd weled eu hysglyfaeth pan yn ei ynryl. Mae prif nerth creaduriaid ysglyfaethus wedi ei osod yn eu gyddfau a'u pawenau. Mae eu danedd hefyd wedi eu ffurfìo fel ag i ddifa eu hys- glyfaeth yn y dull hawddaf. Mae pob creadur wedi ei gynysgaethu â greddf hunan-amddiffyniad, yn gystal a moddion i amddifíýn ei hun. Bhoddwyd cyrn i rai, carnau i ereill; i rai y rhoddwyd adenydd, ac i ereill gyílymder. Yma gellir gofyn, Ai tybied fod y rhai hyn oll wedi dyfod oddiamgylch trwy ddamwain, yn neillduol pan gofiom fod pob peth wedi ei wneuthur fel ag i daro cyfansoddiad ac amgylchiad ei ber- chenog ? Deuwn yn mlaen at ein cyfansoddiadau ein hunain. Ein eyrff ni ydynt y darnau peirianol rhyfeddaf mewn bod. Mae y corff dynol yn rhagori ar bob peth a wnaed gan beirianwyr. Meddyliwn am 35