Skip to main content

Y BEÍTÍNiAD. YSGOLION GEIFFITH JONES, LLANDDOWEOE. Yn ein herthygl flaenorol ar y testyn hwn, dy wedasom fod rhifedi yr ysgolion, yn mhen saith mlynedd oddiar eu cychwyniad, sef yn y flwyddyn 1737, wedi cyrhaeddhyd 37. Dengys hyn fod amryw ardal- oedd wedi canfod eu gwerth yn fuan, ac wedi derbyn lles oddiwrthynt. Yn yr un fìwyddyn, yr oedd rhif yr ysgoleigion yn 2,400. Cynelid yr ysgolion y pryd hwnw yn siroedd Penfro, Caerfyrcldin, Aberteifì, ac Aberhonddu. At ddwyn eu treuliau, a darparu llyfrau, cafwyd cyfran- iadau gan bersonau pleidiol i'r mudiad, o wahanol sefyllfaoedd yn y byd, o'r gweinyddwyr a'r masnachwyr iselaf hyd at y boneddigiom Hefyd, derbyniwyd rhoddion o lyfrau oddiwrth y Gymdeithas er Lled- aeniad Gwybodaeth Gristionogol. Cyhoeddodd Mr. Jones adroddiad blyneddol o hanes eu gweithrediadau. Cynwysai'r adroddiadau hyn anerchiadau, mewn ffurf o lythyr at gyfaill, ac ar y diwedd, ceir enwau y siroedd, a'r manau y cynelid yr ysgolion ynddynt, ynghyd â rhif yr ysgoleigion. Yr enw roddodd ar yr adroddiadau hyn ydyw Welch Chariüj: ysgrifenodd hwynt yn y Saesonaeg. Yr ydym yn ddyledus i'r llyfr hwnw am yr hysbysrwydd a roddwn gerbron ein darllenwyr yn yr ysgrif hon. Ysgolion teithiol neu symudol oeddent. Y rheol ydoedd iddynt aros tri mis yn yr un man. Os byddai rhyw beth neillduol yn galw am hyny, caniateid iddynt weithiau gael eu cynal am chwe mis, neu ych- waneg, yn yr un lle. Yr oedd dau parth o dri o'r ysgoleigion yn cldyn- ion mewn oed, a'r rhai hyny o'r dosbarth tylotaf. Er mwyn cyíleustra y tylodion a'r gweinyddwyr, cedwid yr ysgolion yn y tymor gauafaidd o'r fiwyddyn. Pan geid anogaeth a chyfleustra, parhai ychydig nifer o honynt dros ran o'r haf. Yn gyffredin, o herwydd byrdray dydd rn y gauaf, cedwid yr ysgol yn y nos am o dair i bedair awr. Ar rai aciily- suron elai yr ysgolfeistri yn yr hwyr i anedd-dai y gymydogaeth i eg- wyddori y teuluoedd gartref. Yr oedd hyn yn fanteisiol i lafurwyr tylodion, y rhai a orfyddent weithio yn y dydd er eu cynaliaeth dymorol. Heblaw hyn, gallai gweinyddwyr cyflogedig gael llafurwyr dyddiol am bris iselach yn y gauaf i weithio yn eu lle pan y byddent yn yr ysgol. Er hyny oll, yr oedd sefyllfa amryw o'r ysgoleigion mor dylawd, fel yr ©edd yn angenrheidiol iddynt dderbyn cyfraniadau o drysor-gelloedd yr ysgol at eu cynaliaeth, rhag "newynu o'u cyrff, (medd Mr. Jones,) wrth geisio achub eu heneidiau." Oynehd yr ysgoìion weithiau yn yr eglwys blwyfol, neu mewn capel eglwysig. Mewn manau ereill, ceid benthyg ysgoldy cyfleus gan bersonau caredig i'r achos. Pan na ellid 2 N