Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRNÍAD. CEIST CYN Y DILTJW NEU YK EFENGYL GYNTAF. Yr ydym wedi meddwl lawer gwaith, mai y cynllun goreu i esbonio y Beibl yw dechreu yn ymyl Croes Crist, ac edrych ar hòno fel canol- bwynt mawr y Dadguddiad Dwyfol. Y cwbl a ddadguddiwyd i ddyn- ion cyn hyny, parotoi eu meddyliau erbyn yr amgylchiad oedd yr amcan, a'r cyfan a ddadguddiwyd wedi hyny, gwasgu ar feddyliau dynion y pwys o wneud defnydd priodol o farw lesu oedd yr amcan. Máe Üawer o ddadleu wedi bod yn y byd pa mor helaeth yr oedd Duw wedi egluro ei fwriadau ar y pen yma i'r Patriarehiaid. Barna rhai mai yn raddol y darfu i Dduw ddadblygu eigynllun, er achub y byd, i ddynion, ac am hyny nad oedd y Patriarchiaid yn deall dim am natur yr hyn oedd Iesu Grist i'w wneud ar y ddaear. Barnant nad oedd y drych- feddwl o gymod yn yr aberthau Patriarchaidd, ond mai yn raddol yr ychwanegwyd hyn trwy ddadguddiad i'r proffwydi. Ehaid i ni yn ddiau addef fod Warburton a Davidson yn gywir, mai yn raddol iawn Daae y drychfeddwl o gymod trwy aberth yn dod i'r golwg yn y Gyfrol Ddwyfol; ond nid ydym yn sicr fod yr hyn sydd ar lawr gan Moses yn gyfesur â'r oll a wyddent hwy. Barnwn yn sicr nad yw pob peth a ddywedodd Duw wrth y Patriarchiaid ar gael yn bresenol, ac nad yw yr ychydig a ddywedir yn Genesis i'w gymeryd fel mesur eu gwybod- aetìi grefyddol, mwy nag y mae yn arddangosiad cyfiawn o'u gwybod- aeth gelfyddydol, a chymdeithasol. Gwir mai â'r dadguddiad sydd genym y mae a fynom ni, ond nis gallwn rwymo ein hunain rhag tynu casgüadau oddiwrth yr ychydig sydd genym am natur yr hyn a fëddent "Wy cyn belled ag y goddef rheswm teg. Amcanwn at ddau beth wrth ysgrifénu am y dadguddiad o*r Messia yû yr Hen Destament, sef cael allan beth a ddysgai yr henafìaid oddi- ^rth y cyfryw ddadguddiad, a pha beth sydd i ninau ddysgu oddiwrth kyny yn yr oes hon, a thrwy holl oesau y byd. Prif bwnc ein hysgrif bresenol yw yr addewid o "Hâd y wraig i ysigo s'iol y sarff." Ond teimlwn fod yn rhaid myned gryn lawer o gwmpas er cael golwg ar yr addewid, Felly, ni bydd yr hyn a ddywedwn arni yn uniongyrchöl, Oûd rhan fechan o'n hysgrif. Mae dysgedigion yn rhanedig iawn eu barnau wrth geisio ateb y gwahanol gwestiynau a gyfodant yn naturiöl Wíth ehwilio hanes cyntaf dynoliaeth. Yr ydym wedi darllen a meddwl ^yn lawer ar y pwnc am flyneddau, er hyny nis beiddiwn ddweyd ein bod yn hollol gywir, na phob amser yn hollol benderfynol; ond ar yr - -E'- ■-