Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRNIAD. CEISTIONOGAETH. Mae yn ffaith alarus yn hanes y byd fod dynoliaeth wedi cilio oddiwrth Dduw. Mae ystormydd ei nhwydau wedi dryllio yr angor a gadwai y Uestr unwaith yn ddyogel yn y porthladd clyd. A defhyddio geiriau ereül, sigla hyd ei waelod, gan deimlo ei hun yn cael ei yru ar hyd foroedd anadnabyddus a geirwon. Mae yn ceisio ail-gylymu ei hun wrth y "làn." Ymorchesta gýrhaedd y porthladd o'rnewydd; gwna ymdrech ofnadwy i ail-sefydlu y eysylltiadau a dòrodcl. Yn nghanol ei hóll grwydriadau, nid yw dynoliaeth wedi colli poh meddylddrych am ei dechreuad. Mae adgof gwanaidd o'i dedwyddwch yn ei dilyn yn mhob man; ac heb ewyllysio ymadael â'iphechod na llywodraethu ei nwydau, sycheda am ail-gysyütu ei hun wrth rywbeth ansyíladwy, a'i bywyd diflanedig wrth ryw Un tragwyddol ac anghyfhewidiol. Ni pheidiodd • Duw yn un oes a bod yn wrthrych dymuniad yr hiliogaeth ddynol. Ond Och! mae ei chalon wedi cilio oddiwrth y Duw byw; mae ei haddoliad yn Uygredig, ei hedmygedd yn bechod, a'ichrefyddynsarhad ar y "Duw nid adwaenir." Er yr holl enciliadau ofnadwy mae dynoliaeth wedi wneud, mae greddf oruchel yn cael ei dadguddio; y mae pob gau-grefydd sydd ar wyneb j ddaiar yn wylofain poenus enaid wedi ei rwygo oddiwrth ei ganol-bwynt, a'i wahanu oddiwrth ei wir gymhar. Mae dynoliaeth wedi ei dyosg o'i gogoniant gwreiddiol; ac wrth geisio ymwisgo, gafaela yn y carpiau agosaf ati: mae fel person gorphwyllog yn ngwres ei syched angherddol, yn neidio i ganol dyfroedd terfysglyd ac afiach; fel alltud, wrth geisio ei ffordd yn ol i'w wlad ei hun, yn ymgolli mewn anialwch erchyü a disathr. Nis medr dynoliaeth fyw heb Dduw, ac ni fỳn adael ei phechod er cael gafael yn y gwir Dduw. Mae ei llygredd yn ei chadwyno wrth bethau gwaharddedig, a greddf ddirgelaidä yn ei gyru at yr Ánweledig Dduw; rhwng y ddau allu gwrthwynebol hyn, ni wna un dewisiad. Ymdrecha yn galed i gymodi dwy elfen anghyd- weddol. Dychymyga dduwiau tebyg iddi ei hun o ran eu cymeriadau moesol, mewn trefh iddi gael rhoddi iddynt addoHad cyfatebol i'w meddyíiau Uygredig ei hunan. Gwna hyd yn nod ei drygau yn dduw- iau: mae ei chrefydd yn ddrych cywir o'i llygredd naturiol; diraddia bob meddylddrych am Dduw, ond nis gall fyw hebddo ychwaith; felly y mae yn dewis duwiau halogedig yn hytrach na bod heb un gwrthrycn i'w addoli. Beth wna yr holl dduwiau, a'r holl au-grefyddau hyn