Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y" EHAN BRYDEINia. YR ARGEAFFWASG. Y mae dau gyfeiliornad ag y mae pobl yr oes hon yn agored i syrthio iddynt gyda golwg ar drigolion y byd yn yr oesoedd a aethant heibio. Un ydyw, meddwl nad oedd nemawr o wahaniaeth rhwng cyflwr ac amgylchiadau ein teidiau a'r eiddom ni yn bresennol ; ond fod eu manteision, eu cyfleusderau, a'u cysuron, rywbeth yn debyg i'r hyn sydd yn ein meddiant ninnau y dyddiau hyn. Nid yn unig pobl ieu- ainc, y rhai sydd yn naturiol yn cwympo i'r camgymeriad hwií, o ddiffyg profiad a hysbysrwydd gwell ; ond y mae lluoedd o rai eraill, mewn oedran addfetach, yn coleddu y dyb wallus hon, yn unig trwy anystyriaeth, a dygn dywyllwch hyd yn nôd yn llinellau mwyaf allanol hanesyddiaeth ; a dyma y dosbarth yn gyffredin a glywir yn achwyn mor enbyd ar yr amserau presennol, ac yn canmawl cymaint ar y dyddiau gynt. Eithr am sefyllfa dymmorol ein henafiaid, pe meddyl- iem am yr ymborth a fwytäent, y dillad a wisgent, y tai a breswyl- ient, eu cyfleusderau i deithio a chymdeithasu â'u gilydd, ac yn enwed- ig eu moddion i gyrhaedd gwybodaeth,—y mae y pethau hyn oll yn annhraethol ragorach a helaethach, hyd yn nôd gan y cyffredin bobl yn ein dyddiau ni, nag oeddynt gan y goreuon yn eu hamser hwynt; a byddai gwybod ac ystyried hyn yn tueddu yn gryf i'n gwneuthur yn fwy boddlawn i'n sefyllfäoedd, ac yn fwy diolchgar am ein rhagor- freintiau, ac hefyd i'n deffroi i ymdrech a diwydrwydd ychwanegol er gwneyd defnydd gwell o'n manteision. Yr ail gyfeiliornad ag yr ydym yn agored iddo, ydyw rhedeg i'r eithafion eraill, a phenderfynu, gan nad oedd yr oesau gynt yn meddu yr un rhagorion cymdeithasol a gwybodaethau celfyddydol a'r oes hon, eu bod yn amddifaid o bob dealltwriaeth a medrusrwydd, ac nad oeddynt, o'u cymharu â ni, ond hiliogaeth o grëaduriaid ìsraddol, os nid haid o ynfydion hollol. Fel byn, yr ydym mewn perygl o un tu, trwy anwybodaeth a diffyg ystyr- iaeth, i ddyrchafu cyflwr ein henafiaid yn ormodol, ar draul iselbrisio «in manteision ein hunain ; ac o'r tu arall, trwy falchder a hunandyb, i famu yn rhy uchel am danom ein hunain, ar draul gwneyd cam â'u galluoedd hwynt. Ond y mae mil o flfeithiau a brofant mai dynion yw dynion ymhob oes, a bod eu galluoedd eneidiol a'u gorchestiou corfforol rywbeth yn gyfartal yn wastad ; a pheth bynag yw y flaen- oriaeth a gyrhaeddodd yr oes hon mewn medrusrwydd a dealltwr- iaeth, y mae i'w briodoli yn fwy i'r amgylchiadau yr ydym yn byw 28—1860