Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TEAETHODYDD. TT HECA.N BHYDEINia PWYSIGRWYDD CYMERIAD DA, A'R ANGHENRHEIDRWYDD AM EI FFÜRFIO PAN YN IEUANC. Y mae yn debyg mai gorchwyl afreidiol fyddai dwyn ymlaen resymau i brofi gosodiad teitl ein hysgrif hon ; oblegid nid oes neb synwyrol nad addefa mai peth o bwys mawr yw meddu cymeriad da, a bod yn anghenrheidiol ei ffurfîo pan yn ieuanc. Nid argyhoeddi y farn sydd yn eisiau ar y mater hwn, -ond cyfnewid y tueddiadau a'r teimladau ; nid goleuo y pen, ond meddiannu y galon ; a'n hymgais ni gan hyny fydd nodi ychydig o ystyriaethau, y rhai, ond eu pwyso yn ddifrifol, a allant fod yn foddion, o dan fendith Duw, i ddeffro y darllenydd ieu- anc yn enwedig i wneyd ymgais i ffurfio cymeriad da yn awr yn more ei ddyddiau. Cyn ymosod yn uniongyrchol ar y gorchwyl hwn, dichon mai doeth fyddai gwneyd un neu ddau o sylwadau rhagarweiniol, er attal cam- gymeriadau. Wrth sòn am gymeriad dyn, nid ydym yn meddwl yr hyn y mae yn ymddangos i'w gymydogion, ond yr hyn ydyw mewn gwirionedd ; nid yr hyn y mae dynion yn tybied ei fod, ond gwir ansawdd ei feddwl a'i fuchedd ger bron Duw. Y mae llawer àgn wedi llwyddo i beri i'w gymydogion dybied ei fod yn meddu ar gýnteriad da, tra ,y mae Duw yn edrych arno fel yn ddiffygiol o bob gwir rinwedd. Gogoniant neu warth pob crëadur rhesymol ydyw ei gymeriad. Yn wir, hyn sydd yn cyfansoddi prif werth y creaduriaid cfóreswm yn ein golwg. Yr ydym yn hoflî y ci syd,d yn ein dilyn i bob man, yn fwy o herwydd ei ffyddlon- deb nac o herwydd ei gryfder a'i brydferthwch. Rhyw linell yn nghy- meriad y creadur ffyddlawn hwnw sydd yn peri i ni deimlo pan y coll- wn ef ein bod megys wedi colli cyfaill. Ond, fel y dywedwyd, cymer- iad mewn modd arbenig sydd yn gosod gwerth a rhagoriaeth ar bob. creadur rhesymol. Mae yn wir fod llawer o ddynion yn cael eu parchu, a'u dyrchafu yn fawr, nid ar gyfrif eu cymeriadau, ond o herwydd rhyw bethau eraill a ddichon fod yn eu hamgylchynu, megys eu cyfoeth, eu dysg, eu talent, neu bethau cyffelyb ; ond pan ddaw y byd i brisio pethau yn ol eu gwir werth, fe edrycha dynion ar eu gilydd fel y mae Duw yn awr yn edrych ; nid ar y pethau amgylchiadol hyn, ond ar yr hyn yw dynion o ran eu cymeriadau moesol. Gall dyn fod yn ddysgedig, dichon ei ben fod yn llawn o wjrbodaeth, ei alluoedd fod yn gryfion i ddirnad, i ddeall, ac i ymresymu, ac eto ei fod yn un 10—1860