Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y RHAN BPí YDEINIG YR AMDDIFFYNFA. Nid oes dim sydd amlycach i'r efrydydd ysgrythyrol na bod llawer iawn o'r meddyliau a geir yn y Bibl wedi eu gwisgo, fel y gallesid dysgwyl, yn nullwedd amgylchiadau yr amseroedd yr ysgrifenwyd ef. 0 herwydd hyny yr ydym yn dra mynych yn cael syniadau am wrth- ddrychau ac ymarferiadau crefydd wedi eu cymeryd, ymysg pethau eraill, oddiwrth arferion a darpariaethau milwraidd y gwledydd dwyr- einiol. Yr oedd y rhan fwyaf o'r cenedloedd oedd yn amgylchynu yr Iuddewon yn y dyddiau gynt, fel yn wir y mae eu holynwyr yn y gwledydd hyny yn awr, yn ymroddi i fywyd yspeilgar ; ac ni wyddyd pa bryd y deuent yn lluoedd byddinog ar fedr anrheithio dinas, ardal, a thiriogaeth. Ar gyfer hyn, yr oedd dinasoedd cedyrn, cestyll, tyrau, amddiffynfeydd, wedi eu hadeiladu drwy holl wlad Israel, ac yn enw- edig yr oedd lleoedd o amddiffyn o'r fath oreu yn ac o amgylch y brifddinas. Yr oedd pob mantais wedi ei chymeryd oddiar sefyllfa naturiol Jerusalem, a phob dyfais o'r eiddo celfyddyd wedi ei defnyddio, i wneyd y ddinas mor gadarn ag yr oedd bosibl. Eto nid ar ei chad- ernid naturiol na chelfyddydol, nac ar fedrusrwydd a gwroldeb ei mil- wyr, y byddai ffyddloniaid y dyddiau hyny yn pwyso am ddiogelwch rhag peryglon, eithr ar nawdd y Jehofah fel eu Brenin. " Duw yn ei Ehalasau a adweinir yn amddiffynfa." Tra yr oedd Jerusalem mewn eddwch â Duw, yr oedd yn ddinas anorchfygol. Er i'r gelynion ddyfod yn fil o filoedd i'w herbyn, gan fod ei Duw yn ymladd drosti, bycldai raid iddynt ffoi ymaith yn frawychus ac ar ffrwst. Ond wedi i bobl gyfammodol yr Arglwydd fyned yn anffyddlawn i'w gyfammod ef, yr oeddent yn pechu ymaith eu hamddiffyn, a'u gelynion yn Uwyddo i'w gorchfygu a'u hanrheithio. Mynych iawn yn Uyfrau y Prophwydi, ac yn enwedig yn llyfr y Salmau, y gosodir Duw allan fel amddiffynfa i'w bobl. M Daionus yw yr Arglwydd, amddiffynfa yn nydd blinder," medd Nahum. " Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeith- iol," yw galwad efengylaidd Zechariah. Ymorfoleddai Dafydd yn aml yn ei Dduw fel " ei graig a'i amddiffynfa." Adeilad uchel gref oedd amddiffynfa, yn sylfaenedig yn gyffredin ar graig, ac yn cael ei chadw gan fyddin o filwyr detholedig, ac wedi ei chyflenwi ag arfogaeth, ac â phob anghenrheidiau o ran lluniaeth a phethau eraill, tuag at ddal allan yn wyneb ymosodiadau byddin wrthwynebol. Yr ydoedd felly yn dra phriodol i'w defnyddio fel cyffelybiaeth i arddangos nodded 1—1860