Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TMETHODYDD. YR ADRAN AMERICANAIDD. NATTTE EGLWYS. " Ty Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd." Paül.—1 Tim. iii. 15. Y mae bodolaeth yr eglwys yn y byd yn ffaith amlwg, eang, ac anwadadwy; ond y mae ei chyfansoddiad, ei sefydliad, ei llwyddiant, a'i pharhad, yn ddirgelwch i'r byd. Nid oes dim yn fwy amlwg na bod yn y byd sefydliad sydd, nid yn unig yn wahaniaethol, ond hefyd yn wahanol yn ei Datur i bob sefydliad arall ar y ddaear. Er ei bod, yn ffurf ei chyfansoddiad, yn gyffelyb i sefydliadau cyffredin y byd, yr hyn sydd yn ei gwneyd yn gyfaddas i sefyllfa ac amgylchiadau dynion—ond ei bod yn berffeithiach—er hyny y mae egwyddorion ei chyfansoddiad, y gwirioneddau a gyffesir ac a gyhoeddir ganddi, ac amcan mawr ei gweithrediadau, mor bur, ysbrydol ac anghyfnewidiol; ac y mae ei sefydliad yn y byd yn nghanol y fath wrthwynebiadau, ei llwyddiant anghyffredin er gwaethaf rhwystrau lluosog a chedyrn; a'i pharhad trwy yr oesoedd, er yr holl ymosodiadau bradwrus, ysgeler a chreulawn a fu arni, i'w difa trwy erlidigaeth, i lygru ei chalon trwy y " mammon anghyfiawn," i wenwyno cynaliaeth ei bywyd trwy gy- mysgu celwydd â'r gwirionedd, ac i atal ei grym a'i dylanwad trwy ddarostwng ei chymeriad, yn ddirgelwch. Mae y ffeithiau hyn yn nghyfansoddiad a hanes yr eglwys, yn wybodaeth rhy uchel ac yn ddocthineb rhy ddwfn i'w hesbonio yn ol egwyddorion a gwyddorau y byd presennol. " Pa le y mae y doeth ? pa le y mae yr ysgrifen- ydd ? pa le y mae ymholydd y byd hwn ? Oni wnaeth Duw ddoeth- ineb y byd hwn yn yníÿdrwydd ? " * Gan fod yr egl wys mor wahanol a gwrthwyneb i bob sefydliad arall yn mhlith dynion, a chan nad ywr pob cymhwysiad ati o ddeddf new- ydd mewn cymdeithas, yn gwneyd dim yn ychwaneg na dwyn i'r gol- wg anhawsder newydd i'w ddirnad, a phob pelydryn ychwanegol o ol- euni rheswm yn gwasanaethu dim yn ychwaneg na dwyn i'r golwg fwy o ddirgelwch ei natur a'i chyfansoddiad, nid oes dim yn fwy naturiol, os nad yw yn 4yfod yn anghenrheidrwydd, fod yr ystyriaeth- au hyn yn cyfodi amryw ymholion yn y meddwl ymchwilgar; megys, Pwy a roddodd ffurf a chychwyniad i'r sefydliad yma ? Beth ydyw ei * 1 Cor. i. 20. 28—1859.