Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR ADRAN AMERICANAIDD. IA WN CRIST. RHUR III. 25, 2C Yr hwn a osododd Duw yn drugareddfa, neu orchudd cymodol. Yr un gair gwreiddiol a arferir gan y LXX. am drugareddfa ag a ddef- nyddir gan Paul yma am Iawn. Mewn manau eraill yn y Testament New- ydd, arwydda y gair iawn áberth y cymod : " Efe yw yr iawn dros eín pechodau ni." Efe yw aberth y cymod dros ein pechodau ni. " Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, eithr am iddo ef yn gyntaf ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn (neu aberth y cymod) dros ein pechodau ni." Oddiwrth hyn gellwch weled fod i'r gair iawn ddau gyfeiriad—cyfeiriad at y drugareddfa, neu gauad euraidd arch y dyst- iolaeth gynt, a chyfeiriad at yr aberth a offrymid ar wyl y cymod. Yr oedd y drugareddfa yn gysgod arbenigol* o iawn Crist. Yr oedd gwneuthuriad y drugareddfa o aur pur, yn rhagddangosiad o berffeith- rwydd ac urddasolrwydd iawn y groes. Yr oedd cyfatebolrwydd y drugareddfa i hyd a lled yr arch, yn arddangosiad cysgodol o ddigon- olrwydd iawn Crist er ateb holl ofynion deddf Duw. Yr oedd y secinah, neu yr arwydd o'r presennoldeb dwyfol uwch ben y drugareddfa, yn arwyddlun o foddlonrwydd y Duw mawr, a'r gogoniant a ddeilliai iddo trwy iawn y Messiah. Yr oedd sefyllfa ac agweddiad y cerubiaid oddiar y drugareddfa yn arddangosiad o ddyddordeb a hyfrydwch angelion yn edrych i mewn i ryfeddodau trefn iachawdwriaeth trwy iawn ac aberth Crist. Ac arferai yr archoffeiriad ar wyl y cymod daenellu gwaed yr aberth a offrymid â'i fys, saith waith ar ac o flaen y drugareddfa. Ar y diwrnod hynod hwnw yn Israel, yr oedd y dru- gareddfa, y ddeddf oddifewn i'r arch, y secinah a'r cerubiaid oddiar y drugareddfa, i gyd mewn heddwch, a phechaduriaid euog, sef plant Israel, yn cael eu harbed. Yn gyfeiriol at y pethau hyn, gelwir Crist yn Iawn. Cuddiodd ein holl bechodau âg iawn ; mawrhäodd y gyf- raith ac a'i gwnaeth yn anrhydeddus ; cynnyrchodd heddwch tragy- wyddol rhwng nefoedd a daear â gwaed ei groes ef, fel y mae Duw heddyw yn Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau. " Yr hwn a osododd Duw," &c. Perthyn i'r Iawn dri gosodiad ar- benigol o eiddo Duw. 1. Ei osodiad arfaethol, yn ei gynghor tragy- wyddoi. Cyfieithir y gair gosod weithiau, arfaethu, rhagfwriadu, 19—1859