Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR ADRAN AMERICANAIDD ELFENAU HANFODOL ATHEAW LLWYDDIANNUS YN YR YSGOL SABBOTHOL. Fel y mae cyfaddasiad rhanau a gronynau y byd allanol, neu eu lleol- deb perthynasol, yn peri fod gweithrediadau y grëadigaeth fateraidd fel ag y maent, felly y mae sefyllfa berthynasol yr hil ddynol yn peri fod gan y naill berson ddylanwad ar berson arall nes eflëithio, i raddau mwy neu lai, ar holl ranau a gweithredoedd y byd moesol, mor bell ag y rnae a fyno dyn ag ef. Dywed Anianeg fod y fath gysylltiad ac undeb rhwng pob gronyn o'r belen ddaearol fel y mae troediad ysgafnaf plentyn ar ael y bryn, tra yn ymddyddan yn ddifyrus a diniwed â'r blodau, ac yn gwylied hynt yr adar mân, yn ysgwyd y ddaear i'w chanolbwynt, ac oddiyno yn ol gan oglais teimlad natur, a gwrido gwyneb gwyn, ac ysu coryn yr Himmaleh. Ychydig a feddylia y dyn anystyriol fod ei waith yn bytheirio yn ofer enw y Bod hwnw sydd i'w " arswydo yn ei holl amgylchoedd," yn cynhyrfu yr holl gylch awyrol, o'r hwn yr anadla, gan daro " colofnau y nefoedd" a " gorddyfnderau y ddaear " â chryndod. Yn gyíFelyb y dengys Athroniaeth Foesol fod y Crè'awdwr doeth wedi cj^sylltu dynion â'u gilydd, fel cynifer o ronynau cyfansoddol y byd moesol, trwy ddirgel ac ofnadwy undebau, fel nas gallant weith- redu yn y naill fodd neu y llall, heb, dyby£id, gynhyrfu oesau olynol. Pan y Uefara dyn, treiddia ei lef trwy awyrgylch amser, ac adseinia yn mröydd y byd tragywyddol. Egyr dyn ei amrantau ar wrthddrych- au presennol, a nofiant, megys wrth rym ei edrychiad, fel cymylau o flaen yr awel gan haenu terfyngylch amser, lle eu lliwir yn felyn-goch gan belydrau a ymsaethant o ororau y tragywyddolfyd difesur. Gesyd dyn ei law ar ei waith, a bydd ôl ei fysedd yn nghreigiau y byd moesol pan y bj^dd cerfiadau arwyddluniol yr Aipht wedi eu llyfnhau ymaith gan rwbiad yr awel. Cyfyd dyn big-dyrau a ymddyrchafant goruwch gorseddau Orion a Pleiades Iob, a'u sylfaeni yn amgau amser trwj ei gysylltu â thragywyddoldeb. Ymafl dyn yn ei gŷn a'i forthwyl i " weithio allan" ei " iachawdwriaeth," neu ei golledigaeth; ond cerfia ei ddel w yn mhob gwrthddrych, yr hon a ymddysgleiria hyd yn nod ar ludw y grê'adigaeth, pan na fydd son am eiddo y cerfiwr enwog Phidias yn mynwes y dduwies Minerva ar ben uchel-dwr Athen. Y mae sefyllfa dyn yn y byd moesol yn ei wneyd yn fod "rhyfedd ac ofnadwy ■:' 10