Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR ADRAN AMERICANAIDD AI T SEISON YW TE ANGLO-SAXONIAID % Mae y nodair Ânglo-Saxon, yn ei gymhwysiad at Loegr, wedi dyfod yn safon. Rhoddir iddo y flaenoriaeth ar bob un arall. Mae ar y Seison, a ymogoneddent unwaith yn yr urddenw Briton, gywilydd arddel yr hen enw hanesyddol hwnw, sydd wedi bod mor enwog yn ei gysyllt- iadau â hanesyddiaeth ugain o ganrifau. Nid Brythonwyr mo honynt mwyach—Anglo-Saxoniaid ydynt. Ymffrostiant yn eu haniad o'r cen- edloedd Teutonaidd. Os hynodant eu hunain ar feusydd ymdrechfëydd aniairyddol neu foesol, effaith yr yni Anglo-Saxonaidd ydyw. Os gorchfygant anhawsderau trwy ddyfal barhad a diwydrwydd, priodolir hyny i ddiysgogrwydd a phenderíÿniad Anglo-Saxonaidd. Os yw eu sefydliadau yn freiniol ac uniawn, am eu bod yn Anglo-Saxonaidd y maent felly. Anturiaeth Anglo-Saxonaidd sydd yn aredig y moroedd â'i longau, yn diwyllio y tiroedd, ac yn eu cysylltu â'i ffyrdd haiarn. Uniondeb Anglo-Saxonaidd sydd yn llywyddu y rheithwyr, ac yn gweinyddu cyfiawnder ar y fainc. Ehinweddau teuluol, Gwladgárwch, Dyngarwch, Llenyddiaeth, a pha beth bynag a urddasola ac a ddyrchafa bobl, nid Prydeinig ydynt mwyach, eithr Anglo-Saxonig. Ac y mae y syniad yma wedi ymdaenu ac ymaflyd yn mhobl y Cyfandir hwn, y rhai, er eu bod yn gymysgedig o bob cenedl yn y byd, ydynt wedi hanu o'r genedl a wisgai unwaith yr enw henafol Brython fel arwydd- air o Uniondeb a Rhyddid. Mae ein hegn'ion cenedlaethol, ein mas- nach, ein cynydd dirfawr, çin gwareiddiad hyglodus, a phob peth enwog a berthyn i ni, yn Anglo-Saxonig. Yr Anglo-Seison, a'r yni Anglo-Saxonaidd, yw bythol fraich pob càn, a diweddglo pob araith lithrig, nes y mae y glust yn blino ar syfrdandod undônawl ymadrodd sydd mor amddifad o ystyr, ac uwchlaw pobpeth, mor hynod o anghyf- addas. Canys yr ydym yn myntumio nad oes yn y nodair hwn na grym, nac ystyr, na gwirionedd. Y mae dweyd mai Anglo-Saxoniaid yw y Seison a phobl y Talaethau Unedig, yn gyfeiliornad hanesyddol a chenedlyddol. Yn mhob ystyr pobl gymysg ydynt, tra y cyflëa yr enw a fabwysiadant y drychfeddwl eu bod jn bur a diledryw. Am- lygant yn eu nodweddiadau neillduolion hollol wrthwynebol i'r genedl oddiwrth yr hon y cymerant yr urddenw newydd hwn. Golygwn mai trigolion Denmarc a Scandinafía ydynt y cynddrychion puraf o'r âch Anglo-Saxonaidd. Eto ewyllysiem wybod yn mha ystyr y gellid