Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TEAETHOB*YDD. "------ N* YR ADRAN AMERICANAIDD. Y FANTAIS 0 FOD YN HANESYDD DA. (Buddugol yn Eisteddfod Carbondale, Nadolig, 1855.) Tra yr ymgýnnygia y fath liaws o gelfau a gwyddorion i feddwl yr efryd- ydd, a chan fod ymdrech meddwl a thraul amser yn angenrheidiol er dirnadu un o honynt, mae yn fuddiol iddo ddeall eu gwahanol deilyngdod. Os na chaiíF gysegru ei holl amser i fyfyrdod, nis gall ymberffeithio yn holl ganghenau gwybodaeth; a byddai yn ddymunol iddo wybod, wrth ddechreu ei ymchwiliadau Uenyddol, " y fantais o fod" yn gyfarwydd yn y wyddor hon neu y gelfyddyd acw. Cyn traethu ar " Y Fantais o fod yn Hanesydd da,M eglurwn pa beth a feddylir wrth " hanesydd." Hanesydd yw un hyddysg tnewn hanesiaeth. Ond pa beth yw hanesiaeth ? Dichon nad yw mor hawdd egluro hyn yn íbddhaol i bawb. " Gan na chawn egluriadau manwl a pherffaith mewn un wyddor oddieithr gwyddoniaeth {mathemutics), gall gwahanol bersonau, neu genedloedd, neu oesau, ateb y gofyniad, Pa beth yw hanesiaeth, mewn dulliau gwahanol." Mae hanesiaeth wedi cyfnewid ei ystyr mewn gwahanol oesau, ac y mae iddo wahanol ystyrion yn mhlith gwahanol genedloedd. Nid oedd hanesiaeth, ar y cyntaf, ond adroddiad dygwydd- iadau a ffeithiau ; ond fel y cynnyddodd y wyddor a ddynodir gan y gair, èangodd ystyr y gair. Perffeithiwyd gwahanol ganghenau y wyddor, hyd nes daeth rhai o honynt yn ddigon addfed i'w tòri oddiar yr hen gýff, a'u hadblanu mewn tir newy'dd ar íaes llenyddiaeth; ac ystyrir hwy yn awr yn wyddorau annibynol. Nid ystyrir adroddiad noeth o ddygwyddiadau a ffeithiau yn hanesiaeth, ond brûd. Nid yw adroddiad o helyntion person unigol yn hanesiaeth chwaith; eto y mae yn rhan mor bwysig o lenyddiaeth, fel yr ystyrir ef yn wyddor annibynol, a gelwir ef bywgraffiaeth. Wrth hanesiaeth, yn yr oes hon, yn mhlith y Cymry yn gystal a'r Saeson, y meddylir, adrodd- iad o'r hyn oll a ddylanwada ar ddyn, fel aelod o gymdeithas, ac yn ganlynoî ar gymdeithas trwyddo, yn yr amser gorphenol a phresennol. Dengys hanesiaeth achosion cyfnewidiadau mewn cymdeithas, a dengys y cyfnewidiadau hyny yn effeithiau y cyfryw achosion. Os na wna hyn, ni theilynga yr enw. Naill ai rhesyma oddiwrth yr achosion at yr effeithiau, neu oddiwrth yr effeithiau at yr achosion ; neu ynte gesyd yr 28