Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. YR ADRAN AMERICANAIDD TEEFN LLYWODEAETH DUW. ANIANYDDOL A MOESOL. [The Method op the Diyine Government, Physical and Moral, by James M'Cosh, LL.D., Professor of Logic and Metaphysics in the Queenh Unẁersity for Iréland. Fourth Edition, Carter & Brothera, New York, 1857J Ein hamcan yr yr erthygl o'r blaen, oedd ceisio gosod ger bron y dar- llenydd rhvw fraslun o sylwadau M'Cosh ar drefn llywodraeth anian- yddol Duw. Y sylwadau ar drefn ei lywodraeth foesol sydd yn dyfod dan ein ystyriaeth yn awr. Neu mewn geiriau eraill, edrychasom o'r blaen ar ddeddfau y byd mawr tu allan i ni; yr ydym yn awr yn troi i dremio ar reolau y byd mwy sydd ynom ni. Ac y mae pawb sydd wedi myfyrio rhywfaint ar y ddau fyd hyn, yn addef yn rhwydd mai y byd mewnol yw y rhyfeddaf o'r ddau o lawer. Y mae cymaint o wahaniaeth rhwng deddfau y ddau fyd hyn ag sydd rhwng yr hyn a bâr i dòn y môr droi yn ei hol ar y traeth, â'r hyn sydd yn gwneyd i'r drygionus adael ei ífordd, a'r gwr anwir éi feddyliau. Yr un Llywodraethwr mawr sydd yn troi y dyn ag sydd yn troi y dòn ; ond yn ei drefn o droi y naill a'r llall y mae dirfawr wahaniaeth. Pwnc y llyfr a gyflwynir i'n sylw yn awr, sef y trydydd llyfr yn y gyfrol, yw—" Ymchwiliad neillduol i egwyddorion y meddwl DYNOL, TRWY Y RHAI Y MAE DuW YN LLYWODRAETHÜ DYNOLRYW." Mae gan yr awdwr dair pennod ddyddorol yn y llyfr hwn. Gadewch i ni geisio deall ei ymchwiliad yn y bennod gyntaf yn nghylch natur foesol gynhenid dyn, yr hon sydd yn annyfethadwy. Yma cawn olygiad yr awdwr yn nghylch yr ewyllys, neu gynneddf ddymuniannol dyn, ac hefyd o barthed i ammodau cyfrifoldeb. Er mwyn gallu synied a thraethu yn ddealladwy yn nghylch yr ysbryd sydd mewn dyn—yr hwn sydd un—rhaid gwahaniaethu y cynneddfau amrywiol a berthynant iddo. Ac y mae M'Cosh yn gwneyd ei wahan- laethind ef o'r cynneddfau hyn, yn chwe' dosbartb ; ond â tliri o honynt yn fwyaf neillduol y mae a fyno efe yn ei sylwadau, sef y Teimladau {Emotions)—yv Ewyllys—a'r Gydwybod. Gwahaniaethir y tri ganddo 19