Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TEAETHODYDD. YR ADRAN AMERIC ANAIDD. ARFOGAETH YSBRYDOL Y CRISTION. Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol—Ephes. vi. 11. Arfogaeth y Cristion [Gr. TLaronlía tov XoiaTiavov] a olyga yr holl rasau ysbrydol, a'r holl foddion crefyddol, a ddarparodd Duw i ddyogelu ac i nerthu ei bobl i wrthsefyli a gorchfygu eu holl elynion ysbrydol, ac i fod yn ddefnyddiol er llwyddiant achos mawr a gogoneddus Tywysog eu hiachawdwriaeth. Ephes. vi. 10—20; 1 Thes. v. 8; Rhuf. xiii. 12; 2 Cor. vi. 7, a x. 3—5 ; 1 Pedr i. 13, a v. 7—10; 2 Pedr i. 5—11; Dat. iii.21. Yn gymhariaethol y llefarir. Mae cymhariaethau yr Ysgrythyrau yn dra phriodol a chryfion. O fewn y terfynau, ac yn y lliwiau, a roddodd ysbrydoliaeth anffaeledig iddynt, ymddangosant yn hynod dlysion, a thaflant oleuni mawr ar wireddau pwysicaf yr efengyl; ond pan y cam- ddefnyddir hwynt dan law yr anfedrus, y coegfeirniad, a'r chwedleuwr hunanol, trwy eu camddeall, eu camesbonio, a'u gorysbrydoli, tywyllant y Cynghor dwyfol, ac arweiniant i gyfeiliornadaü dinystriol. Gormod hyfdra anghyfreithlon, a chywreinrwydd ysgoloraidd mympwyol, wrth geisio deongli cysgodau, arwyddluniau, proffwydoliaethau, dammegion, a chymhariaethau yr Ysgrythyrau, a fu yn uno'rmoddion mwyaf eíìeithiol gan dduw y byd hwn i ddallu meddyliau dynion rhag iddynt iawn ddeall gwirioneddau yr efengyl. Credwn fod y sylw hwn yn werth i'r darllen- ydd graffu arno gyda golwg ar y cymhariaethau milwrol sydd i'w cael mor aml yn ngair yr Arglwydd;—nid rhyfedd eu bod mor aml, oblegyd o amser Moses hyd amser Paul, ac wedi hyny, yr oedd braidd bob cenedl dan haul yn gwisgo arfau rhyfel, ac yn arfer dwyn yn mlaen eu rhyfeloedd gwaedlyd ; ac yr oedd yr Hebreaid, a r Rhufeiniaid, ac yn enwedig y Groegiaid, yn gyfarwydd â'r holl arfau a noda yr apostol yn yr adnodau uchod ; ac yr oedd ganddynt o ganlyniad well mantais na ni i ddeall y cymhariaethau. Cyffelybir y saint yn gyffredinol, a gweinidogion yr efengyl yn neill- duol i filwyr. Ephes. vi. 10, 11; 2 Tim. ii. 3, 4. Nid yw hyny yn