Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TEAETHODYDD. YR ADRAN AMERICANAÍDD TE APOSTOL PAUL. [Buddugol yn Eisteddfod Utica, Ion. 1, 1857.] ^yna rhai dynion ara fod cymaint o " Lyfr yr Arglwydd" yn gynwysedig 0 fuchdraethau ac oeshanesion gwahanol ddynion ; canys dysgwyliant i'r fath lyfr fod yn llawn o draethodau athrawiaethol dyfnion, a rhesymiadau ^ywrain, athronyddol, yn nghylch pyngciau mawrion datguddiad meddwl öuw i ddyn. Ond y mae y ffaith hon—mai hanesion gwahanol ddynion yw y Bibl, gan mwyaf*—yn un o'r profìon lluosog mai yr Hwn " a wyddai heth sydd mewn dyn," yw awdwr y llyfr digyffelyb hwnw: canys y mae gan esiamplau fwy o ddylanwad ar ddynion nag atlirawiaethau, ac y mae gweled egwyddorion yn fyw mewn gweithrediad yn ymddygiadau dyn- ion, yn effeithio llawer mwy arnom na phan addysgir hwy i ni trwy re« symiadau athronyddol. Er engraifft, addysgir ni yn nghylch Ffydd ac Amynedd yn llawer mwy effeithiol yn hanesion Äbraham a Iob, na phe cawsem ddarlithiau rhesymegol ar y rhinweddau mawrion hyny. Mae bywgraffiadau yr Ysgrythyrau yn tra rhagori ar y lluoedd a adawa athrylith anysbrydoiedig o'i ol, yn y pethau canlynol a'u cyffelyb: Yn Un peth, eu hamrywiaeth liuosog. 0 hanes " y dyn cyntaf Adda," hyd eiriau olaf Llyfr Actau yr Apostolion, yn nghylch y dyn hynod sydd yn destyn ein traethawd, ceir, efallai, gynddrychion o bob math o gymeriad- au perthynol i blant dynion yn mbob oes a gwlad. Peth arall; mor gy* wir, tarawiadol, a manwl, er mor fyr, y darlunir holl gymeriadau lluosog y Bibl! Maent mor naturiol a natur ei hun. Nid oes dim o ôl celfydd* ÿdol yr ysgrifenydd ar yr un o honynt; dim esbonio yn nghylch yr un, ond yn unig eu dwyn gerbron, a gadael i'w gweithredoedd hwy eu hunain lefaru—gadael iddynt ddesgrifio eu hunain. Peth arali hefyd; y fath gyf- lawnder o addysgiadau a geir yn holl gymeriadau y Bibl! a hyny nid yn gymaint, efallai, am fod y cymeriadau eu hunain yn rhai hynod iawn, ag am fod pob cymeriad yn cael ei osod mor eglur a gonest gerbron, heb ei wisgo gan y bywgraffwyr. Oddieithr y " dyn Crist lesu," odid na fu yn mysg plant gwragedd 10