Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Yr adran americanaidd. EIN HYNAFIAID. Nid oes unrhyw bobl na chenedl dan haul, ag y mae genym unrbyw hanes am danynt, wedi derbyn cymaint o annhegwch ac o annghyf- iawnder oddiar ddwylaw hanesyddwyr estronol a'r Cymry a'r genedl Gymreig. Àc nid ydym yn adnabyddus ond âg un awdwr estronol sydd yn teilyngu, yn neillduol, ein cydnabyddiaeth a'n diolchgarwch am ei ymchwiliad manwl a diduedd i helyntion ein hynafiaid, ac am ei onestrwydd yn cyhoeddi ffrwyth yr ymchwiliad hwnw yn unol â'r ffeithiau a gasglodd trwy lafur caled a diíiino. Yr awdwr y cyfeiriwn ato—ac mae ei enw megis ffaethfa (oasis) ar anialdir hanesyddiaeth— yw Thierry, awdwr " History of the Óonquest of England by the Normans." Ein prif ddyben yn yr ysgrif hon fydd anrhegu ein dar- llenwyr â dyfyniadau lled helaeth o'r rhan hono o waith Thierry a ddeil berthynas â ni fel cenedl, gan nad ydym yn wybyddus i hyny gael ei ddwyn o flaen y Cymry o'r blaen. Gresyn na buasai rhyw gydnab- yddiaeth cyhoeddus o'n rhwymedigaeth iddo wedi ei anfon gan ein cyd- wladwyr cyn ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn nghorff y flwydd- yn ddiweddaf. Bu siarad am hyny gan rai o honom yr ochr hon i'r Werydd; ond oedwyd gweithredu, ac felly aeth y cyfleusdra heibio, fel mewn llawer amgylchiad arall. Yr oedd Thierry, fel yr anfarwol Miltwn, wedi talu yn ddrud am gysegru mor llwyr ei alluoedd dilwgr ar allor Gwirionedd. Collodd, fel yntau, ei olygon yn ei ddyddiau di- weddaf; ond bu yn fwy ffodus na Miltwn mewn un ystyriaeth bwysig; cafodd tymor hwyrol a thywyll ei oes ei ysgafnhau gan weinidogaeth diorphwys ei briod ffyddlon, ac â phobpeth o fewn cylch amgylchiad ■ # au helaethlawn a chysurus. Y cyfeiriadau a rydd Thierry o'r amrywiol awdurdodau, o ba rai y tynodd ei ddefnyddiau, ydynt werthfawr dros ben ; oblegid dangosant yn eithaf eglur nad dilyn haneswyr ail llaw a ddarfu iddo ef; ond fel un yn deall natur a phwysigrwydd ei swydd, gwnaeth ymchwiliad gofalus a diragfarn drosto ei hun. Ond cyn trosglwyddo i'n colofnan waith Thierry, rhoddwn ychydig o esiamplau, er dangos cywirdeb ein