Skip to main content

" Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant''—Solomon. Rhif. 15.] EBRILL, 1839. [Pris Ceiniog. ANERCHIAD I DDIRWESTWYR. Mr. Gol.—Yr wyf yn ystyried fy hun yn ddedwydd yn y mwynhad o'r amser pre- sennol i anerch fy nghyd-ddirwestwyr ieu- ainc à'r anrheg hon o eiddo fy nghariad atynt. Yr wyf dan radd o ysbryd diolch- gar i'r Hwn sydd yn gofalu am danom nos a dydd, mewn oerni a gwres, ac sydd yn ein llwytho beunydd à'i drugareddau—"O herwydd bob boreu y deuant hwy o'r new- ydd." Diolch am drugareddau fel hyn, ac am dueddiad i fyw yn sobr, a chadw oddi- wrth ddiodydd meddwol, ond rhaid byw yn ddírweswyr trwyadl, a'n golwg ar y farn a fydd; gwybod a gaffom i gyd am wir fud- iad o'r Aifft i Ganaan, ac am ddechreuad a chynnydd crefydd yn ein heneidiau, ac am wir rym duwioldeb. Na fydded i ni eistedd i lawr na gorphwys wrth y pydewau try- loyw sydd yn meusydd Dirwest, ond yn hytrach byddwn ar ein gwyliadwriaeth, o herwydd fel lleidr yn y nos y daw y Priod- fab, a'r rhai a fyddunt barod a ânt i inewn gydag ef, a chauir y drws. Dymunaf lwyddiant ar yr ymdrechion bywiog a chlodwiw a wneir i sobreiddio y y byd, oblegid y mae'r gwaith yn fawr, ac o dragywyddol ganlyniad. O orchwyl pwysig yn wir! ac addas y gellir gofyn gyda yr apostol—" Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" ond cymmerwch gysur, hyderwn fod Llywydd y byd o'n plaid, ac y gwawria y dydd yn y man pan y bydd Dirwest yn llanw ein gwlad, Rhyfedd ydyw y dwndwr sydd gan y bobl yn y dyddiau hyn wrth weled eu cydgreaduriad yn ymwrthod â phrif bechod yr oes ac yn cofleidio rhin- wedd—wrth fy ngweled i, a miloedd ereill, yn dewis Dirwest i fod yn dywysoges i'n tywys o ddyffryn meddwdod i ben bryn sobrwydd, ac i ymrestru ein hunain dan faner " Cysur Teuluaidd ;" ond er yr holl drydar, y mae teulu y dywysoges hon yn debyg o amlhau dros wyneb yr holl ddaear. Dymunol gan hyny fyddai i'r dywysoges hon i edrych am ryw lancesau addas i'w dyweddio i'w mheibion, fel na byddo i'w henw hi a thŷ ei hynafiaid i syrthio i dir angof; a dysged ei mhilwyr ieùainc i ddef- nyddio eu harfau yn dda, a milwrio yn ddewr yn erbyn y gelyn meddwdod, ac o blaid y gyfundraeth o fyw yn sobr; yr hon debygaf yw yr ail gyfundraeth oreu a han- foda, o herwydd trwy offerynoliaeth hon— mae rhif yr Ysgolion Sabbothol ar eu cyn- nydd parhaus—rhif gwrandawyr yr efengyl yn lliosogi—y cymdeithasau Cenadol a Bibl- aidd cartrefol a thramor yn derbyn cryfach cynnorthwyon ; felly, ni fedd yr hen Omer- aeg wiwglod eiriau yn ddigon godidogi odli mawl a diolch i'r Arglwydd ani ei sefydliad a'i chynnydd parhaus, o herwydd y mae hon yn ddiamheu wedi achub cannoedd, os nid miloedd, o eneidiau rhag marwolaeth anamserol; ac nid oes amheuaeth yn fy meddwl nad wyf fi yn un o'r cyfryw. Di- olchaf o'm calon i'r Arglwydd am yr ym- wared mawr yma trwy fuddion mor byfryd a dymunol; miloedd a uethant ag na chaw- sant gyfle i ymwneyd â'r gymdeithas hon yn eu dydd; a miloedd yn ddiamheu a'i gwrthodasant hi, o'r rhai a fagwyd yn an- wyl, a goleddwyd yn y fynwes rhag yr ystorom, fugeiliwyd yn ddyfal rhag eu dinystrio gan elfenau naturiol a gweithiol, ond Och ! Och ! wedi yr holl drafferth yu eu cylch, collodd eu hanwyliaid a'u rhiaint eu gafael ynddynt, a'u golwg arnynt, yn yr hen afon o feddwdod, yr hon a'ucarioddyn chwyrn i'r mòr marw tragywyddol, lle yr ymarllwysa y cwmwl dû ei gynnwysiad ar gorynuu'r gresynolion, ac heb obaith am iddi fyned yn hindda yn oes oesoedd. O