Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

" Ilir-hoedl sydd yn ci llaw ddoau hi; ac yn ci llaw oswy y mac cyíoeth a gogoniant"—Solomon. RHIF. 10.] TACHWEDD, 1838. [Pris Ceiniog. A dradddodwyd yn Bethania, Mynydd- maicr, Hyd. 18, 1838, fflaa B. 15. THO^ÂS, Hendre. Y mae y dyddiau hyn yn ddyddiau ag sydd â chynhwrf a dadwrdd rhyfedd trwy ein gwlad, gan yr amrywiol ddiwygîadau sydd yn myned yn mlaen ynddynt, a thehygo1 mae yn y modd hyn y moesolir y hyd, o ddiwygiad i ddiwygiad hvd ganol-ddydd y niil blynyddoedd, ac na fydd ymarferiadau yr ocs aeth heihio yn reolau i'r ocs ddy- fodol hyth mwy. Ond y peth sydd i fod dan sylw yn bresennol yw y Diwygiad Dir- westol, neu ymdrech unfrydawl yu erbyn y Diodydd Meddwol, iieu'r Gwlybyroedd Meddwol, yn hytrach, ac nid diodydd; oblegid raaeyn natur diodydd i ddisychedu, ond am y gwlybyroedd hyn, i'r graddau ag y byddont yn feddwol, y maent i'r unrhyw raddau wrth eu llyncu, yn lle dofi a thòri syched naturiol, yn creu syched annaturiol. Y mae Dirwest yn hen destun ag y preg- ethwyd llawer arno bellach, ac y mae fel holl ganghenau athrawiaethol ac ymarfcrol y Bibl Santaidd, pa fwyaf edrychir arno, mwyaf y gwelir iddo, a pha fwyafy myryrir yn ei gylch, mwyaf amlwg y canfyddir ei fod o Dduw, ac mai uu o'r planigion sydd a'i wraidd yn Ngliraig yr oesoedd ydyw, ac felly yn anmhosibl i neb idd ei ddiwreiddio byth. Bu Paul yn ymresymu am Ddir- wcst, nes sỳnu a dychrynu eì wrandawyr diofal, ac fe gyfrifai ac fe farnai efe Ddirwest yn un o ffrwythau yr Ysbryd, yn un o ddo- lenau y gadwyn arddcrcliog hòno sydd â phob dolen o honi yn werthfawrocach ná'r aur colladwy, ac yn fwy dymunol nà'r jas- pis, a'r cwrel, a'r holl feini dysglaer yn nghyd. " Eithr ffrwyth yr Yspryd yw Dir- west: Yn erbyn y cyfryw nid oes deddf." Gal. 5, 22, 23. Ni ddywedai yr Apostol na chynllunid, ac na osodid cyfreithiaa yn ei erbyn gan ddynion gwaed-wyllt ac annuw- iol, megys y bu cyfraith yn rhwystro i fyw cyn hyn, nes peri llosgi a merthyru y rhui oedd felly ; ond yn erbyn y cyfryw idd oes deddf. Mae gwahaniaeth rhwng y gair cyfraith a'r gair deddf: deddf ydyw elf, elfen, grcddf, anian, yn y pcth a grëid gau y Crewr, megys deddf i'r môr, gwlaw, &c, ac nid cyfraith : cyfraith ydyw gosooiad llywodraethau yn ol cynlluniau ac cwyllys- iau y llywodraethwyr er rheoli y deiliaid ; ond nid deddf mo hyny ddim : er mae yn ddigon gwir y geìwir deddf yr Arglwydd yn gyfraitli yr Arglwydd, ond nid yn yr un ystyr y gelwir hi yn gyfraith ac yn ddeddf. Deddf fel y mae yn seiliedig yn natur a han- fod y Deddf-roddwr, ac megys yr oedd yn ymhlcthedig á natur dyn yn ei greadigaeth; cyfraith fel y mae yn osodiad ysgrifenedig, er bod yn rheol bywyd i ddeiliaid, sydd wedi ei cholli yn anian ynddynt, ac yn ddeddf iddynt; ond ni sonir am gyfraith i'r môr nac i'r gwlaw, oblcgid maent hwy yn par- hau ctto dan lywyddiaeth y ddeddf elfenol a osodwyd iddynt ar y dechreu, íelly, yn erbyn Dirwest nid oes deddf; coded rhwys- trau, a'r gosodiad hyn, a'r gyfraith arall— yn erbyn y cyfryw nid oes deddf. j\rid yw deddf natur fel y mae yu wreiddiol yn erbyn Dirwestj ond fel y mae natur wedi ei Ilygru ac wedi colli ei deddf ddechreuol, ac yn bresennol á deddf pechod yn ddeddfiddi. Pe byddai deddf natur yn erbyn Dirwest, byddai Duw natur yn erbyn Dirwest hefyd; oblcgid nis amrywid y naill oddiwrth y llall o honynt hwy. Pan ddaeth oddi tan law ei Greawdwr yn y boreu, yr oedd delw ei Gre- awdwr arno mewn cyöawnder, gwybodaeth, a gwir santeiddrwydd, a deddf Duw yn ddeddf idd ei natur yn gymmhlethedig â'i holl gyfunsoddiud, fel yr oedd yn ail