Skip to main content

fr!ot0ttttf wtfytuûl* " Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 9.] HYDREF, 183S. [Pris Ceiniog. DIRWESTWYR A GWRTH-DDIR- WESTWYR. Yn mha bethau y maent yn cytuno ac yn anghytuno? CYTUNANT,— 1. Fod meddwdod yn ddrwg, yn ddrwg mawr, yn bechod yn erbyn Duw, yn milwrio yn erbyn dyn yn ei anrhydedd, ei gysur, a'i ddefnyddioldeb; addefant yn unfrydol fod y drwg hwn yn cau o'r nefoedd, ac felly bod miloedd yn bresennol dan Ddwyfol ddial- eddau yn y cymmeriad o feddwon—mai meddwdod oedd eu prif nodweddiad ! 2. Mai diodydd meddwol, yngbyd â'r arferiad o honynt, yw yr unig achos o feddw- dod. Dichon i ambell un fod mor hyf ag olrhain ei achos yn mhellach yn mlaen, oiìd y rbai gwanaf eu synwyrau, a gwehilion y bobl yn gyffredin ydyw y rhai hyn. Addefa y gwrth-ddirwestwyrmaí trwy yfed ychydig yr â dyn i yfed llawer, ac o yfed llawer yr â yn feddw, ac o feddwi weithiau yr á yn feddwyn cyffredin. Oddiwrth hyn rhaid addef yn mhellaeh, pe na buasai diodydd meddwol yn y byd, nas gallasai fod ynddo feddwdod ychwaith; a phe y gallem eu gỳru allan, darfyddai meddwdod yn llwyr yn y tir. 3. Mai peth da ac anghenrheidiol i'r meddwon, y rhai nad allant ymgadw rhag syrthio tra yn yfed ychydig, yw llwyr-ym- wrthod. Gorfodir gelynion Dirwest i gan- iatâu nad oes feddyginiaeth ond hon iddynt hwy, eu bod wedi myned tudraw i bob moddion arall, a pbob gobaith wedi darfod o'u hadferiad tuyma i dòri ar unwaith bob eyssylltiad â'r pethau hudoliaethus a ar- weiniant i fcddwdod. Cyduna dirwestwyr a gwrth-ddirwestwyr nad yw pregethu yr efengyl, yr ysgolion Sabbothol, oyfammod eglwysig, na chyfraith y wlad, yn ddigon i ddiwygio y meddwon, ac i sobreiddio yr oes, gan attal cylchrediad y cenllif o anghym- hedroldeb sydd yn beunyddiol ymlanw dros wyneb ein tir. 4. Fod y byd yn gyffredinol, ac achos Crist yn neillduol, yn dyoddef llawer oher- wydd meddwdod. Rhwydd gydsynia y ddwy blaid fod arferiadau presennol y deyrnas hon, gyda golwg ar ddiodydd meddwol, yn attalfeydd mawrion i Jwydd- iant crefydd achynuydd santeiddrwydd; a bod yn rhaid eu symud o'r ffordd cyn y dichon i'r diwygiadau moesol a gwladwr- iaethol ag ydym yn ddysgwyl i gymmeryd lle. Oddiar yr egwyddor hon unant yn eu gweddiau yn erbyn meddwdod, cyd-ddyr- chafant eu Ilef o'r areithleoedd i arganmol gweddeidd-dra a chymhedroldeb, a chyd- gynnorthwyant yn ngweinyddiad dysgybl- aeth eglwysig i geryddu y naill a diaelodi y llall, pan y byddo purdeb a sobrwydd yu galw am hyny. 5. Ei bod yn eithaf cyfreithlon i ddyn lwyr-ymwrthod à diodydd meddwol os bydd yn ewyllysio; ac y dichon iddo drwy hyny wneyd rhyw ddaioni. lîu y gwrth-ddir- westwr ar y dechreu mor bell à dweyd fod hyny yn bechod, am ei fod yn ddiystyrwch ar drugareddau Duw; ond ynbresennolmae wedi llareiddio ychydig, y mae wedi rhoddi y pwnc hwn i fynu, a dyfod gam yn nes at y blaid wrthwyncbol. Ond hyd yma y cyd-deithiant, ymadaw- ant o hyn allan—ni ddaw y gwrth-ddir- westwr er dim un cam yn mhellach, tybia ei fod wedi dyfod yn ddigon pell, y mae weithian wedi diffygio; ond y dirwestwr gyda mwy o wroldeb, gyda grymusacb pen- derfyniadau, a chyda theimladau mwy dyn- garol a brwdt'rydig, a fýn deithio yn llawer pellach—hyd ag y gallo ; fel gwroniad diar- swyd a fŷn ymlid ei elyn nes iddo ei oddi- weddyd a'i gwbl-ddinystrio.