Skip to main content

" Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 8.] MEDI, 1838. [Pius Ceiniog. Y FELLDITH FAWR ÍParhad oV rhifyn diweddaf.) Effeithiodd hyn yn ddwys ar feddwl y genad, a syn-fyfyriodd pa beth a allesid icneyd i osod terfyn ar anghymhedroldcb. Gwelai yn eglur effeîthiau arswydol meddw- dod yn ninystr Sion a'i deulu, ac neth adref', ac hysbysodd y cwbl yn ei gylch i'r meddyg, yr hwn a orchymynodd iddo alw arno cilwaith, a dywedyd wrtho nad oedd ef yn gofyn y ddyled. Galwodd y genad yn mhen ychydig, a chafodd Sion wrth ei waith yn brysur yn yr efail, ond ymddan- gosai yn llwfr adigalon. Eb efe wrth Sion, " Na feddyliwch am y ddyled, mae .fy meistr wcdi maddeu y cwbl i chwi, gan y gwj'r yn dda y bydd'i Dduw ei dalu, a gorchymynodd i mi ddywedyd wrthych os buasai ychydig arian yn dderbyniol genych, y rhoddai ef beth i chwi." " Yn wir, dyn hynod o garedig yw y meddyg, (ebe Sion,) ond nis gallaf dderbyn eigynnyghaelionus; íîobeithiaf y gwobrwyir ef gan y Nef am ei holl dynerwch i mi. Ond, attolwg, a oes dim modd i osod terfyn ar anghymhedrol- deb?" " Yr wyf yn ofni nad oes, (ebe'r genad,) tra mae y gwirod yn cael eu haddoli gan y werin; nid gwiw danfon deisebau i'r senedd, am fod yno lawer yn eu hoffi gystal â neb, a byddai hyn yn debyg i pe anfonid deiseb at ofFeiriaid Baal i dynu lawr eu duw. Ond Sion, yr ydych yn edrych yn bruddaidd heddyw; a oes rhyw ofid newydd wedi eich cyfar- fod ?" " Ah, syr ! (ebe Sion,) cefais lawer o ofid oddiar yr nmser y huoch chwi yma o'r blaen, yr hyn sydd yn mron fy llethu i'r llawr. Oddeutu pythefnos yn ol, aethum i brynu haiarn i'r dref, a phan oeddwn yno, aeth fy ngwraig, a gwerthodd y fuwch; ac yn awr mae y feny w hon a fu unwaith mor hynaws i'w phlant yn eu gadael i newynu, tra mae hithau yn meddwi bob dydd oddiar hyny. Ond nid yw hyna ddim i'r hyn a orfu ì mî ddyoddef yn ddiweddar. Dydd Llun diweddaf, addawodd cym» mydoges i eistedd gyda'r plant tra yr actliuin allan i brynu rhywbeth, o herwydd yr oedd fy nffwraig yn rhy feddw i wneyd hyny, a gallasai yn hawdd osod y tŷar dân ; beth bynag, anghofiodd y gymmydoges ei haddewid. Pan ddaethum i'r tý cefais bob peth yn ddystaw, cynncuais ganwyll i edrych ani y plant, a chefais fy ngwraig yn cysgu yn drwm a phedwar o'r plant yn eu gwely ; ond yr un bach ieuengaf nis gallwn pael gafael ynddo mewn un modd; gwedi edrych am dro, ysgydwais fy ngwraig gydu bwriad i'w dihuno, er gwybod pa le oedd yr un bach, ac yn mhen tro llwyddais i wneu- thur iddi fy neall; gwnaeth arwydd fod y plentyn yn y gwely, ac yno yr oedd, oddi- tani,—yn farw ! Ddoe y cleddais ef, ac yr oedd ei fam yn rhy feddw ei ddilyn i'r bedd. Pa beth a wnaf? Mae percben fy nhỳ gwedi rhoddi rhybudd i mi ymadael, o herwydd y dichon i'm gwraig osod y tý ar dèn; ond yr wyf yn teimlo afiechyd o'm mewn, a'm rhydda i yn iuan—ond beth a ddaw o fy mhlant anwyl!" Gyda hyn tòrodd allan i wylo. " Beth pe danfonwn ryw berson call a synwyrol i siarad à hi ynghylch ei hymddygiad ?" Cododd Sion eu olygon tua'r lan, a dywedodd, " Siarad á hi! buasai yr un peth siarad á'r dym- hestl! Synech pe clywsech y difriaeth a gefais bore heddyw ganddi, am ofyn os cawswn geisio gan ein gweinidog i alw. Yr wyfwedi tòri fy nghalon, ac nid oes i mi ond gofid yn y byd hwn, ond y mae genyf obaith gwan am oes ddiofid yn y nesaf." Aeth y genad ymaith heb ddywedyd gair, wedi clywed a gweled uad ar Sion oedd y