Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

" Ilir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogontent."—Solomon. Rhif. ?.] AWST, 1838. [Pris Ceiniog. Y FELLDITH FAWR Cafodd Sion y Gof ei gystuddio yn drwra iawn er ys tro yn ol, a bu boneddwr o feddyg yn dra diwyd yn gweini cyffeiriau iddo yn ei glefyd ; ac yn mhen amser anfonodd at Sion am ei arian, atebodd i'r genad, " Y mae y meddyg yn ddyn mwyn- aidd iawn yn wir, ac wedi ennill yr arian yn gyftawn, ond nid yw yn fy ngallu i dalu dim iddo yn awr." " Wel, wel, (ebe y genad) galwaf heibio etto cyn bo hir—efallai y bydd genych arian erbyn hyny." Diolch- odd Sion iddo am ei gymmwynasgarwch, a ffwrdd ag ef i'r efel, ond ochneidiodd lawer gwaith cyn iddo orphen y gorchwyl oedd ganddo mewn llaw. Galwasai yr un genad amry w weithiau o'r blaen am yr arian, ond yr oedd Sion heb dalu dim oll iddo ; ond etto i gyd nid oedd yn draws nac yn arw wrtho, o herwydd gwelai fod Sion yn ofidus iawn o herwydd ei analluogrwydd i dalu, a chaw- sai le i feddwl fod rhyw achos, anwybodus iddo ef, yn ei rwystro rhag cyflawni yr hyn a ddymunai. Yr oedd Sion yn weithiwr rhagorol, a chanddo ddigon o waith hefyd, yr hyn a barai i'r meddyg fethu dimad yr achos na allasai gael ei arian ganddo, ac yn aml tybiai fod yn rhaid ei fod yn ddyn afradlon a meddw ; ond wrth gael allan fod Sion yn un o'r dynion mwyaf diwyd yn y plwyf— wrth yr eingion yn hwyr ac yn foreu—am- heuai hyn hefyd. Ond gwedi amryw wyth- nosau daeth cenad y meddyg drachefn at Sion am ei arian, gan ei gyfarch,—" Wel, Sion, a ellwch chwi roddi yr arian i mi heddyw?" Rhoddodd Sion y morthwyl o'i law, ac wedi sychu y chwys oddiar ei wyneb, atebodd, " Nid wyf yn gwybod pa íbdd y gallaf dalu y moddyg, nid oes genyf yma ond fy offer ac yehydig iawn o haiarn ; ac nid oes genyf gartref ond ychydig o geltì. Yr wyf yn gofidio na fuasai y meddyg wcdi ei dalu, o herwydd fy mod yn gwybod fod yn deilwng iddo gael ei aiian ; ond y mae genyf fuwch, yr hon a gaiff yn lle yr arian, erbod fy mhum plentyn yn ymddibynu arni am laeth i'w cynnal." " Na, na, Sion, (ebe'r genad yn lled fwynaidd,) yr ydych yn camsynied yn fawr os ydych yn meddwl y bydd i'r meddj'g fod mor anghristionogol a dideimlad à chymmeryd eich buwch, na'ch gorthrymu mewn un modd, am yr arian. Ond atolwg, pa fodd nad oes genycli arian, gan eich bod yn ymddangos yn weithiwr caled a diwyd?" " Ah, Syr ! (ebe Sion,) y fath felldith ! a yw yn anmhosibl gosod attalfa ar anghymhedroldeb ! Yr wyf yn clywed fod ymdrechiadau egniol yn cael eu gwneyd gan ddyngarwyr yr oes, ond etto y mae anghÿmhedroldeb yn gorlifo drwy y wlad; oni buasai yr anghenfîl hwn, byddai arian y meddyg wedi eu talu, a minnau yn gysurus ddigon; ychydig o'r rhai a siarad- ant ac a ysgrifenant ar y mater sydd yn gwybod yr hyn a ddyoddefir gan filoedd o'i herwydd!" "Yr wyf yn cyfaddef fy mod yn lled-dybied rhywbeth o'r fath o'r blaen, (ebe'r genad,) ond paham na phenderfyn- wch i Iwyr-ymwrthod â'r hyn sydd yn pcri cymmaiat o annedwyddwch i chwi ? Ar- wyddwch yr ardystiad, a gweddiwch ar Dduw i'ch cynnorthwyoi'w gadw yn ffydd- lawn!" " O, am hyny, (ebe Sion,) mae wedi ei wneyd ; yr wyf wedi ardystio, ac wedi ei gadw yn ffyddlawn hefyd ; mae fy ngwaith yn drwm yn yr efel, ond nid wyf yn yfed dim ond dwfr." " Yr wyf wedi eich cam-ddeall, (ebe'r genad,) ond gan nad ydych chwi eich hunan yn yfed, a'ch plant yn ieuainc, paham yr ydych mor awyddus i ddiddymu a difodi anghymhedroldeb ?" " O herwydd, syr, (ebe Sion yn dra chyff-