Skip to main content

trine^ŵnr wtỳtuäL " Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ; ac yn ci Uaw aswy y mae cyfoeth a gogoníant."—Solomon. Rhif. 5.] MEHEFIN, 1838. [Pris Ceiniog. TY'R DYN TLAWD YN CAEL EI AD- GYWEIRIO; A Chysur i'r Annedwydd. " Dros bymtheg mlynedd (ebe gwraig yn ddiweddar) yr wyf wedi arwain y bywyd mwyaf annedwydd a ellir ddychymmygu. Ein tý oddiallan oeddynddarlun o resyndod, ac oddifewn yr oedd fyth ynwaeth ; y ffe.n- estri darniedig wedi eu llanw û chlytiau, y dodrefn yn ddrylliedig,a phobpeth yn eglur ddangos trigle meddioyn. Bu amser pan nad oedd felly,—unwaith yr oedd dedwydd- wch yn preswylio yno, ac yr oeddwn yn teimlo mawr hyfrydwch pan glywwn fy nhŷ yn cael ei ganmol. Ond ni allasai neb ei ganmol yn hir, cyfnewidiodd y cyfan. Nid oedd ein bwrdd wedi ei hulio â bwydydd cysurus, nac yn cael ei chylchynu gan wyn- cbau Ilon; ond y bwyd yn brin, golygon sur, a geiriau sàrug yn aml; a gwnaethwn a fynwn, nidoedd bosiblcuddio ein carpiau. Yr oedd fy ngwr yn ennill arian mawr, a gallasai wneyd ei deulu mor gysurus â neb yn y lle; ond yr oedd yn arfer yfed gioirod bobdydd. Meddyliai eu bod yn llesiol iddo, ond gwyddwn i yn well:—yn lle bod yn garuaidd, yr oedd yn ymddwyn tuag ataf waeth-waeth bob dydd, nes o'r diwedd yr ocddem yn ymddifad o bob cysuron, a chef- ais fy hun yn un o'r sefyllfaoedd anned- wyddaf—yn wraig i feddwyn trwyadl. " Cofiaf byth am un noswaith, pan oedd- wn yn eistedd wrth y tàn, ac yn cyweirio siaced un o'r plant. Daeth i'm meddwl yr oriau dedwydd a dreuliaswn yn nghyfeill- ach fy ngwr, cyn priodi, ac wedi hyny; am fy ngofid presennol, a'r gofid oedd etto yn fy aros, ac ymddangosai nad oedd un gob- aith i mi, na'r arwydd lleiaf o gysur. Yr oedd fy ngwr yn fraw i'r teulu, ac yn felldith i'r gymmydogaeth ; fy mhlant oeddent yn segur, yn garpiog, ac yn anufydd ; a minnau fy hun yn wraig dorcalonus ac yn fam dru- enus. Pan feddyliais am y pethau hyn, syrthiodd fy ngwaith o'm llaw, a thòrais allan i wylo. Yr oedd fy ngwr wedi bod yn absennol drwy y dydd, ac yr oeddwn yn ei ddysgwyl yn ol bob mynyd, sychais fy nagrau, a gosodais bobpeth mor gysurus ag y gallaswn. O'r diwedd agorodd y drws, a daeth Robin (canys dyna enw fy ngwr) i mewn; gwelais wrth ei wynebpryd mai gwell oedd i mi fod yn ddystaw, ac felly, gyda chalon drom estynais gadair iddo i eistedd wrth y tàn, ac aethum innau yn mlaen â'm gwaith mewn dystawrwydd. Tòrodd fy ngwr allan mewn llais digofus, " Reth ydych yn wneyd i'r fath hen gerpyn tt hwn ? Paham na chaf rywbeth i'w fwyta?" Gyda hyny ymaflodd yn y siaced, ac a'i taflodd i'r tán. Neidiais innau yn mlaen a thynais hi allan, ond wrth siglo y lludw oddiwrthi, ymaflodd ynddi, a thaflodd hi i'r tân eilwaith, gyda rheg am i mi beidio cynnyg cyffwrdd â hi drachefn. Yr oedd arnaf ormod o ofn i gynnyg ei hachub, ond tröais i ffwrdd gyda theiniladau briw wrth weled fy llafur oll yn ofer, a'm bachgen bach heb un siaced. Er hyny i gyd, rhodd- ais y bwyd goreu yn y tŷ o'i flaen, ond tyngodd na phrofai damaid. Dywedais wrtho y dylasai feddwl am barotoi gwell bwyd, a rhoddi modd i wneyd hyny, er cysur i mi a'r plant. Ond nid hwn oedd yr arnser i edliwio; cyffrodd ei ddigofaint yn ofnadwy, taflodd y cwpan a'r ddysgl, a'r llestri ereill i'r llawr, a chan ymaflyd yn lled drwsgl yn fy llaw, efe a'm trodd dros y drws, gan ddweyd wrthyf am beidio dych- welyd drachfen. Yr oedd y nos yn oer a thymhestlog, a minnau wedi fy nilladu yn lled lymaidd, ac yr oeddwn heblaw hyny yn glaf. Nid aethum i dŷ cymmydog i ymofyn noddcd; yr ocdd fy nghalon yn rhy driet i