Skip to main content

JPtötftgflttr Hefttttnl* " Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.''—Solomon. Rhif. 4.] MAI 1838. [Pris Ceiniog. HANES GEORGE GREGSON. (Parhad o du-dal. \%.J Yn mhen gronyn, gwelwyd mai tàn ar ■grocn George oedd eistedd hanner awr yn y tý, i ddal llyfr yn ei law, fel y byddai arferol o wneyd gynt. Yr oedd ymweled â'r Bìue Anchor mor naturiol iddo à bwyta ei giniaw. Aeth yn hwyrach hwyrach arno yn dychwelyd, feddwach feddwach, ac o dipyn i beth, cedwid ef yn ei wcly yn y boreu gan ben tost, esgeulusai ei waith a'i wcitliwyr; ac nid hir y bu George cyn ciiel allan yn groes iawn i'w f'eddwl ar y cyntaf, fod y JBlue Anclior wedi bod yn fedd i'w gysur tculuaiddd—i'w gyfrifoldeb—i'w i'asnach—i'w gyfoeth, ac i bob teimlad dynol a'i haddurnent gynt. Gadawodd ei gwsmeriaid cf o un i itn, ciliodd ei weith- wyr am na allent gael tâl yn amseroi, cynnyddodd ei ddyled, a lleihaodd yr ym- ddiried roddid ynddo gynt; ac er boddi gofid a ddilynai y pethau hyn, elai George rhagddo waeth waeth, meddwai bobnosyn y Blue Anchor, a phan sobrai, byddai yn geintachlyd annyoddefol, ymddialai ar yr angyles ddiniwed ocdd yn hyfrydwch iddo gynt, dwrdiaiy plant nes-oeddyntwedi pen- galedu ; yn fuan aeth yn feth-dalwr; gwerthwyd y dodrefn hardd a phrydferth oedri Mary wedi ddyfod ganddi fel ystafell priodas; symudwyd o'r anneddle ag oedd gynt yn fangre cysur, i fwthyn llwyd ei wedd, a gwael ei ddrych; erbyn hyn yr oedd calon Mary wedi llesghau, ac eiddo George wedi ymgaledu, pob dimai a allai gael am ambell i ddiwrnod a weithiai a gludai i'r Blue Anchor; ac er cael ychydig i'w chadw hi a'r plant rhag newynu, elai Mary â'r gwisgoedd meinwych sidanaidd oedd yn arfer bod am dani gynt i'r gwystldŷ, (pawn-shop,) nes oedd heb gerpyn braidd am dani hi na'r plant. Gwystlai George ei ddillad yntef er cael modd i fyned i'r Blue Anchor, ond yn fuan yr oedd wedi gwystlo y cwbl, fel nad oedd gandd^p ddimai i dalu am ei ddohin, ac yr oedd ei got yn gwa- liardd neb i roddi benthyg iddo. Dechreu- wyd a'i drin fel scricb yn y Blue Anchor, dywedai y wraig nad oedd ef yn deilwng o'r gwmniaeth a dŷrent i'w thŷ hi. Fan gaffai George ambell swllt am weithio, yr oedd yn rhaid ei dreulio mewn siop llai cyfrifol nâ'r Blue Anclior. Wedi methu talu ardreth ei fwthyn, gorfu iddo symud i hen seler ddrewedig, heb na chadair, nac ystol, na gwely, na dim arall; fel hyn y bu am oddeutu wyth mlynedd, y wraig a'r plant a'r hyd y dref yn cardota eu tamaid, a George yu gweithìo diwrnod neu ddau, a threulio eyn- nifer ar y boose. Ond ar foreu Sabboth, aeth Mr. Livesey, Apostol Dirwestaeth, i'r heu seler lle yr oedd yn byw; yr oedd George wedi bod yn meddwi trwy yr wythnos flaenorol, a'r wraig a'r plant bach wedi methu casglu dogn erbyn y Sabboth ; yno yr oedd George yn eistedd ar gàreg yn lle ystol, yn edrych yn ddigofus ar bob gwrthddrych o'i gwmpas; a Mary, fel pe buasai ei chalon yn ddarnau, a'r plant yn geran heb ddim i roddi iddyut, ac angh- ysur a thlodi fel yn ysgrifenedig ar y par- wydydd. Edrychodd Mr L. yn graff ar George, ac a'i hanerchodd ef yn debyg i hyn, "George, gallasai fod yn well na hyn arnoch chwi," Atebodd George yn sàrug iawn,—" Mi wn hyny o'r goreu, nid oes raid ichwi ddweyd wrthyf, Mr. Livesey." "Wel, íe, George, (ebe Mr. L.) pa raid sydd iddi fod fel hyn? nid Rhagluniaeth fawr y nef sydd wedi eich gosod yn yr hen seler hyn, nac ychwaith wedi eich gadael heb wreichionen o dan ar eich aelwyd, na thamaid o fwyd ar eich bwrdd, nac ystol i eistedd arni, na gwely i orwedd arno; eich