Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sfitotfttlttf Sttyettol* " Hir-hocdl sydd yn ci llaw ddeau hi; ac yn oi llaw aswy y mao cyfoeth a gogoniant."—Solomon. Rhif. 2.] MAWRTH, 1838. [Pris Ceiniog. DIBWEST. Gyda golwg ar \ Gymdeithas Gymhedrol neu Ddirwestol, gellir ei hystyried mewn rhan yn wladol, ac mewn rhan yn grefyddol, fel yr holl gymdeithasau daionus ereill yn ein gwlad. Gan fod y byd hwn yn ddangoseg neu daflen o'r byd dyfodol, addas iawn yw cymmeryd efengyl a'i llawforwynion yn ddau ochrog; yn berthynol i'r byd hwn, a'r hwn a ddaw, deil egwyddorion Dirwest eu trin yn pliilosophaidd i glyw Anffyddiaid proffesedig, ac yn grefyddol i Gristiaid pro- ffesedig. Dichonmai mwyaf aughenrheid- iol a buddiol ydyw crybwyll am egwyddor- ion sylfaenol y gymdeithas, a bod ei holl dueddiadau ymarferol yn ysgrythyrol; felly gwrthod y gymdeithas ydyw gwrthod y gair santaidd, a gwrthryfela yn erbyn Duw. Mae y gymdeithas hon yn sylfaenedig ar gyfraith anghenrheidrwydd; yr hyn gynt a rwymodd y llanciau a Daniel i beidio cyd- ymffurfio û'roes. MaeDirwestwyrgwreidd- iol yn credu fod holl ddiodydd meddwol ein gwlad ni yn hollol anghyfreithlon, a bodeu harfer yn bechadurus yn ngoleuni y gym- deithas hon ; ac os na chydsynir am ang- hyfreithlondeb diodydd meddwol, gellir sylfaenu y gymdeithas ar gyfraith buddiol- deb; yr hyn a achosodd i Paul i beidio bwyta cig-fwyd byth, rhag tramgwyddo brawd a chefnogi drwg—gellir areithio dwy awr ar y pethau pwysig uchod. Ond sylwn fod tueddiadau y gymdeithas hon oll, yn hollol ysgrythyrol, ac yn tarddu o'r un ffynnonell ag efengyl Crist. Cym- harer y dyddiau yma ag amser sylfaeniad Cristionogaeth gan Grist a'i Apostolion,— 1. Yr oeddynt yn anfoddlon i'r efengyl, oblegid ei bod wedi deehreu o le mor isei, a chan offerynau mor wr.cl,—Iesu o Nazar- eth, Pysgodwyr tlawd! Felly am Ddir-' westiaeth. 2. Beient gynt am fod Crist- ionogaeth yn erbyn Copsar, yn codi yn crbyn y llywodraeth: felly y dywedir fod cin cym- deithas yn taro yn erbyn cyllid y deyrnas, &c. Sylwer, Pwy oedd, a phwy sydd, yn dywedyd pethau fel hyn? 3. Beient ar Gristionogaeth am ei bodyn ddysg newydd ; felly am Ddirwestiaeth,—fel pebyddai pob peth newydd yn ddrwg, a phob peth hen yn dda! Os felly, rhaid gwrthod yr Ysgol Sabbothol, a'r holl gymdeithasau, ynghyd â'r enwadau crefyddol! 4. Dywedent fod yr Apostolion gyda'r grefydd newydd hòno yn dinystrio bywioliaethau, &c. Dywedir felly am Ddirwestiaeth. Sicr fod y Lefíaid. y rhagrithwyr, a'r gwcithwyr eilunod, yu cael eu colledu ; a digon gwir fod Dirwest- iaeth yn tòri, neu yn tueddu i ddyrysu eýn- naliaeth, ond gwir arall, nad hyny ydocdd gynt, nac etto yn amean. 5. Yr pedd achwyn gynt amddywedyd yn erbyn Moses, y lle.santaidd, y defodau,&e. Dywedir etto am eîn cymdeithas megys yn dyfod yn lle crefydd, yn lle Crist, yn dyrysu yr eglwysi, a bod pawb yn dwndro yn ei chylch—Pa un ai diod ai Dirwest sydd yn dyrysu yr eglwysi!! 6. Yr oedd rhai gau-athrawon am beidio pregethu y groes er mwyn i'r efengyl fod yn llai tramgwydd, &c; eithr canfyddir mai ei gogoniant ydoedd y groes. Mae rhai etto am i ni beidio cymmysgu â hen feddwon, a'u dyrchafu gymmaint, ond yr ydym yn hytrach yn ymffrostio yn hyn—yn llawenhau yn ngras Duw at y meddwon—dim cywilydd bod gyda hwy fel meddwon diwygiedig. Tueddiadau ymarferol y Gymdeithas yn Ysgrythyrol. 1. Bod gair Duw dros i ddyn barchu ei hun fel creadur rhesyraol,—ymfeddìanmi, ymgadw; fel yr arwydda y gair gwreiddiol am Ddirwest neuGymhcdroldeb,bod i ddyn edrych at ei gorff, ei enaid, a'i gymmeriad ; ond y mae diod feddwol yn tueddu i ddi- nystrio y tri uchod. Dylai dyn goflo nad