Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Duto yn ei phalasau a adwaenir yn, amMíffÿ^fa.—Ps. xlviii. 3. lntìiìtiffprçìẃ ijr Cgliijs Twr y glocb treigla uehod,-—ei wys hen I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc hynod, Llan, Llan, Llan yw'r fan i fod. Eben Fardd. 0 fewn dy gaerau heddwch boed, I'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Ps. cxxn. Oyf. VIII. Rhif. 7. RHAGFYR, 1880. Peis 2g. CYNNWYSIAD. Crynodeb.............. 97 Profíad Hen Weinidog Gwledig ...... 99 LUth y Clochydd Lleyg.. .. ...... 102 Cyfraith Newydd Claddedigethau...... 104 Diwygiad yr Eglwysi Cadeiriol .. ...... 106 Ymneillduaeth a Gwleidyddiaeth...... 107 Cipolwg ar Hanes Ymneillduaeth ...... 109 Yr Iwerddon Annedwydd........ 111 CRYNODEB. UN o'r pethau ag sydd wedi clwyfo teimlad cref- yddol dyniou mwyaf duwiol Sir Gaernarfon yn yr Etholiad diweddar ydyw gweled angerddol- rwydd teimlad y Pregethwyr dadymchweliadol, a'u parodrwydd i drosglwyddo gofal y Sir i Sais estronol o genedl ac i Sosin, neu Undodwr—gwadwr Duwdod Crist—mewn crefydd. Pe byddai i'r rhai a synant wrth weled y Pregethwyr yn diystyru cenedlgarwch ac uniondeb athrawiaeth bur, sylweddoli safle y Pre- gethwyr hynny, ni ryfeddent ddim. Y maent yn gweithredu yn unol â'u hegwyddorion, neu ddiffyg egwyddorion. Dadymchwelwyr ydynt. Nid oes ar- nynt eisiau adeiladu—eisiau tynnu i lawr sydd arnynt. Eu llais tu ag at yr Eglwys yw, " Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen." Rhaid i ddynion gael arfau anwiredd i wneud hyn. Ehaid cael dyn yn diystyru athrawiaeth yr Eglwys, ac yn ffieiddio yr emyn uniongred "Gogoniant i'r Tad ac i'r-Mab ac i'r Yspryd Glân " i wneud hyn. Rhaid oedd cael " Doeg yr Edomiad " i daro Offeiriad yr |p:glwydd yn ninas Nob. Ni wnai neb o'r Israeliaid hyn. Yr un modd rhaid cael gwadwyr y bôd o Dduw, f el Bradlaugh, a gwadwyr Duwdod y Mab, fel y Sosin, i wneud y dyhirwaith a ofyna y Pregethwyr dadymchweliadol ar Eglwys Grist. Os myn Eglwyswyr amddiffyn eu heiddo a'u hathrawiaethau, rhaid iddynt wisgo arfau eu milwriaeth, ac ymladd dros y naill a'r llall. Md trwy gysgu, ac nid trwy blethu dwylaw, cyfodi llygaid i fynu, a synu, y ceir diogelwch, ond trwy lafurio ddydd a nos i oleuo y genedl a nerthu yr Eg- lwys. Pan y byddo pregethwyr poüticaidd yn ennill etholiadau boed i Offeiriaid y plwyfydd ymdrechu ennill eneidiau, ac i Leygwyr yr Eglwys amddiffyn ei meddiannau a'i hiawnderau. MYNED yn waeth y mae cyfiwr yr Iwerddon o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos. Geilw y wasg Seisnig o bob gradd bron am i'r Senedd gael ei galw yng nghyd i drefnu mesurau meddyginiaethol ar gyfer y clwyf ofnadwy ag sydd yn difetha y Chwaer Ynys, ond hyd yn hyn nid ysgoga y Wein- yddiaeth. Wrth annerch ei etholwyr yn mis Mawrth diweddaf yn Midlothian dywedai Mr. Gladstone, " Y mae ynyrlwerddon absennoldeb drygau a throseddau o drais, a theimlad cyffredinol o gysur a boddhad, o'r f ath ag na welwyd o'r blaen yn haöes y wlad honno." Dyna oedd cyflwr tawel a chyinmydogol yr Iwerddon yn amser y prinder a'r drudaniaeth diweddar o dan lywodraeth deg a gofalus y Ceidwadwyr, yn ol tyst- iolaeth Mr. Gladstone ei hun. Pa beth yw ei chyflwr yn awr ? Annhrefn, trais, a llofruddiaeth ddyddiol. Dyblir y Police, dyblir y milwyr, ond nid oes i un dyn o eiddo sicrwydd bywyd dros awr. GOFIDUS gweled pobl fympwyol yn dyfod i wrth- darawiad ar fatterion o'r dyddordeb dyfnaf i eneidiau dynion a'r canlyniadau difrifolaf i Eglwys Dduw. Felly y ceir offerynau y Church Association, ac edmygwyr defodaeth ddiweddar ac amhywiog. Gresynus yw fod lliaws o ddynion yn tybio nas gall- ant ddysgu y gwirioneddau ysprydol a berthynant i iachawdwriaeth enaid heb ddwyn i ymarferiad dde- fodau a ymddangosant i ni, lawer o honynt, yn