Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Duw yn ci phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.—Ps. xlviii. 3. Imìtìiiffpiîìiìr tjr €glmp Twr y gloch treigla uchod,—ei wys hen I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc hynod, Llan, Llan, Llan yw'r fan i fod. Eben Fardd. Cyf. VIII. Rhif. 6. O fewn dy gaerau heddwch hoed, I'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Ps. cxxii. TACHWEDD, 1880. Pris 2G. CYNNWYSIAD. Crynodeb.............. 81 Profiad Hen Weinidog Gwledig ...... 85 Y Gynhadledd Eglwysig yn Leicester...... 88 Cynnydd a Dylanwad Eglwys Loegr...... S9 Yr Ymneillduwyr a Chynhadledd Leicester .. .. 91 .idundeb Crefyddol Cartrefol........ 92 OEYNOBEB. A'íl diwedd, wedi cryn ddisgwyl, y mae y rhifyn " cyntaf o " Fywyd a Llythyrau Charles y Bala " gan y Parch. W. Hughes, Periglor Llanuwchllyn, yn ein dwylaw. Cynnwysa y rhifyn presennol 60 o du dalennau, ac olrheinir ynddo hanes Mr. Charles hyd ei urddiad yn Offeiriad yn yr Eglwys. Cynnwysa bump o bennodau. Yn y hennod gyntaf cawn gip- drem ar Mr. Charles fel plentyn yn ei gartref, a'i anfoniad yn ddeg oed i'r Ysgol i Landdowror, cartref a maes llafur y duwiol, y gweithgar, a'r anfarwol Griffîth Jones. Yno, o dan ofal Griffith Jones, yr addysgwyd Howell Harris, Williams Pant}'celyn, a Peter Williams, enwau teuluaidd yng Nghyniru hyd heddyw ; ac yno, y mae yn debyg, y derbyniodd Mr. Charles yr argraffiadau crefyddol oeddynt yn nod- weddu ei holl fywyd. Cawn yn y bennod hon hefyd gipdrem ddyddorol ar y Frawdoliaeth grefyddol a sefydlwyd yn Nhrefecca gan Howell Harris, lle y cyrchai pererinion o wahanol barthau o Gyraru. Ymgynnullai y Frawdoliaeth dair gwaith yn y dydd i weddio — y waith gyntaf bob dydd yn y bore cyn torriad y wawr. Yn ei farwnad i Howell Harris y mae Williams Pantycelyn yn nodi y ffaith hon: — " Y mae gweddi cyn y wawrdydd Yn Nhrefecca ganddo ef, 'R amser bo trwmgwsg breuddwydlyd Yn teyrnasu yn llawer lle; A chyn llanw'r bol o fwydydd Fe geir yno gynghor prudd, A. chyn swper gweddi a darllen— Tri addoliad yn y dydd. Yr oedd Harris, a'i frodyr mynachaidd, yn mj'ned bob Sul i Eglwys Talgarth, lle yr eisteddent mewn llofft a neillduid iddynt hwy yn unig, a lle y gwein- yddai yr Offeiriad y Cj'mmun Bendigaid iddynt wrthynt eu hunain bob mis. Ym mhen amser, ar gais yr Arglwyddes Huntington, trowyd y sefydliad mynachaidd yn Goleg i addysgu gweinidogion i wasanaethu yn ei chapeli hi. Yn yr ail bennod cawn hanes Mr. Charles hyd yr adeg pau aeth i Rydychain. Yn y drydedd bennod cawn hanes cryno a dyddorol o'i yrfa yno, yr anhawsderau a'u cyfarf uant, a'r modd y gorfuw^-d hwynt. Yn y ddwy bennod ganlynol rboddir hanes ei urddiad yn Ddiacon ac yn Offeiriad yn yr Eglwys, yn nghyd â dyfyniadau helaeth o'i lythyrau a'i ddyddlyfr. Nid yw y rhifyn hwn ond yn rhoddi crynodeb byr ond cj'nnwysfawr a dyddorol o hanes Mr. Charles yn nechreu ei yrfa. Y mae y rhan fwyaf dyddorol o'i fywyd yn aros i gael ei thraethu--}' cyfnod pan yr oedd yn graddol ym- ddieithro oddiwrth yr Eglwys, ac, i raddau yn anhyspys iddo ei hunan fel y tybiwn, yn graddol ffurfio sect grefyddol newydd yng Nghymru. Diam- meu y cawn oleuni ychwanegol gan Mr. Hughes ar berthynas Mr Charles â'r Eglwys. Yr ydym hefyd yn edrych ym mlaen gyda dyddordeb nid bychan at yr adeg i Mr. Hughes ymdrin â'r dystiolaeth a roddwyd gan Mr. Sanderson y Bala, yng nghylch edifeirwch Mr. Charles am ei ymadawiad oddiwrth yr Eglwys. Cawn ddychwelyd at y llyfr dyddorol hwn etto pan gyhoeddir y rhannau dyfodol o hono. Nis gwnawn yn awr ond dyweyd fod Mr. Hughes yn ysgrifenu mewn iaith syml, lithrig, a'i fod yn dangos cryn chwaeth, a barn addfed yn ei ddewisiad o'r darnau a gyhoeddir ganddo o ddyddlyfr a llythyrau Mr. Charles. Y maent yn taflu goleuni ar ei hanes ;