Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Duw yn ei phalasau a adwaeìiîr yn aniddiffynfa.—Ps. xlviii. 3. lEìròÌffprçìiìt ijr f glíip Ttrr y gloch treigla uchod,—ei wys hen I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc hynod, Llan, Llan, Llan yw'r fan i fod. Eben Faedd. 0 fewn dy gaerau heddwch boed, I'th lysoedd deued hawddfyd; Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Pa. cxxn. Cyf. VIII. Rhif. 5. HYDREF, 1880. Peis 2g. CTNNWYSIAD. Crynodeb............ .. 65 Gwaith Cenhadol yr Eglwys......... 67 St. Ioan .............. 69 Dim Disgyblaeth yn yr Eglwys ...... 72 Clochyddion ............ 73 Offoiriad y Plwyf yn ei Fuchedd Bersonol a'i Weini- dogaeth ............ 75 Proflad Hen Weinidog Gwledig ...... 77 GEYNODEB. ODDIWRTH adroddiadau y gwahanol gyrph Yia- neillduol yn eu cynnadleddau blynyddol, yni- ddengys eu bod yn prysur ddadfeilio. Yn lle cyn- nyddu ceir eu bod fel rheol yn lleihau. Yn y Gynnadledd Wesleyaidd ddiweddaf cawn fod y cyf- undeb, am y drydedd flwyddyn olynol, yn cwyno oblegid lleihad nifer yr aeíodau. Yr oedd nifer yr aelodau newyddion a dderbyniwyd " i gymmundeb " y flwyddyn ddiweddaf yn ddim llai na 43,201, tra nad oedd nifer y marwolaethau ond 5,572; dylasai yr ennill gan hynny fod yn 37,62!) o aelodau. Ond gan fod adroddiad y Gynnadledd yn cyfaddef fod nifer yr aelodau eleni yn llai o 934 nag oeddynt y llynedd, y saae yn eglur fod dim llai na 38,563 o aelodau y Wesleyaid wedi gwrthgilio mewn un flwyddyn! Ac mewn llythyr a ymddangosodd yn y Dywysogaeth am Medi lOfed, oddiwrth " Darllenwr," ymddengys fod dadfeiliad graddol yncymmeryd lleyn y "Corph." Dyma y Jfeithiau a'r rhesymmau drostynt fel yr ym- ddangosasant yn llythyr " Darllenwr ":— " Yn y Goleuad am Awst 21fed ceir hanes Cym- deithasfa y Deheudir, a gynnaliwyd yn Aberystwyth tua dechreu y mis. Ao ym mhlith pethau eraill " Hanes yr aohos yn y sir " (Aberteifi) am y flwyddyn o'r blaen, gan y Parch. T. Edwards, Cwmystwyth. Mae y gwr parchedig yn cwyno digon ac yn beio peth. Dywed,' Mae yn ofidus gennym ddweyd nad yw yr hyn a ddymunem.' A ydyw Mr. Edwards wedi anghofìo y gair hwnnw—' Beth bynnag a hauo dyn, hynny hefyd a fed efe.' A fuasai y wlad yn rhoddi y derbyniad a roddai i'r ' ddau wr dieithr' yn y clogyn glas pe buasent ar bregetb, yn y cwrdd neillduol, ac ar aelwyd y diacon, yn troi holl arfau eu milwriaeth i wasanaethu y lecsiwn ? Na fnasai yn ddiau. Mae y wlad wedi cael gwrthwyneb ar y pen- boethni, y coegni, a'r cabledd a ymddangosodd yn y gwanwyn, ac mae y rhai goreu o'r Methodistiaid wedi alaru arnynt, ac fel canlyniad mae y Corph yn dad- feilio. Ym mhlith pobl gor-Gorphyddol Sir Aberteifi, yn ol yr hanes a enwyd uchod gan Mr. Edwards, mae aelodau Ysgol Sul ,yr enwad wedi lleihau y flwyddyn ddiweddaf 400, a'r gwrandawyr 338, tra nad yw nifer yr aelodau ond 16 yn f wy nag oedd y llynedd. ' Da,' medd y gwr parchedig, ' Da fuasai gennym allu dweyd fod ein holl eglwysi yn glir oddiwrth bob ymrafaelion, ac yn rhydd oddiwrth yr hyn sydd yn peryglu llwyddiant cymdeithas. Mae yr un gŵyn ag a glywir yn gyffredinol yn hanes siroedd eraül i'w gael yn ein hanes ninnau. . . . A'r gŵyn gyff- redinol ydyw mai ammhoblogaidd yw y cyfarfod gweddi wythnosol a'r cyfarfod eglwysig, ac na cheir yr addfed fírwyth cyntaf oedd yn nodweddu y diwyg- iad Methodistaidd yn y dechreuad, sef parodrwydd i ddweyd profiad.' Peth anhawdd gan ddynion tawel yn y wlad yw newid o gapel i eglwys. Ond peth naturiol i ddynion cywir a chydwybodol yw ymgadw o gyfarfodydd gweddi a chyfarfodydd eglwysig Ue yr hauir hadau anghydfod a chwerwder yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol. Ond y mae y mudiad wedi cychwyn mewn gwahanol fannau, ac os cawn yr Eglwys yn ffyddlon i'w goruchwyliaeth, nid hir y byddwn cyn y daw y Methodistiaid yn ol i hen Eglwys eu tadau. Nid fel corph, ond o un i un, yn ostyngedig a didwyll, i ymofyn am borthiant a llon- yddwch a gorphwysdra." NID annyddorol fyddai rhoddi syniad o'r rhesym- mau a roddwyd gan Dr. Eigg, Dr. Osborne, ao eraill, er cyfrif am y Ueihad yn nifer yr aelodau Wes. leyaidd. Dywedai Dr. Rigg mai y prif achos o'r