Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.—Ps. xlviii. 3. Hiìŵtffprçìiìi tjr (Bglip Twr y gloch treigla uchod,—ei wys hen I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc hynod, Jjlan, Llan, Llan yw'r fan i fod. Eben Fardd. 0 fewn dy gaerau heddwch boed, I'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion liefyd. Ps. cxxn. Cyf. VIII. Rhip. 4. MEDI, 1880. Peis 2g. CTNNWYSIAD. Crynodeb.............. 49 Yr Eglwys Brydeinig.......... 02 Mesur Aflonyddwch Gwyddelig........ 56 Y modd y daeth Eglwys Crist yn Sefydliad yn y wlad 58 Yr Etholtad diweddaf a'i Wersi ...... 59 Y Bedyddwyr a'r Eglwys Sefydledig...... 61 Profiad Hen Weinidog Gwledig ...... 62 GRYNODEB. TADECHREU y mis diweddaf traddododd Mr. Mun- " della ei araeth ar addysg, pan yn gofyn am y swm o arian a gyfrifid fyddai yn angenrlieidiol mewn ffordd o Grants am y flwyddyn ddyfodol. Dymunem alw sylw ein darllenwyr at y ffeithiau cynnwysedig yn yr araeth honno, gan eu bod yn hynod galonogol i Eglwyswyr, ac yn dangos mawr ymdrech yr Eglwys mewn cyssylltiad âg Addysg Elfennol. Y mae cym- maint yn cael ei ysgrifenu yn y Newyddiaduron, yn enwedig yn Nghymru, yng nghylch gweithrediadau y gwahanol Pyrddau Ysgol, fel y mae perygl i'r ffaith gael ei hanghofio fod yr Eglwys yn gwneud mwy i addysgu y Werin, na holl Fyrddau Ysgol a holl enwadau crefyddol y deyrnas gyd â'u gilydd. Ac er yr anhawsdra a deimlir mewn llawer ardal i garrio ym mlaen yr Ysgolion gwirfoddol yng ngwyneb competition y Byrddau Ysgol, y rhai a allant fforddio bod yn hael, gan fod ganddynt awdurdod i roddi eu dwylaw ym mhwrs y wlad, y mae yn ffaith a ddylid ei chofnodi fod yr Eglwys er y flwyddyn 1870 wedi darparu lle yn ei hysgolion dyddiol i ddim llai na naw cant ac unarbymtheg ar hugain o flloedd (936,000) o blant, tra nad yw holl Fyrddau Ysgol y deyrnas wedi darparu ond ar gyfer un fillwn ac un fil ar bymtheg(1,036,000). Yn ol y cyfrifon diweddaraf a wnaed i fynu hyd Awst 31, 1879, y cyfrifon. a ddefnyddiwyd gan Mr. Mundella, safai pethau fel y canlyn:— Eisteddleoedd yn Ysgolion yr Eglwys yn 1870 .. 1,365,000 Eisteddleoedd a ychwanegwyd o 1870 hyd 1879 936,000 Cyfanswm yr Eisteddleoedd yn Ysgslionyr Eglwys 2,301,000 Cyfanswm yr Eisteddleoedd yn holl Ysgolion y Byrddau Ysgol .......................... 1,016,000 Cyjanswm yr Eisteddleoedd yn yr Ysgolion Brut- tanaidd, yrYsgolion Wesleyaidd, a'r Ysgolion Pabyddol................................ 825,000 Cyfanswm yr Eisteddleoedd yn holl Ysgolion Elfenol y Deyrnas........................4,142,000 Oddiwrth y daflen uchod ymddengys fod yn Ysgolion yr Eglwys ddarpariaeth ar gyfer yn agos i hanner milwn o blant yn rhagor nag sydd yn yr holl ysgolion elfennol eraill gyd â'u gilydd. Y mae yr un peth i'w ganfod os edrychwn ar yr average atten> dance yn y gwahanol ysgolion :— Averaqe Attendance yn Ysgolion yr Eglwys yn 1870 .................................... 844,003 Cynnydd yn yr Average Attendanee er y flwyddyn 1870.................................... 582,000 Averaqe Attendance yn yr Ysgolion yr Eglwys yn aẁr .................................... 1,426,000 Arerage Attendance yn holl Ysgolinn y Byrddau Ysgol.................................... 669,500 Arerage Attendance yn yr Ysgolion Brutanaidd,&c. 498,500 Cyfaaswm yr average atiendance ,............. 2,594,000 Fei y gwyr pawb, y mae nifer yr enwau ar y llyfrau yn llawer mwy na nifer y plant mewn average attendance. Dywedodd Mr. Mundella mai y nifer o enwau ar lyfrau holl Ysgobion Elfennol y Deyrnas oedd o,710,000. O'r nifer hwn yr oedd 2,750,000 yn yr Ysgolion gwirfoddol ac o'r nif er yn yr holl ysgolion gwirfoddol yr oedd dim llai na 2,034,000 yn yr Ysgol- iou Eglwysig. Yi ydym am roi cyhoeddusrwydd i'r ffeithiau hyn yng Nghymru, yn gymmaint a bod yr Eglwys ac Eglwyswyr mor fynych wedi cael eu