Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Duw yn ei yhalasaù a adwacnir yn amâdify^fd.—Ps. xlviii. 3. iiìíìiiffiîiiÿHr Cgíip Twr y glocli treigla ucliod,—ei wys lien I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dine bynod, Llan, Llan, Llan yw'r i'an i fod. Eben Eardd. Cyf. VIII. Rhif. 3. 0 fewn dy gaerau heddweh boed, I'th lysoedd deued hawddíyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Ps. CXXII. AWST, 1880. Peis 2q. CYNNWYSIAD. Crynodeb.............. 33 üwaith Cenhadol yr Eglwys........ 35 Llith y Clocbydd Lleyg .*......... 38 Eglwys y Beibl a Beibl yr Eglwys...... 40 Llygredd Etholiadol .......... 42 Oyssylltiad Eglwys a Gwladwriaethmewn|Gwrtbgyfer. byniad i Gyssyìltiad Crefydd a Gwleidyddiaeth .. 43 Proôad Hen Weinidog Gwledig ...... 45 Mesur y Claddfeydd .......... 47 YLlwybrCul............ 48 ORTNODEB. YM Maner ac Amserau Cymru am Gorph. 14fed ymddangOBodd ertbygl o dan y pennawd " Es- gymmundod y Methodistiaid." Yr hyn a achosodd yr erthygl oedd sylwadau Dr. Edwards, Bala, yng Nghymdeithasfa Dolgellau, a gynnaliwyd ychydig yn ol, y rhai oeddynt fel y canlyn: — "Bydded i bob cyfarfod misol ei gymmeryd i fynu, a siarad arno (meddai). Yr oedd efe yn credu yn fawr mewn siarad; yn credu mewn rhoddi chwareu teg i'r gwrtbwynebwyr siarad befyd. Dyna fel y daw y petb i oleuni. Bhoddwch amser i'r bobl droi a tbrosi y matter yn 'eu meddyliau. Nid mewn un cyfarfod misol yn unig y dylid siarad arno, ond mewn dau a thri, a'i siarad aílan ac allan. Yr oedd- ynt yn sicr o ennill y bobl, er gwaetbaf y gwrtbwyn- ebwyr. Wrtb bleidio yr acbosiou byn, yr oedd efe yn teimlo yn sicr eu bod o blaid myned â theyrnas Iesu Grist yn ei blaen. A cbynheswch hwynt (ychwanegai). Dylecb chwi, y pragethwyr, fod yn onest—yn loyal i'r Cyfundeb. Chwithau, y diacon- iaid, peidiwcb gadael i bregetbwr ddyfod i'ch pul- pudau os na bydd yn loyal i'r byn y penderfynir arno gan y Gymdeithasfa. Bhowch farc arno. Gwnewch ef yn ddyn esgymmunedig—nid yn allanol, ond trwy ei attal rhag myned i'ch pulpudau." Y mae y «ylwadau hyn wedi chwerwi yn arutbrol wrfchwynebwyr yr " acbosion Seisnig " a'r " Gronfa.'' Mewn geiriau eraill y mae yr Isel Fetbodistiaid yn penderfynu gwrthwynebu hyd y carn yr Ucbel Fethod- istiaid. Edliwir yn fyn^'ch i Eglwyswyr y gwa- haniaetb barn a f odola rhwng yr Isel a'r Uchel Eg- lwyswyr; ond y mae y gwahaniaeth rhwng yr Isel a'r Uchel Fethodistiaid yn llawn cymmaint, a dy- wedyd y lleiaf. Os oes gan yr Isel Eglwyswyr eu Reeord, a cban yr Uchel Eglwyswyr eu Chureh Times, y mae gan yr Isel Fetbodistiaid eu Baner, a cban yr Uchel Fethodistiaid eu Goleuad. Wrth sylwi ar yr hyn a ddywedodd Dr. Edwards, y mae organ yr Isel Fethodistiaid yn def nyddio iaith hyderus a phenderfynol. "Ai dyma," gofyna, " y ffurf sydd wedi myned ar Fethodistiaetb y blynyddoedd di- weddaf yma ? Ai i eithafion o'r fatb hyn y mae yr yspryd sydd wedi ymgodi yn ddiweddar yn yr hen Gyfundeb parcbus yn arwain ? . . . Flaenoriaid ac eglwysi, a chynnulleidfaoedd y Methodistiaid, sef- wch eich tir! . . . Ewch ym mlaen, foneddig- ion; ' cauwcb allan !' ' marciwcb !' ' esgymmunwch.' Tynnwch y gadwen yn dynnach, ac yn dynnach dra- chefn. Defnyddiwch eich boll nerth, a rhoddwch bob gewyn a chymmal ar waith, a chyboeddwch trwy Gymru benbaladr fod yn rhaid i bawb blygu i'r cynmianfaoedd a'r cyfarfodydd misol, beth bynnag fydd eu syniadau personol ar y gwahanol gasgliadau, a'r cyffelyb betbau. Ond ni a ddywedwn yn hyf i cbwi yn y dechreu, ein bod yn adwaen rhai pregeth- wyr a diaconiaid, ac aelodau eglwysig, sydd yn gweled pethau yn rhy glir, yn gallu rhagweled y drwg o bell, ac yn rhy gryfion eu hargyhoeddiadau i blygu byth, pa ganlyniadau bynnag y gall holl lysoedd y Metho- distiaid trwy Dde a Gogledd eu dwyn arnynt." Geiriau lled gryfion yn sicr, a geiriau â chryn dipp3Tn o swn rbyfel ynddynt. Yr ydym yn eu dyfynu er mwyn profi mai nid yn yr Eglwys yn unig y mae dynion yn coleddu gwahanol olygiadau, ac mai nid Eglwryswyr yù unig a ellir eu dosparthu i'r " isel" a'r " uchel."