Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dmo yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.—ía. xlviii. 3. $ijÉtffpiíìŵ rçr Cglmp Twr y gloch treigla uchod,—ei wys hen I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dinc liynod, Llan, Llan, Llan yw'r fan i fod. Eben Faiidd. 0 fewn dy gaerau heddwcli boed, I'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy nirodyr mae'r arch hon, A'm cymmydogion hefyd. Ps. cxxn. Cyf. VIII. Rhif. 1. MEHEFIN, 1880. Pris 2q. CYNNWYSIAD. Gwaith Cenhadol yr Eglwys .. ,..... 1 Profiad Hen Weinidog Gwledig ...... 3 Gosod Carreg Sylfaen Eglwys Gadeiriol newydd Truro 7 Hunan-lywodraeth yr Eglwys........ 9 Dyledswyddau Wardeniaid........ 11 Offeiriad y Plwyf yn ei Fuchedd Eersonol a'i Weini- dogaeth.............. 13 Adgyweiriad Ychwanegol Eglwys Gadeiriol Bangor 15 Pa fodd yr Ennillwyd yr Etholiad ...... 16 Agoriad y Senedd .......... 1G GWÁITH CENHADOL YE HOLWYS. BHIF IV.—CALCUTTA. CHOTA NAGPOEE. CALCUTTA yw yr esgobaeth gyntaf a sylfaenwyd yn ein bymerodraeth Indiaidd mewn cyssylltiad âg Eglwys y wlad hon. Cymmerodd hyn le yn y flwyddyn 1814—llai na deng mlynedd a thrugain yn ol. Yr oedd cenbadon, mae yn wir, yn llafurio yn India cyn byn, ond nid oeddynt ond ychydig mewn nifer ; ac heb bresennoldeb esgob yn eu plith yr oeddynt, arlawer ystyr, megis defaid heb gauddynt fugail. Esgob cyntaf Caloutta oedd Dr. Middleton, yr hwn a roddodd brawfion ddigon ag oeddynt yn dangos ei fod wedi ei alw i'r ewydd ucbel hon gan Ben Mawr yr Eglwys ei hun. Y dyn iawn yn y lle iawn. Un o'r pethau cyntaf a argrapbwyd ar ei feddwl wcdi cyrhaeddyd ei esgobaeth bellenig ydoedd, nad oedd fawr o obaitb dychwelyd cyfangorph pobl India at Gristionogaeth hyd nes y pregotbid yr Efengyl iddynt, ac y gweinyddid y sacramentau yn eu mysg, gan ddynion wedi eu geni a'u magu yn India, yn gallu siarad iaith y werin, ac yn deall eu barferion a'u chwaetb. Argyboeddwyd ef, mewn gair, fod yn rhaid cael offeiriaid brodorol i wneud y gwaith. Gyd â'r amean o ddwyn hyn oddi amgylcb sefydlwyd coleg yn agos i ddinas Calcutta, a galwyd ef yn Goleg yr Esgob. 0 hynny hyd yn hyn y mae nifer mwy neu lai o efrydwyr brodorol wedi bod yn astudio o fewn ei furiau, ac ugeiniau o athrawon ac offeiriaid croenddu wedi myned allan o hono i ledaenu y newyddion da ym mysg eu cydwladwyr. Y mae yr hen adeilad wedi ei werthu yn ddiweddar, a bwriedir cyfodi un arall helaethach mewn sefyllfa mwycyfleus, a disgwylir y bydd iddo fod o fwy defnydd nag erioed i'r Eglwys yn India. Dilynwyd Middleton gan ddynionenwog ag ybydd eu henwau yn hir berarogli yn yr Eglwys. Canys pwy na clilywodd am Heber, a Wilson, a Cotton P A phwy nad yw yn cofio am yr Esgob Milman, yr hwn a syrthiodd i'w fedd dan lwyth gormod o waith, bedair blynedd yn ol ? Bu holl India, gyd â'i phoblogaeth enfawr o ddau gant a deugain miliwn o eneidiau, o fewn cylch Esgob- aeth Calcutta hyd y flwyddyn 1835. Yr oedd y miliynau byn i un esgob yn eangach maes na'r "holl fyd" i'r deuddeg Apostol yn amser Crist. Yn y flwyddyn a nodwyd gwnaed Madras yn esgobaeth ar ei pben ei hun; a dwy flynedd yn ddiweddaraoh ychwanegwyd Esgobaetb Bombay. Y mae'r flwyddyn 1877 yn un i'w hir gofío yng nglŷn â'r gwaith cenhadol yn India. Ddecbreu y flwyddyn honno nid oedd ond tri o esgobion yn yr oll o India; erbyn ei diwedd yr oeddyno saith—ychwan^ egiad o bedwar mewn un flwyddyn. In Esgobaetb Caloutta y mae Chota Nagpore. Dyma yn ddiau y genhadaeth bwysicoaf yn yr esgob- aetb bon ar hyn o bryd. Bu cenhadon o Germani yn llafurio yma gyd â graddau helaeth o lwyddiant am rai blynyddau. Pan y methasant a charrio y gwaith ym mlaen yn hwy, cymmerwyd eu lle gan ein cen- hadon ni yn y flwyddyn 1869. Parhaodd y cenhadon Germanaidd wrth eu gwaith am 45 mlynedd. Gelwir trigoliou y rban hon o India yn Kols.