Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Duw yn ei phalasau a adiuaenir yn amdái/yn/H.*'—Ps. xlviii. 3. Iiìẃtfpgìrìt rçr € glrap Twr 7 glooh treigla nchod,—ei wys hon I wasanaetb Duwdod; Cana ei hen dinc bynod, Llan, Llan, Llan yw'r fuii i i'oJ. Ebhk Fabdd. O fewn dy gaerau heddwoh boed, t'th lysoedd deaed hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r aroh hon, A'm oymmydogion hefyd. V». oxxn. Otp. VII. Rhip. 12. MAI, 1880. Peis 2g. CYNNWYSIAD. Gwaith Cenhadol yr Eglwys ........ 177 Yr Ymneillduwyr a Ffarfwasanaeth yr Eglwys .. 179 Esgob Dewisedig Llynlleifiad........' 185 Yr Adeiladau Eglwysig, ac Offeiriaid yr oes .. 186 Yr Etholiad Cyffredinol.......... 137 Y Parch. J. Cynddylan Jones, Methodistiaid Caerdydd, a Gwasanaeth yr Eglwys ...... 188 John Wesley a'r Eglwys .. ........ 190 Diogelwch y Balot, neu'r Tugel ...... 191 EglwysyPlwyf............ 192 GWAim CENEADOL YB EGLWYS. EHIF III.—TINNEYELLY. TINNEVELLY. Y mae'r mwyafrif 0 ddarllenwyr yr Amddiffynydd yn ddiau wedi clywed yr enw liwn lawer gwaith. Ond beth yw Tinnevelly ? a pha le y mae ? Talaith yw Tinnevclly yn y rhan ddeheuol 0 India, yn cynnwys poblogaeth 0 un mil- iwn a saith gan mil 0 eneidiau (1,700,000). Y mae ei hyd, o Benrhyn Comorin hyd Ramnad, yn ehwe ugain o filldiroedd; a'i lled tua thriugain milldir. Gwelir fod y dalaith hon felly, 0 ran ei maintioli a nifer ei phoblogaeth, rywbeth yn debyg i Gymru. Pel Cymru hefyd y mae yn sefyll ar lan y môr ; ac fel y gwyneba Cymru yr Ynys Werdd, felly gwyneba Tinnevelly Ynys Ceylon. Ond y mae hyn 0 wahan- iaeth •' glannau gorllewinol Cymru sy'n cyff wrdd â'r mòr, ond glannau dwyreiniol Tinnevcliy a olchir ganddo. Tinnevelly ond odid y w y lleccyn disgleiriaf ar hyn 0 hryd yn ein holl faes cenhadol. Y mae'r llwyddiant nodedig â'r hwn y mae Pen Mawr yr Eglwys wedi bendithio gwaith ei weision yn y wlad bellenig hon yn fath o Bentecost drosodd drachefn. Cafwyd tywalltiad anarferol o'r Yspryd o'r uchelder; ac fel canlyniad fe ychwanegir at yr Eglwys beunydd fil- oedd lawer o'r rhai a fyddent gadwedig. Yr hyn sy'n nodweddu y llwyddiant mawr yn Tin- nevelly y w bod dychweledigion yn cael eu hychwan- egu, nid un yma ac accw, ond yn deuluoedd ac yn bentrefydd cyfain. Yr ydym yn clywed am gant a hanner 0 bentrefydd cyfain yn y rhai nad oedd cym- maint ag un Cristion yn mis Mehefin, 1877, wyth mis yn ddiweddarach, er syndod a llawenydd i bawb, yn datgan èu cred yn y grefydd Gristionogol! Pe fu i uwchlaw un mil ar bymtheg o eneidiau, fel y dy- wedir, yn y cyfnod byr hwn ymwrthod â'u heilun- addoliaeth a chofleidio crefydd yr Arglwydd Iesu Grist! A'r hyn sydd dra chysurus i feddwl am dano yw, y mae'r symmudiad gogoneddus yn parhau i ym- ledaenu; a phwy all ddweyd beth a fydd diwedd hyn ? Yn y flwyddyn 1875 bu Tywysog Cymru yn India. Yn ystod ei arosiad yno talodd ymweliad â Tinne- velly. Dywedwyd wrtho y pryd hwnnw bod nifer y dychweledigion yn driugain mil, a bod pedwar ar ddeg a deugain 0 offeiriaid dnon yn gwasanaethu iddynt. Erbyn heddyw y mae'r dychweledion yn agos i gan mil; ac y mae deg a phedwar ugain o offeiriaid duon yn gweithio yn eu plith, Nid ydym i feddwl bod yr oll o'r dychweledigion hyn yn saint perfíaith. Y mae'r efrau ym mhlith y gwenith yno fel ym mhob rhan 0 Eglwys Crist. Dyma fel yr ysgrifena y Parch. D. Samuel, offeiriad croenddu, am bobl ei ofal:— " Os gofynir a ydyw y rhai hyn oll yn Gristionog- ion zelog, cywir, a diargyhoedd? a ydynt yn dylan- wadu ar y paganiaid sydd o'u hamgylch ? a ydynt oll wedi rhoddi i fynu ar arferiad o weithio ar Ddydd yr Arglwydd ? a ydynt yn mynychu yr egiwys yn siriol ? a ydyw eu hymddygiad yn ystod y gwasanaeth dwy- fol yn ddefosiynol ? a ydynt yn darllen eu Biblau, y rhai a allant ddarllen? a ydyntoll yn cadw y ddyled- swydd âeuluaidd? a ydynt oll yn berffaith rydd oddiwrth bob ofergoeledd paganaidd, ac oddiwrth ymrafaelion, iaith anweddus, ac anonestrwydd ? Bhaid i mi atteb, gyd â galar, am lawer 0 honynt, 'Nac ydynt.' " Etto, o'r ochr arali y mae achos llawenhau. Er yr holl anhawsderau sydd yn perthyn i'r dosparth