Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amädijfynfa."-~~V8. xlviii. 3. TfTT y gloch treigla achod,—ei wys hen I wasanacth Dawdod; Cana ei hén dinc hynod, Llan, Llan, Llan yw'r fani fod; Ebbn Fabdd. 0 fewn dy gaeran heddwoh boed, I'th lynoedd dened hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon» A'm cymmydogion hefyd. Fa. exzii< Oyf. VII. Rhif. 9. CHWEFROR, 1880. Peis 2(3. CYNNWTSIAD. Llythyrau y Parcli. P. C. Ellis........ 129 Y Dagon Fawr Ryddfrydol........ 130 Caniadaeth y Cyssegr .......... 132 Nawddogaeth Eglwysig a'i Hanawsderau .. .. 133 " In Memoriam "............ 134 Amrywion ............ 135 Cynghor Cyn-etholiadol y Gymàeithas-Rhyddbad .. 136 Yspryd Anghydffurfiaeth ddiwcddar.. .. .. 138 Urddau Pregethwrol .......... 139 St. Matthew............ 142 LLYTEYBAU Y PARÖH. P. C. ELLIS. YTSGRIFENWYD y Uythyrau uchod ychydig dros •*• ugain nilynedd yn ol, mewn amddiffyniad i'r Eglwye, yng ngwyneb ymbsodiad arni gan weinidog Cynnulleidfaol,yrhwn a draingwyddwyd ganannerch- iad o eiddo yr awdwr i Athrawon Ysgol Sul yr Eglwys yn Beaumaris. Ac yn ddiweddar dj'gwyd argraphiad newydd o honynt allan, a hynny, i'n tyb ni, gyd â mawr briodoldeb. Er cymmaint o bethau da a rbag- orol, yng nglyn â'r testyn uchod, sydd wedi eu cyhoeddi o fewn yr ugain mlynedd diweddaf, yr }Tdym o'r farn fod y llythyrau hyn yn meddu ar ragoriaethau arbenig o'r eiddynt eu hunain. Maent yn ymdrin â'r holl byngciau ag sydd mewn dadl rhyngom ni a'r Ymneillduwyr, ac wedi eu hysgrifenu yn y dull mwyaf rhwydd, naturiol, a dirodres. Fel y gallesid disgwyl, oddiwrth yr hyn a wyddom am 3T awdwr, nodweddir hwy oll gan un amcan mawr brwdfrydig, sef gwneuthur pob peth i fod yn is-wasanaethgar i'r gwirionedd ara yr Eglwys. Mae ei ddull 0 drin ei fatterion yn eu gwneud yn hynod argyhoeddiadol, ac yn swynol i'w darllen, hyd yn nod i'r byr ei amynedd. Nid ydynt na hirwyntog nac aneglur, nao ammhen- nodol, ond cryno a chynnwysfawr, a'u dadleuon fel cleddyfau daufiniog, yn torri wyneb a chefn. Gesyd y Bibl a hanesiaeth dan deyrnged parhaus i ddwyn allan eu trysorau, y rhai a gymmerant eulle yn natur- iol f el prif feini ac addurniadau yr adeiladwaith deg a ddiorchuddia i'n golwg, gan wneuthur i'r newydd ym- ddangos yn hen, ac i'r hen wisgo newydd-deb didrangc. Ac y mae y ffaith eu bod wedi eu hysgrifenu ar ffurf llythyrau mewn attebiad i ymosodiad 0 rengoedd Ym- ncillduaeth, 0 fod porson mewn ymgais â pherson, yn eu gwneud yn fwy cywir a ffyddlawn i fywyd fel ag y ruae, ac yn ddanghoseg bur deg o'r gwahanol gym- mellion ac yspryd ag sydd yn nodweddu y ddwy ochr y mae y ddau yinddadleuwr yn eu cynnrychioli. Yn awr, rhoddwn ger bron ein darllenwyr grynhoad o gynnwysiad y ilythyrau yng ngeiriau yr ysgrifen- nydd ei hun; ac yna ychydig samplau o'i ddull deheuig 0 brofi ei osodiadau, ac 0 ddynoethi haeriadau ei wrthwynebydd. " Dangosais nad creadur 0 wneuthuriad y Wladwr- iaeth yw Eglwys Loegr; iddi gael ei phuro, nid eu chreu, yn adeg y Diwygiad; m?.i ei gweithredoedd hi ei hun yw ei defodau, ei seremoniau, a'i hathrawiaethau, wedi eu liamîygu trwy ei chorph llywodraethol, sef y gymmanfa eglwysig, y senedd, a'r goron ; nas gall na thrawslywodraeth ar ran brenhinoedd, na bucheddau anfoesol, ddistrywio yr Eglwys, yr hon a ddesgriíìr gau ein Hiachawdwr fel cynnullfa gymmysgedig 0 dda a drwg yng nghyd; yn gymmaint a bod yr Eglwys weledig yn cynnwys gwŷr a gwragedd wedi eu bedyddio, mai teyrnas yn y byd ydyw, er nad o'r byd, ac o ganlyniad i'w gweinyddu gan ddynion fel offerynau 0 osodiad Duw; fod ei heiddo, a gyssegr- wyd i'w gwasanaeth gan frenhinoedd ac eraill, wedi ei ddiogelu yn gyfìawn iddi trwy gyfreithiau y tir, a bod unrhyw wrthwynebiad i'r Eglwys ar y tir hwn yn taraw yr un mor rymus yn erbyn yr Ymneilldu- wyr sydd yn dal eiddo mewn ymddiriedaeth i ddiben- ion crefyddol, oherwydd diogelir yr eiddo roddir iddynt gan ddeddfau yr un Wladwriaeth. Dangosais hefyd y rhaid i'r Ymneillduwyr, mewn achos o ddadl athrawiaethol yn cynnwys hawl i eiddo a adawyd iddynt, appelio at y Wladwriaeth; ac y cyfreithlonir cu priodasautrwybresennoldebagwasanaeth swyddog gwladol. Dangosais drachefn nad oedd llywodraeth yr Eglwys gan Dduw yn gyfyngedig i gyfnodau pen- nodol; fod egwyddorion a ordeiniwyd neu a gadarn-