Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Duw yn ei phalasau a adwaenir yn amMiŷy'"'f%,,,^-VB. xlviii. 3. mtíiffpjfirijr f glitti Twr y glooh treìgla uchod,—ei wys hen I wasanactb Duwdod; Cana ei hen dino hynod, Lian, Llan, Llan yw'r fan i fod. Ebbit Fakdj>. 0 fewn dy gaerau heddwch boed, I'th lyBoedd dened haxddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon, A%n cymmydogion hefyd. Ps. oxxii. Ctf. VII. Rhif. 6. TACHWEDD, 1879. Peis 2ö. Y GYMHORFA EGLWYSIG. Yr ydym yn ystyried y cyfarfod pwysig hwn yn un o'r cynnulliadau mwyaf dylanwadol a gymmerodd le er's llawer o oesoedd, gyd â golwg ar yr Eglwys yng Nghymru. Ac wrth weled yr Eglwys yn dangos ei bod yn canfod y difîygion sydd yn peri i'w gweithrediadau gael eu hattal i gyflawni y diben mewn golwg yn y Dywysogaeth, nid oes achos i ni ryfeddu canfod ei gelynion yn dechreu ymgynnyrfu, a galw yng nghyd eu byddinoedd i'f gâd, i'r diben o'i gwrthwynebu yn ei hymdrech i wneud i fynu y diffýgion hyn. Nid rhyfedd gweled y Daily Neivs, organ yr Ymneillduwyr, sydd wedi cael ei osod i fynu ganddynt o bwrpas i ddifri'o a gwrthwynebu yr Eglwys, yn ymdrechu dwyn y Gynhadledd i warth, trwy ei dirmygu, a gwneud yn ysgafn o'r pyngciau pwysig yr ymdrinid â hwynt ynddi, canys nid allwn ddisgwyl dim arall oddiwrth y f?th organ. Ac mae yr Herald Cymraeg, yntau, yn ymdrechu, yn ol ei allu, yn ei ddull isel a gwatwarus, i warthruddo a dirmygu y cyunulliad a'i weith- rediadau. Gwneud lles i'r Eglwys ydoedd diben y cynnulliad, ac yr oedd hynny yn ddigon i gynhyrfu llid a digofaint y rhai hyn. Dywed yr Herald " fod tyrfa fawr o brophwydi gwladol, yn Babyddion eithafol, Defodwyr cymmedrol, Llydan-feddylwyr, a gweddillion y blaid Efang- ylaidd, wedi bod yn eistedd mewn cynnulliad blynyddol yn nhref Abertawy." Pwy oedd y Pabyddion eithafol a ddaethant yno ? Gŵyr yr ysgrifenydd nad oedd yno neb o'r fath yn cymmeryd rhan yn y Gynhadledd, ond ei fod yn meddwl yr atteba ei ddiben ef yn well i gy- hoeddi y fath enllib ei mwyn creu rhagfarn yn erbyn yr Eglwys. Mae yn myned yn mlaen i ddatgan " mai dyma y tro cyntaf i'r Gynhadledd Eglwysig gael ei chyúnal yng Nghymru, ond ei fod yn tybied na fyddai mewn brys mawr i dalu ymweliad eilwaith â'r Dywysogaeth." Ni ddy- ẃedwyd ac rii awgrymwyd dim o'r fath beth gan neb oedd wedi dytod yno, hyd y gwelsom ac hyd y darllenasom. Nid ydyw dywedyd peth o'r fath hyn ddim yn amgen na cham- ddarlunio a dychymygu pethau yn unol âg ewyllys yr ysgrifenydd ei hunan, er mwyn atteb ei ddibenion, sef dirmygu yr Eglwys. Canys yr ydym yn darllen yn hanes y Gynhadledd i Esgob HenfFordd ar y diwrnod olaf, cyn terfynu y gweithrediadau, ddychwelyd diolchgarwch yr ymwelwyr am y cioesaw caredig a dderbyn- iasent gan foneddigion y gymmydogaeth ac eraill. Ac y byddai iddynt, ar ol dychwelyd i'w cartrefleoedd, adgoíìo, gyd â llawer o hyfrydwcb, am Abertawy, y dref fwyaf crcesawus a mwyaf hudr. Eiliwyd y cynoygiad gan Ddeon Caer, a chariwyd ef gyd â chymmeradwyaeth mawr. Buasai yn hyfrydwch gennym ganfod yspryd cûl a rhagfarnllyd Ymneillduaeth eithafol yn cymmeryd gwers oddiwrth ymddygiad yr Arch- esgob yn y Gynhadledd, a'r dull rhydd a di- ragfarn y mae yn cyfeirio at Ymneillduaeth Cymru yn ei bregeth agorladol. Testyn ei bregeth ydoedd St. Luc ix., 50,—" Canys y neb nid yw yn ein herbyn trosom ni y mae." Dywedai fod geiriau ein Harglwydd yn y testyn yn hynod o gymmwys at amgylchiadau yr oes hon, ac nad oeddynt yn anghymmwys ychẃaith ar gyfer y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo. Yr oeddynt yn gymmwys ar gyfer amgylchiadau yr oes, am fod gennym achos i ddiolch i Dduw ein bod yn byw mewn amser- oedd o ddifrifoldeb mawr. Ac mewn amseroedd o'r fath, mae pobl yn rhoddi pwys neillduol ar athrawiaethau a fFnrfiau, y rhai y mae Duw wedi eu bendithio i ddeffroi dynion, ac i aíchub eu heneidiau. Ac oherwydd hynny, yr oedd amseroedd o ddifrifoldeb yn gyffredin iawn yn amseroedd o ymranniadau o ran ymddangosiad, ond yr oedd yn hyderu fod yr ymranniadau hynny yn fwy o ran ymddangosiad nag yn wirioneddol, tra yr oedd pobl yn cyduno ar athrawiaethau sylfaenol Crefydd Crist. Dy- wedai hefyd nad oedd y geiriau yn anghym- mwys gyd â golwg ar y lle yr oeddynt ynddp,