Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Dwu) yn ei phalascm a adwaemr yn amddijfynfa»—Ps. xlviii. 3. Ìiìtìttfpqìẁ tjr f glmp. Twr y Rlooh treìgla nohoä,—ei wys hen I wasanaeth Duwdod; Cana ei hen dino hynod, Llan, Llan, Llan y w*r fan i fod-. Ebbh Fabhd. O fewn dy eaeran heddwch boed, Fth lysoedd deued hawddfyd: Er rawyn fy mrodyr mae'r aroh hon, A'm oymmydogion hefyd. Pb. oxxii. Otf. VII. Rhip. 5. HYDREF, 1879. Peis 2g. CYNNWYSIAD. Crynodeb Pedwar Nod y Wir Eglwys.. Ymneilduaeth 1 >diweddar Enwadau Ymnailldaol Cymru a'r Llywodraeth Llith y Clocbydd Lleyg Ehyddid Anghrefyddol Y Gynnadledd Eglwysig yn Abertawe .. Yr Anrhydeddas G. Osborne Morgan, A.S., yn gosod i lawr Garreg Sylfaen Capel Wesleyaidd yn Abergele.. Ysgoloriaethaa Agored a'u Canlyniadaa.. Bnddngoliaeth Ymarferol yr Efengyl Deon Lichfield ar ûdadsefydliad yr Eglwys .. CBYNODEB. YE ydyrr droiori, yn ystod y blynyddau a aethant heibio, wedi galw sylw ein darllenwyr at yr ys- tadegau a gyhoeddir gan Ymneillduwyr er ceisio profi fod mwy na hanner poblogaeth y deyrnas yn wrth- wynebol i'r Eglwys Sefydledig, ac wedi dangos eu bod yn hollol ffugiol. Fynychaf, pan yn ceisio profi hyn, appelir at nifer mawr y Capeli Ymneillduol, a nifer yr eisteddleoedd. Ond, fel y dangosasom dro yn ol, nis gall dim fod yn fwy cyfeiliornus na cheisio seilio dirnadaeth am nifer Ymntillduwyr y deyrnas ar nifer y lleoedd addoliad a hawlir fel Capeli Ymneill» duol, oblegid fod yn agos i hanner yr 20,000 a hawlir fel Capeli yn ddim ond tai preifat, ystafelloedd, Music Halls, Railway Arches, &c, hynny yw, yn gyfryw ag nas gellir eu cyfrif mewn modd yn y byd yn Gapeli Ymneillduol. Y mae ffeithiau o wahanol natur yn profi yn eglur nas gall fod nifer yr Ymneill- duwyr yn Lloegr a Ohymru yn un ran o bedair o'r boblogaeth. Dro yn ol gofynodd Major O'Brien, A.S. dros Leitrim, um Jieturn awdurdodedig o nifer Swyddogion a Milwyr cyffredin y Deyrnas a berthyn- ent i'r gwahanol bleidiau crefyddol. Y mae yr ystad egau yn awr wedi eu cyhoeddi, ac y maent yn taflu goleuni nid bychan ar y pwngc mewn dadl yn fynych rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr, sef nifer cyd- mariaethol y naill a'r llall. Y mae y Daflen wedi ei rhannu i bedwar dosparth, sef Eglwyswyr, Pabydd- ion, Presbyteriaid, Enwadau Protestanaidd eraill. Er mwyn caef golwg deg ar nifer cydmariaethol Eglwys- wyr ac Ymneillduwyr yn Lloegr a Chymru, rhaid gadael allan o'r cyfrif y Pabyddion a'r Presbyteriaid, gan fod y naill yn Wyddelod, a'r lleill yn Ysgotiaid I gyd âg ychydig eithriadau, rhy ddibwysi wneyd sylw o honynt. Wel, a gadael allan y Gwyddelod a'r Ys- gotiaid, y Pabyddion a'r Presbyteriaid, cawn fod nifer y Fyddin Brydeinig yn 56,845 ; o'r nifer hwn y mae 52,860 yn Eglwyswyr, a dim ond 3,985 yn per- thyn i'r holl Enwadau Ymneillduol; mewn geiriau eraill, y mae cyflwr y Fyddin yn dangos fod Eglwys- wyr yn y deyrnas yn rhifo mwy na phymtheg gwaith gymmaint a'r Ymneillduwyr. Efallai fod sefyllfa y Fyddin yn rhoddi golwg rhy ffafriol ar gyflwr yr Eglwys ; ond pan gofiom fod y milwyr yn ymrestru yn wirfoddol, a'u bod yn dyfod yn bennaf o'r dosparth o'r boblogaeth yn yr hwn y mae Ymneillduaeth f wyaf blodeuog, gellid disgwyl y byddai sefyllfa giefyddoly fyddin yn ddangoseg íled gywir o sefyllfa grefyddol y deyrnas, y byddai nifer yr Ymneillduwyr yn y Fyddin yn ddangoseg o'u nifer yn y wlad yn gyffredinoL Y mae y ffaith fod yr Ymneillduwyr mor wrthwynebol i gael cyfrifiad teg ac awdurdodedig o'r boblogaeth yn ei hagwedd grefyddol yn dangos eu bod yn argy- hoeddedig na wnai y cyfryw gyfrifiad ddim ond dynoethi eu gwendid. Y mae yr adeg yn dynesu i wneyd y cyfrifiad deng mlwyddol o'r boblogaeth; hyderwn y gwna Ymneillduwyr ddangos mwy o barodrwydd i gael cyfrifiad teg ac awdurdodedig o'r boblogaeth yn ei hagwedd grefyddol nag a ddangos- asant yn 1861 ac yn 1871. Pan geir y cyfryw gyf- rifiad, ac y mae yn sicr y ceir ef heb fod yn hir, ceir prawf eglar fod yr Ymneillduwyr yn 1851 wedi bod yn too clever by half. CYHOEDDASOM yn ein rhifyn diweddaf ddyfyn- iadau helaeth o'r lyst a'r Dydd yn profi, yn ol tystiolaeth Annibynwr, nad yw y Drefn Wirfoddol ddim yn tueddu i roddi i'r Gweinidogion sydd yn byw arni y safle a'r annibyniaeth a haeddant ac a ddylent gael er eu galluogi i gyflawni dyledswyddau eu swydd. Nid yw fod gweinidog yn y fath sefyllfa ag na feiddia ddatgan ei farn ar byngciau pwysig, fel y cyfaddefir fod Uuaws ym mhlith yr Annibynwyr, yn fanteisiol iddo gyflawni yr hyn sydd rwymedig arno, sef mynegi holl gynghor Duw. N&, nid yw y Drefn Wirfoddol yn fanteisiol i weinidog fyw arni pan yn ieuangc ; ond naw wfft iddi pan elo y gweinidog yn oedrannus ! Aml yw y dyfeisiau a gynllunir er cael gwared o " hen weinidog." Aml yw y cernodiau, yr hints y rhaid i " hen weinidog" gydymddwyn â hwynt. Yn y Birmingham Òatette dro yn ol ym- ddangosodd hanesyn sydd yn ddangoseg o'r modd yr ymddygir ynfynych at " hen weinidogion "ymmhlith