Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Dwu> yn «i phalasau a adwaenir yn amddiffynfa,"^PB. xlviÜ' 3. tóîffpìjMnjr € Twr y gloch trcigl» nohod,—ei wy§ han I waaanacth Puwdod; Cana ei hen dinc hjnod, Llan, LUn, LUn /w'r fan i fod. O fewn dy gaerau heddwch boea, I'th lysoedd deued hawddfyd : Kr rawyn fy mrodyr mae'r arcb hon, A'm cymmydogion hefyd. Ps. gxxii. Orp. VII. Rhif. 2. GORPHENAF,- 1879. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Crynodeb Llith y Clochydd Lleyg Gwaddoliadau Cymreig yn Rhydychen . Corahyddiaeth Pregeth Deon Bangor yn Lerpwl " A fydd bvw yr esgyrn hyn " ? Y Gydwybod Ymneillduol Bedyddwyr Arfon .. .. .. CBYNODEB. YR ydym yn dymuno galw sylw arbennig ein dar- llenwyr at y bregeth nerthol a galluo» a dra- ddodwyd gan Ddeon Bangor yn Eglwys Gymreig Liverpool, ar y Sul olaf o Fis Ai ai, gan y credwn ei bod yn cynnwys gwirioneddau pwysig, a íhra angen- rheidiol i Eglwyswyr Cymru fyfyrio arnynt. (Jeir ynddi atteb y Deon i'r Cwestiwn dyddorol " Pa ham y mae y Cymry wedi gadael yr Eglwysp" Y testyn ar ba un y seilia yr awdwr ei sylwadau yw 1 Corinth- iaid ix 22, 23. " Ymwneuthym i'r rhai gweiniaid megys yn wan, fel yr ennillwn y gweiuiaid : mi a ymwneuthym yn bobpeth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai. A hyn yr wyf fi yn ei wneuthur er mwyn yr Efengyl, fel y'm gwneler yn gjd gyfrannog o honi." Y mae y Deon gyda'i dreiddgarwch arferol, yn symio i fynu yr egwyddor fawr sydd gynnwysedig yng ngeiriau yr Apostoi mewn un frawddeg : " Y gwirionedd," meddai, " a ddysgir yn y geiriau hyn, at ba un y galwaf eich sylw, yw, fod gweinidogaeth yn meddu y cydymdeimlad dyfnaf yn hanfodol angen- rheidiol i achub eneidiau yn Eglwys Dduw.'' Dyma Jtty note y bregeth drwyddi. l3yma yr Egwyddor ar ba un y gweithredai Apostol mawr y Cenhedloedd; gwnai ei hunan yn bobpeth i bawb er mwyn enill eu hyder. Tystia fod ganddo hawí i'w gynnaliaeth oddiar lawy Corinthiaid y rhaia wasanaethid ganddo, ond fel na byddai i'w amcan a'i ddyben gael eu cam- ddeall, nid arferai yr hawl hon, a gwnai hyn "er mwyn yr Eiengyl." Bhoddai brawí ymarferol o'i hunanymwadiad er mwyn eu hargyhoeddi nad oedd yn oeisio yr eiddynt hwy, ond hwynt hwy—nid eu meddiannau, ond eu calonnau. Yn y tri tudalen ar hugain cyntaf o'r bregeth y mae y Deon yn ymdrin yn fanwl a galluog âgymddygiadac amcan yr Apostol yn ei Weinidogaeth, yng nghyd â'r cymhellion anorchfygol a'i cynhyrfent; ac yna, gyda ei dde- heurwydd arferol, cymhwysa ei sylwadau at sefyllfa yr Egíwys yng Nghymru ; ac ni phetruswn ddyweyd mai y rhan olaf a meithaf o'r bregeth, lle y dengys, mewn modd auattebadwy, mai un o'r prif achosion, os nad y prif achos o Ymneillduaeth y mwyafrif o'r Cymry oddiwrth hen Eglwys eu tadau, yw fod Prif Fugeiliaid yr Eglwys yng Nghymru, ynghyd â'r mwyafrif mawr o rai yn dal swyddi uchel ac urddasol ynddi, wedi eu dewis o blith estroniaid, heb f adru siarad eu hiaith na chydymdeimlo â hwynt ; rhai yn dirmygu yr iaith Gymraeg, ac yn gwawdio eu tra- ddodiadau. Nid rhyfedd, gan hynny, ddarfod iddynt, er o ran eu swydd yn Flaenoriaid y bobl, golli y flaenoriaeth, ac i preill llai cymmwys gymmeryd eu lle. Y mae y bregeth drwyddi yn cael ei hynodi gan graffder, a hyawdledd anarferol. Fel esiampl o'r olaf cyfeiriwn y darllenydd at y brawddegau ar tud. 25, 26; ac feí engraifft o'r blaenaf cyfeiriwn ef at yr hyn a geir ar tud. 11 a'r rhai dilynol. Gall pawb a ddarlleno y bregeth hon yn ystyriol ganfod fod yrholl sylwadau drwyddi, o'r frawddeg gyntaf i'r olaf, yn cyfeirio at jr un nod, ac nad oes ynddi, er meithed ydyw,ddim ammherthynasol, na dim nad yw yn ang- eurheidiol er cynnyrchu argyhoeddiad. Nodweddir y bregeth hefyd gan wroldeb mwy na chyffredin, Meiddia y üeon ddyweyd y gwir a'r holl wir, er iddo, trwy hynny, wneyd eu hun yn agored i gael ei gam- ddarlunio a'i bardduo. Y mae yn fendith i'r Eglwys yng Nghymru fod digon o serch tuag atti ym myn- wes ambell un o'i meibion i wneyd cryn aberth er ei mwyn. Gobeithiwn, a chredwn hefyd, fod Deon Bangor wedi rhoddi ergyd mor drwm i'r hen system bwdr sydd wedi bod mor andwyol i lwyddiant a Ues pennaf yr Eglwys yn Nghymru ag i wneyd pennod- iadau o'r fath ag y cwyna o'u herwydd yn annichon- adwy yn y dyfodol. Terfynwn ar hyn, gan ein bod yn gwneyd sylwadau ar yr un matter mewn colofn arall. YMAE yn dda gennym weled fod cwestiwn ag y dylai pob Cymro cywirgalon deimlo mawr ddydd- ordeb ynddo, sef y " Gwaddoliadau Cymreig yn Rhyd- ychain," o'r diwedd yn aechreu cael y sylw a deilynga. Y mae Erthygl arweiniol ym Maner ao Amserau