Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*tj)ww V* •* fhabuw a adwaenir yn amddiÿynfa."—Bs. ihriii. 3. Twr/ glooh treiria nohod,—ei wy» •»•»> 1 wasanseth jDawdod; Cnna ei hen dino liynod, Llan, Llan, Llan yw*r fan i fod; £BM Fabbd. O fewn dy aaeraa heddwoh boeü, T'th ly Boedd deued hawddfyd t Er mwyn fy mrodyr mae'r aroh hou, A'm eymmydogion hefyd. Pi. oim. Otf. VII. Rhif. 1. MEHEFIN, 1879. Pbis 2g. CYNNWYSIAD. Crynhodeb ^ Agor y Mynwentydd .. 3 Yr Hen Gatholiciaid—Hyacinthe Loyson.. Adeilada Bylchan Seion .. .. .. 6 Rbagolygon Cymdeithas Rhyddbad Parottoad i Weinidogaeth yr Eglwys.. .. 11 Yr iáglwys, y Capel, a'r Llys Gwladol 13 Peryglon Qaacyddiaeth Grefyddol .. 15 Amrywion .. ... ... .. 16 CBYNODEB. YMAB y wlad yn dechreu canfod peth arall mewn cyssylltiad â'r Byrddau Ysgol, sef fod yr hyn a glödforid gymmaint unwaith Addysg Anenwadol— yn ddinystr i foesau. Un o'r ychydig Fyrddau Ys- gol yn Lloegr a ddarf a alltudio pob math o addysg frefyddol o'r Ysgolion cyssylltiedig âg ef ydyw Bwrdd 'sgol Birmingham. A barnu oddiwrth araeth a dra- ddodwyd yn ddiweddar gan Mr. Dixon, Cadeirydd y Bwrdd, ymddengys fod, nid addysg grefyddol yn unig, ond hefyd pob math o addysg foesol, yn anghyf- reithlon yn yr Ysgolion, oddieithr y gellir galw dysgu y plant i fod yn garedig i anifeiliaid yn addysgfoesol. Ni chaniatteid dysgu i'r rhai bychain fod ganddynt gydwybodau. Ni ddysgwyd iddynt y gwahaniaetb rhwng drwg a da ; fod ganddynt ddyledswyddau i'w cyflawni; eu bod yn gyfrifol i Dduw ; a bod byd tu draw i'r bedd. Y mae yn debyg nad y w gwaith y Bwrdd yn gwahardd dysgu y pethau pwysig a han- fodol hyn wedi cael ei goroni â liwyddiant. Cynhal- iwyd cyfarfod o aelodau y Bwrdd ychydig yn ol ym mha un y cynnygiwyd ac y penderfynwyd fod i " Addysg Poesol " gael ei chyfrannu yn yr ysgolion rhagllaw. Ac yr oedd Mr. Dixon mor haelfrydig a dyweud nad oedd yn gweled 7 dylid beio rbyw lawer ar Ysgolfeistri a Meistresi y Éwrdd, os byddai iddynt, wrth geisio cyfrannu " Addysg Foesol," yn unol h phenderfyniad y Bwrdd, ddytoeud enw y Creawdwr, ac aros ychydig ar anfarwoldeb yr enaid. Chwarae teg i Mr. Diyon ! Y mae yn caniattau dweud wrth y plant bach fod Duw yn bod, a bod byd ar ol bwn! Ond o ran hynny sut y gellid cyfrannu " Addysg Foesol" heb hyn nis gallwn ddyfalu. Byddai mor hawdd ceisio dysgu seryddiaetb heb Rifyddiaeth, cheisio dysgu moesoldeb heb ddyweud dim am Dduw ac anfarwoldeb yr enaid. Y mae yn beth ofnadwy o sobr i feddwl fod yng Nghymru saith ar hugain o Fyrddau Ysgol ar gynllun Bwrdd Ysgol Birniingham —yng Nghymru grefyddol saith ar hugain o Fyrddau Ysgol Pe na chaniatteir dweud dim am Iesu wrth y rhai bychain, eiddo pa rai yw teyrnas nefoedd. Nis gwyddom am ddim sydd yn profi mawr ddrwg sect- yddiaeth mor eglur a'r ffaith fod rhagfarn a phen- Doethni sectol wedi alltudio y Beibl, a pliob math o addysg grefyddol a dysgeidiaeth foesol o saith ar hugain o Fyrddau Ysgol Uymru. YMAE arwyddion fod y wlad yn cyflym ddyfod weled fod y symmudiad a gefnogid mor galonnog gan Ymneillduwyr, a Phregethwyr Ymneillduol Lloegr a Chymru ychydig flynyddoedd yn oL yn troi allan yn fethiant mewn mwy nag un ystyr. Yr ydym yn cyfeirio at y Byrddau Ysgol. Credìd ar y cychwyn gan yr hygoelus a'r anwybodus na fyddai y draul cyssylltiedig â'r Byrddau ond y nesaf peth i ddim. Clywsom bregrthwyr, a ystyrid yu ddeallgar y dysg- edig, yn haeru nas gallai y dreth ys^ol fod yn fwy na thair ceiniog y bnnt. Ÿr oedd Offeiriaid, mewn gwahanol barthau o'r wlad, yn gwneud eu goreu i ddarbwyllo eu plwyfolion a'r cyhoedd fod y Pregeth- wyr dysgedig a deallgar hyn yn cyfeiliorni. nnd yn gymmaint ag y credid y byddai sefydlu Bwrdd Ysgol yn siommedigaeth i Eglwyswyr, ac yn ddyruod i'r Eglwys. nid oedd oud ychydig yn credu yr hyn a ddywedent. Ond erbyn heddyw y mae eu llygaid wedi eu hagoryd, ac y mìent yn cael profi er eu siommedigaeth a'u tristwch, mai yr hyn a ddywedai yr Ott'eiriad, ac nid yr hyn a haerai y Pregethwr, oedd wirionedd. Yn lle tair ceiuiog y bunt, y mae y dreth mewn rhai mannau yn cyrhaedd y swm hwn ddfngwaith drosodd. Rhoddwn yma ychydig eng- rtiphtiau o'r baich trwm ag y mae rhagfarn sectol, pcnbjethni, ac anwybodaeth wedi ei osod ar ysgwydd- au y trethdalwyr : Feltham (Middlesex)...... Is. 4c. yn y bunt. Great Stamford (Essex).. ls. 4c. „ !averhill (i-'ssex)........ ls. 6c. ,$ * Heyworth (Hants) ...... ls. 6c. „ Queenborough (Kent) ... Is. I0c. „ Broom (Norfolfc) ........ 2s Ühickerell (üorset) ------^s. Jîc. „ Shefford(Beds).*...'..-. 2s.Ic. „ Y mae y cyflymdra gyd â phaun y mae y dreth addysg