Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Dttw yn ei phalasau a adwaenir yn ow«Zcí»ŴŴ.,»_—Pb. xlviii. 3. ImìiìuffpìjWljr fglip. Twr t glooh treigla nchod,—oi wy» hen I wasanaetb Dawdod; Cana ei hen dino hynod, Llan, Llan, Llan jw't fan i fod. £bbh F^bdb. O fewn dy gaerau heddwoh boed, I'th lysoedd deued hawddfyd: Er mwyn fy mrodyr mae'r arch bon, A'm cymmydogion hefyd. Pb. oiíti. Ctf. VI. Rhif. 12. MAT, 1879. Peis 2gl CTNNWYSIAD. Y Byd a'r Cnawd............ 177 Agor y Mynwentydd .......... 179 Llith y Clochydd Lleyg.......... 180 Hen Wroniaid yr Eglwys yng Nghymra .. .. 182 Ardystiad Clerigwyr Bangor ac Esgob Llandaf .. 1S4 Gweddi,'Ddifyfyr" .......... 186 Annibyniaeth ar ei phrawf yn y Bala...... 188 Y Presbyteriaid Catholig, &c. .. ,..... 189 Y BYD A'R GNÂWD. " Ac o diflasodd yr halen â pha beth yr helltir ef ?" YMAE y byd a'r cnawd yn gwneud mawr ddinystr ar grefydd ysprydol ym mhob cyfeiriad yn y dyddiau hyn. Mewn gwirionedd y maent wedi ennill iddynt eu hunain safle uchel ym mysg y bobl a ystyrid yn grefyddol. (a) Y Byd.—Y mae y byd bron a chael y lle uchaf yn Eglwys Dduw. Pan edrychom dros hanes y twyll masnachol dirfawr a ddaeth i'r golwg drwy dorriad Banciau a chwmniau trafnidiol, ceir gweled mivy na hanner y twyll- wyr hynny yn gwisgo cochl crefydd. Ym mysg twyllwyr Banc Glasgow, y rhai sydd yn awr yng ngharchar, y mae mwy na'r hanoer yn flaenoriad crefydd, ym mysg gwahanol enwadau. Darllenasom am ddyn yn ddiweddar yn Llun- dain, yr hwn a dybid ei fod yn arianog, ac a gadwai dŷ da, gan warrio tair mil a phum cant o bunnoedd ar ei deulu; ac am bol punt a wariai arno ei hun, rhoddai bunt arallat achosion crefyddol ac elusengar. Edrychid ar y gwr hwn fel engraifft o'r Cristion uchaf a mwyaf ffrwythlon. Efe oedd y pen ym mhob achos da. Ond erbyn dydd y cyfrif, pan aeth y gwr yn fethdalwr, gwelwyd ei fod wedi twyllo y cyhoedd o dros ddau can mil o bunnoedd, ac na bu ganddo erioed gan bunt o'i eiddo ei hun. Y mae twyll o'r natur yma yn dyfod i'r golwg yn wythnosol, ac fel y mae yn ofidus meddwl, "ceblir enw Crist" ym mysg yr anghredinwyr oherwydd hyn. Dywedir am Gristionogaeth ei bod wedi colli ei rhinwedd, ei dylanwad, a'i nerth, i foesoli dyn. Dywedir ei bod yn achles twyll, ac yn nythle a magwrfa anwiredd. Priodolir anwireddau a drygioni y rhagrithwyr hyn i Efengyl bur y Gwaredwr Bendigedig a'r athrawiaeth ogoneddus o gyfiawnhad peehadur yn rhad trwy ffydd yn ei waed ef. Ond nid yw y gwir halen wedi difiasu, na'r dwyfol wirionedd yn Ilai grymus. Rhagrybuddiodd Crist Iesu y byddai i ragrith- wyr o fath y rhai hyn ymwthio i'w Eglwys Ef, a cheir manteisiou dirfawr iddynt wneud hyn yn awr. (r). Y mae yr ymranniadau Uiosog ym mysg Cristionogion yn rhoddi mantais fawr i ddyrchafu y rhagrithwyr i'r prif-gadeiriau. Rhydd bodolaeth hanner dwsin o sectau, a chynnifer a hynny o addoldai ddrws agored iawn i'r cyfryw fyned i mewn. Dyma fan i'r dyn twyllodrus esgyn grisiau cyhoeddusrwydd. (2). Y mae yn yr Eglwys, ac yn neillduol ym mysg enwadau, le manteisiol iawn i dwyllwr guddio ei gymmeriad, oherwydd er fod llawer o ragrithwyr ym mysg crefyddwyr yr oes, y mae y mwyafrif etto yn bur. Er fod yr efrau yn Uiosog yn y maes, gwenith yw Uawnder y